text
stringlengths 76
2.23k
| __index_level_0__
int64 0
4.36k
|
---|---|
Mae cynhwysiant ariannol a llythrennedd ariannol yn rhywbeth rydym yn ceisio'u cynnwys yn rhaglen y cwricwlwm. Byddaf yn gweithio gyda'r Gweinidog addysg i weld sut y gallwn hyrwyddo hynny yn ystod yr wythnosau nesaf. Efallai y byddai'r Aelod hefyd yn hoffi ysgrifennu at y Gweinidog addysg i ddweud sut y gallai ei helpu i roi sylw blaenllaw i hynny yn ein hysgolion a'n colegau ledled Cymru. | 400 |
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn, ond, edrychwch, ni allwch gadw eich dwylo yn lân ar hyn, Mark. Dywedais yn gynharach fod trechu tlodi yng Nghymru yn arbennig o anodd am nad oedd gennym yr holl ddulliau yn ein meddiant. Mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi torri £1.2 biliwn oddi ar gyllid Cymru, ac mae hynny'n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus. Felly, er y byddwn yn ceisio ac yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i gyflawni gwell canlyniadau ar gyfer ein teuluoedd ledled Cymru, carwn ofyn hefyd i'r Aelod gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i chwilio am gyllid teg i Gymru, fel y gallwn ei drosglwyddo ymlaen i deuluoedd yma yng Nghymru. | 401 |
Wrth gwrs, rwy'n cydnabod yr holl faterion a nodwyd yn yr adroddiad hwnnw, ond rwy'n credu mai'r pwynt rydych wedi colli golwg arno'n llwyr oedd y ffaith fod angen cyllid i weithredu llawer o'r rhaglenni hyn. Ac rydym yn wynebu heriau eithriadol yn y ffordd rydym yn rheoli ein cyllidebau oherwydd yr her y mae Llywodraeth y DU wedi ei gosod i ni. Rydym yn edrych gyda'n gilydd ar sut rydym yn trechu tlodi ar draws Ysgrifenyddiaeth y Cabinet. Byddwn yn parhau i wneud hynny er lles gorau ein plant. | 402 |
Cyfeiriaf yr Aelod at y strategaeth trechu tlodi a'r strategaeth tlodi plant y byddwn yn eu hadnewyddu eleni. | 403 |
Efallai y byddai'r Aelod yn dymuno gofyn y cwestiwn i'r Prif Weinidog, gan mai rhywbeth a ddywedodd ef oedd hynny nid rhywbeth a ddywedais i. Ond mae gennyf farn ar hyn; mae'r Prif Weinidog wedi bod yn glir iawn ynglŷn â phwysigrwydd bod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd, ac i Gymru fod yn aelod o'r UE. Mae'r Aelod - rwy'n gwybod nad yw'n byw yng Nghymru yn draddodiadol, ac nad oes ganddo ddiddordebau Cymreig - ond yr hyn sydd gennym yma, a'r hyn y mae'r Prif Weinidog yn awyddus iawn i'w wneud, yw sicrhau ei fod yn cynrychioli pobl Cymru'n dda, a thrwy fod yn rhan o'r UE y mae gwneud hynny. | 404 |
Nid yw sylwadau'r Aelod yn syndod o ystyried y blaid y mae'n rhan ohoni'n awr. Y ffaith yw bod gweithio gyda phlaid arall - gyda San Steffan - yn rhywbeth rydym yn ei wneud yn rheolaidd. Nid yw'n beth newydd i weinyddiaeth ddatganoledig wneud hynny, ond nid yw'n amhosibl i ni weithio gyda'n cyfeillion ar draws Ewrop chwaith, a dyna ddylai'r Aelod feddwl amdano'n ofalus yfory. | 405 |
Nid yw'r Aelod wedi ymddangos yng Nghymru nes yn ddiweddar, cyn yr etholiad, ac mae'n debyg nad yw'n gyfarwydd iawn â llawer o'r ardaloedd rydym i gyd yn eu cynrychioli yn y Siambr hon. Ond gadewch i mi dynnu sylw at un ardal yn Sir Fynwy, sydd yn ei ranbarth ef rwy'n credu, lle mae 305 o fentrau wedi'u cynorthwyo a 430 o fentrau wedi'u creu, gyda 865 o swyddi yn Nhrefynwy ei hun, diolch i'r cyllid UE rydych chi a'ch cyd-Aelodau yn ei roi mewn perygl. | 406 |
Diolch iddo am yr ateb hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru, fesul cam, yn dod yn gyfrifol am fwy a mwy o elfennau o ddiogelwch cymdeithasol, os caf ddefnyddio term retro arall, o gymorth gyda'r dreth gyngor i'r gronfa taliadau yn ôl disgresiwn a'r Rhaglen Waith. Er gwaethaf hynny, fodd bynnag, mae dinasyddion yn y wlad hon yn dal i ddioddef yn sgil effeithiau polisïau lles atchweliadol a chosbol o Whitehall. Fel y mae wedi crybwyll ar sawl achlysur y prynhawn yma, nid oes ganddo lawer o ddulliau yn ei feddiant yn y maes hwn. Gan fod y maes polisi hwn yn biler mor hanfodol ym mholisi cyhoeddus Cymru, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i gyhoeddi rhaglen ar wahân sy'n amlinellu sylfeini gwladwriaeth les i Gymru, a fyddai'n cynnwys y cyfeiriad teithio ar gyfer polisi gyda'r setliad datganoli cyfredol, yn ogystal â gweledigaeth ar gyfer lles yng Nghymru yn sgil trosglwyddo pwerau diogelwch cymdeithasol pellach yma? | 407 |
Weinidog, byddwch wedi gweld bod y Cenhedloedd Unedig wedi cyhoeddi adroddiad damniol yn ddiweddar ar effaith mesurau caledi Llywodraeth y DU ar dlodi plant yn y DU. Yn wir, fe'i disgrifiwyd gan y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant fel darllen Cyhuddiad o fethiant y llywodraeth i roi blaenoriaeth i blant yn ei phenderfyniadau ar nawdd cymdeithasol. A ydych yn rhannu fy mhryderon ynglŷn â hynny? A wnewch chi ddwyn y pryderon hynny i sylw'r gweinidog cyfatebol yn San Steffan? Ond ar ben hynny, a ydych hefyd yn rhannu fy mhryderon, os ydym yn pleidleisio dros adael yr UE yfory, y bydd yr effaith ar ein heconomi yn golygu bod plant yn debygol o ddwyn mwy fyth o faich polisïau caledi'r DU? | 408 |
Canfu gwaith ymchwil diweddar gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid fod credyd cynhwysol yn gwneud llawer i helpu i wneud i waith dalu i lawer o'r rheini sydd ar hyn o bryd yn wynebu'r datgymhellion mwyaf difrifol. Aethant ymlaen i ddweud y bydd nifer y bobl sy'n wynebu cymhellion gwan iawn i gael gwaith yn gostwng dwy ran o dair. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â'r sefydliad pan ddywed: dylai credyd cynhwysol wneud y system yn haws ei deall, lleddfu'r broses o bontio rhwng bod mewn gwaith a bod allan o waith, a chael gwared i raddau helaeth ar y datgymhellion mwyaf eithafol i weithio neu i ennill mwy a grëwyd gan y system bresennol? | 409 |
Ysgrifennydd y Cabinet, efallai y byddwch yn ymwybodol o adroddiad diweddar gan Ganolfan ar gyfer Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Rhanbarthol Prifysgol Sheffield Hallam. Roeddent yn tynnu sylw at effaith anghymesur toriadau i fudd-daliadau lles ar bobl Cymru o'i gymharu â'r DU yn ei chyfanrwydd - credaf mai dyna'r pwynt sydd eisoes wedi cael ei wneud - ac mae hyn hyd yn oed yn fwy amlwg yn y Cymoedd. Mae'n nodi y bydd y newid arfaethedig i'r lwfans tai lleol yn gwaethygu'r anghydraddoldebau hyn drwy effeithio fwyaf ar yr ardaloedd mwyaf difreintiedig eisoes, a'r pwynt cyfeirio ar gyfer gosod cyfradd y Lwfans Tai Lleol fydd 30 y cant isaf y rhenti sector preifat, mewn ardal lle mae rhenti sector preifat eisoes yn isel iawn. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet nodi pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael i sicrhau nad yw'r rhai sy'n cael lwfansau tai lleol yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru o dan anfantais anghymesur ar sail y cyfrifiad o'r rhent cyfartalog a fydd yn pennu'r Lwfans Tai Lleol? | 410 |
Diolch i'r Aelod dros Orllewin Casnewydd am ei chwestiwn. Yn fuan byddaf wedi cynnal trafodaethau â phob un o gomisiynwyr heddlu a throseddu Cymru er mwyn nodi cyfleoedd ar gyfer cydweithio. Rwy'n benderfynol o fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a byddaf yn gweithio gyda'r comisiynwyr er mwyn gwneud hyn. | 411 |
Wrth gwrs, mae'r Aelod yn iawn i nodi hyn. Mae ymrwymiad maniffesto Llafur Cymru i ddarparu 500 swyddog cymorth cymunedol yr heddlu yn rhywbeth a oedd yn boblogaidd iawn ar garreg y drws pan aethom at yr etholwyr y tymor diwethaf. Gan barhau â'r 101 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yng Ngwent y mae'r Aelod yn cyfeirio atynt, rwy'n cytuno y bydd y cyllid hwnnw'n parhau i wneud gwahaniaeth hollbwysig. Mae'n rhaid i ni ystyried sut y bydd y comisiynwyr heddlu a throseddu yn gweithredu mewn perthynas â swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu; mater gweithredol iddynt hwy yw hwn. Ond mae'n rhywbeth lle rwy'n edrych ymlaen at weithio ar bolisïau ar y cyd gyda'n gilydd, a sut y gallwn fynd i'r afael â blaenoriaethau comisiynwyr heddlu a throseddu a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru gyda'i gilydd. | 412 |
Diolch am gwestiwn yr Aelod. Byddwn yn gofyn i'r Aelod fyfyrio ar yr ystadegau sydd ganddi oherwydd cefais rywfaint o gyfarwyddyd yn ddiweddar ynglŷn â Stryd y Gwynt yn arbennig. Ceir prosiect yno mewn partneriaeth â'r comisiynydd heddlu a throseddu, Alun Michael, a'r bwrdd iechyd lleol a'r gwasanaeth ambiwlans yn ymwneud â sut y maent yn rheoli'r economi nos. Mae wedi cael canlyniadau gwych o ran lleihau nifer yr achosion o droseddu a chamddefnyddio alcohol yn yr ardal benodol honno. Rwy'n credu eu bod yn ei alw'n Fan Cymorth. Cyfeiriaf yr Aelod at hynny, ac efallai ei fod yn rhywbeth y byddai'n hoffi edrych arno am ei fod yn enghraifft wych o'r hyn y gallwn ei wneud mewn cymunedau lle y ceir pwysau o ganlyniad i'r economi nos, gyda Stryd y Gwynt yn un ohonynt. Ond rwy'n credu ei fod yn newid o fod yn un o'r mannau lleiaf diogel i fod yn un o'r mannau mwyaf diogel yn y DU. Felly, byddwn yn gofyn i'r Aelod ddiweddaru'r ystadegau sydd ganddi o bosibl. | 413 |
Diolch i chi am hynny. Roedd adroddiad y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol ar wella cyfleoedd bywyd yn annog Llywodraeth y DU i ystyried y pum prif lwybr at dlodi - chwalfa deuluol, diweithdra, dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol, dyled bersonol ddifrifol a methiant addysgol - ac yn dilyn hynny lansiodd Llywodraeth y DU ei strategaeth cyfleoedd bywyd. Mae hon yn dechrau gyda'r gred sylfaenol nad beichiau i'w rheoli yw pobl sy'n byw mewn tlodi, fod pob person yn ased i'w wireddu ac y dylid meithrin potensial pobl. Os ydych yn cytuno â hynny, ac rwy'n gobeithio eich bod, a wnewch chi edrych ar y dystiolaeth a chwilio am wybodaeth i weld a allech, a sut y gallech gyflwyno strategaeth cyfleoedd bywyd wedi'i gwneud yng Nghymru ar gyfer Cymru? | 414 |
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r 1,000 diwrnod cyntaf yn hanfodol ar gyfer datblygiad iaith ac ar gyfer darllen ac addysg a datblygiad cyffredinol, a cheir ystadegau sy'n dangos bod plant sy'n byw mewn tlodi parhaus ddwywaith yn fwy tebygol o sgorio'n is na'r cyfartaledd mewn perthynas â chaffael iaith yn bump oed na'u cyfoedion mwy cefnog. Mae materion a nodwyd ar gyfer ymdrin â hyn yn cynnwys buddsoddi mewn ansawdd yng ngweithlu addysg y blynyddoedd cynnar, cefnogi rhieni'n well ac yn wir, arweinyddiaeth yn gyffredinol. Beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran trechu tlodi drwy fynd i'r afael â'r materion hyn yn ymwneud â datblygiad a chaffael iaith yn y blynyddoedd cynnar yn benodol? | 415 |
Mae hanes strategaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â thlodi yn ymddangos i mi, beth bynnag, yn un o osod dyheadau tymor hir er mwyn rhoi terfyn ar dlodi, ond heb osod targedau penodol byrdymor ac adnoddau priodol ar gyfer eu cyflawni. Yn aml iawn, mae'r dyheadau yn cael eu gohirio neu'u gollwng yn gyfan gwbl pan fydd y Llywodraeth yn sylweddoli nad yw hi'n bosib i'w cyflawni. Oherwydd bod amgylchiadau heddiw yn wahanol iawn i'r hyn yr oeddent ddegawd yn ôl, onid ydy hi rŵan yn bryd i ailfeddwl a chanolbwyntio ar brosiectau a pholisïau sy'n mynd i'r afael â thlodi mewn gwirionedd ac mewn modd mesuradwy? | 416 |
Diolch. Mae Dechrau'n Deg wedi cael effaith drawsnewidiol ar fywydau degau o filoedd o blant ledled Cymru, gan gynnwys yn fy etholaeth, sef Cwm Cynon, yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad. Fodd bynnag, gwn fod pryderon wedi'u mynegi ynglŷn â'r sail ddaearyddol ar gyfer dyrannu'r cymorth. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y plant sydd fwyaf o'i angen? | 417 |
Weinidog, yn amlwg, mae gan y Llywodraeth ymrwymiad mewn perthynas â gofal plant - cael polisi gofal plant cyffredinol o hyd at 30 o oriau - ac mae'n rhywbeth rydym yn ei groesawu ac mae'n debyg i'r hyn a oedd gennym yn ein maniffesto ein hunain. A oes asesiad effaith wedi'i wneud - rwy'n sylweddoli ei bod yn ddyddiau cynnar ar y Llywodraeth - ynghylch y gallu i gomisiynu'r ddarpariaeth honno ac nad oes unrhyw risg o beryglu'r ddarpariaeth bresennol, megis mewn ardaloedd Dechrau'n Deg, megis Cwm Cynon ac ardaloedd eraill yn fy rhanbarth etholiadol? Mae yna broblem o ran y capasiti, yn amlwg, i allu cyflawni'r ymrwymiad cyffredinol hwnnw, ac nid ydym eisiau peryglu cynlluniau presennol os oes angen i'r capasiti dyfu yn y lle cyntaf. | 418 |
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Yn fy mhortffolio, rydym yn cysoni rhaglenni allweddol i gynorthwyo'r rhai sy'n byw mewn cartrefi incwm isel ledled Cymru, gan gynnwys Caerffili. Mae Cymunedau yn Gyntaf, Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf a'r rhaglen Cefnogi Pobl yn gweithio tuag at y nodau cyffredin o greu Cymru fwy ffyniannus a chyfartal. | 419 |
Yn wir, ac fel yr Aelod, hoffwn gofnodi fy niolch i aelodau Ymddiriedolaeth Trussell, sy'n gweithio ledled y DU, ac yn enwedig yng Nghymru, am y gwaith da y maent yn ei wneud, ac effaith estynedig Ymddiriedolaeth Trussell, nad yw'n ymwneud â banciau bwyd yn unig, ond y pethau eraill y maent yn eu gwneud yn ogystal - y cyngor a'r cymorth ariannol. Caiff gwasanaethau eirioli Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda'n gilydd i gynorthwyo'r rhai sydd mewn angen, eu hadlewyrchu yn ein strategaeth cynhwysiant ariannol. Gall cydweithrediad rhwng banciau bwyd a gwasanaethau cynghori gyda sicrwydd ansawdd gynnig help i bobl drwy gyfnod o argyfwng, ac mae Ymddiriedolaeth Trussell yn ei wneud yn dda iawn. | 420 |
Am eiliad roeddwn yn meddwl fy mod wedi gweld dagrau crocodeil gan yr Aelod mewn perthynas â'i gwestiwn. Mae'n fy mhoeni bod y synnwyr o eironi a ddaw o'r meinciau hynny, o olchi eu dwylo o'r effaith a gaiff ei Lywodraeth yn y DU ar ein hetholwyr yma yng Nghymru - y rhai y mae'n honni ei fod yn eu cynrychioli yng Nghaerffili yw'r union rai sy'n aelodau, fel Hefin David - . Mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i gael y budd mwyaf i'n cymunedau, ond byddwn yn gofyn i'r Aelod ystyried ei gwestiynau a gofyn i'w gydweithwyr yn y DU efallai am ffrwd gyllido deg i Gymru. | 421 |
Mae lles yn rhan bwysig iawn o'ch portffolio, Weinidog, ac fel rwy'n siŵr eich bod yn gwybod, mae adroddiad blynyddol NSPCC, 'How Safe are our Children?', yn tynnu sylw at gynnydd o 26 y cant yn nifer y troseddau rhywiol a gofnodwyd yn erbyn plant o dan 16 oed yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf - ffigurau sydd wedi dyblu dros y degawd diwethaf. A wnewch chi ategu fy nghroeso i'r adroddiad hwn, ac a wnewch chi ystyried gweithredu ar argymhelliad yr NSPCC y dylid datblygu cynllun cynhwysfawr mewn perthynas â cham-drin plant yn rhywiol, a gwella'r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth, fel y gellir diwallu anghenion plant sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol, a'u teuluoedd? | 422 |
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Lywydd, rwy'n deall eich bod hefyd wedi grwpio 10 a 15, ac wedi cytuno i'r rheini gael eu grwpio heddiw. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i ddatblygu a chryfhau cyfeiriad strategol gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru ymhellach. Rydym am sicrhau bod gan deuluoedd sy'n mabwysiadu fynediad at wasanaethau mabwysiadu amserol a phriodol, pa le bynnag y maent yn byw yng Nghymru. | 423 |
Rwy'n ymwybodol o bryderon yr Aelod. Mae fy swyddogion yn ystyried y materion sy'n codi o gymal 9 y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol, ac maent mewn cysylltiad â San Steffan i sicrhau bod y diwygiadau a wneir er lles gorau plant Cymru sy'n aros i gael eu mabwysiadu a'u darpar rieni mabwysiadol. Rydym wedi ymrwymo, fel y mae'r Aelod yn sôn, i fabwysiadu fel opsiwn pwysig ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, plant nad yw eu teulu biolegol yn gallu gofalu amdanynt. Rydym yn cydnabod y rôl heriol, ond gwerthfawr, y mae rhieni sy'n mabwysiadu yn ei chwarae yn darparu cartrefi cariadus a pharhaol i'r plant hyn, ac mae'n rhywbeth y byddaf yn parhau i gadw llygad arno wrth i'r Bil fynd yn ei flaen. | 424 |
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Ers sefydlu'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ym mis Tachwedd 2014, mae'r amser cyfartalog rhwng bod plentyn yn derbyn gofal ac yn cael ei leoli i'w fabwysiadu wedi parhau i ostwng. Mae ffigur perfformiad chwarter olaf 2015-16, sef 15.2 mis, yn is nag y mae wedi bod ers 2002. Mae gwelliannau sylweddol wedi'u gwneud o ran darparu deunyddiau taith bywyd ers 31 Mawrth 2016, gyda 49 y cant o blant yn derbyn y deunyddiau erbyn eu hail adolygiad mabwysiadu a dim mwy na thri mis ar ôl eu hadolygiad cyntaf, o'i gymharu â 24 y cant y flwyddyn cynt. Mae llawer iawn o waith i'w wneud o hyd, ond byddaf yn ceisio parhau â grŵp cynghori er mwyn dylanwadu ar y Llywodraeth a gwneud y penderfyniadau gorau ar gyfer pobl ifanc yn y sefyllfa hon. | 425 |
Dyna gwestiwn gwirioneddol bwysig - er mwyn gwneud yn siŵr fod gennym y capasiti i gefnogi rhieni sy'n dymuno cymryd y cymeriadau cariadus o ran y gwasanaethau mabwysiadu. Rwyf wedi gofyn i fy nhîm feddwl am raglen i gefnogi'r ddarpariaeth, ac unwaith eto, gan weithio gyda Gweinidogion eraill ar draws yr adran hon, i feddwl sut y gallwn sicrhau bod gennym y darpariaethau cywir yn y lle cywir, gan gynnwys gwasanaethau'n ymwneud â materion iechyd meddwl hefyd gan wneud yn siŵr y gallwn ddarparu cefnogaeth i unigolion. | 426 |
Diolch. Mae tîm o amgylch y teulu yn un o bum prif elfen rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf. Mi ddaeth etholwraig i'm gweld i i rannu ei phryder hi ar ôl clywed bod y gwasanaeth tîm o amgylch y teulu yn Ynys Môn yn dod i ben o fis Mawrth 2017. Mi oedd hi'n canmol yn fawr y gofal a'r gefnogaeth yr oedd hi wedi eu derbyn gan y tîm yn lleol yn sgil problemau iechyd meddwl ei merch ac effaith hynny ar y teulu. Mae hi'n dweud yn berffaith glir na fyddai hi wedi gallu ymdopi heb y cymorth hwnnw. Pa fwriad sydd gan y Gweinidog i ailedrych ar ddyfodol tîm o amgylch y teulu a sicrhau ei barhad er mwyn fy etholwraig a llawer iawn tebyg iddi hi wedi mis Mawrth y flwyddyn nesaf? | 427 |
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Dylai pob plentyn mewn gofal gael yr un cyfleoedd bywyd â phlant eraill. Mae hon yn flaenoriaeth allweddol i mi, a byddaf yn ailgynnull y grŵp strategol gwella canlyniadau ar gyfer plant i barhau ei waith a rhoi cyngor ar y ffordd orau i ni ddarparu dull cenedlaethol o weithredu mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal. | 428 |
Rwy'n cytuno â'r Aelod. Rwy'n benderfynol o weithio gydag ef er mwyn i ni allu darparu'r sicrwydd y mae'n ei geisio. | 429 |
Diolch. Cyfarfûm yn ddiweddar â fy etholwr ysbrydoledig, Mia Thorne, sydd ond yn naw oed, ac sy'n llysgennad dros Caudwell Children Wales. Yn ystod ein trafodaeth, mynegodd Mia bryderon ynglŷn ag anghysondebau mewn rheoliadau adeiladu, er enghraifft o ran lled drysau fel bod defnyddwyr cadeiriau olwyn yn gallu llywio o gwmpas eu cartref eu hunain. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â phobl anabl i sicrhau bod tai yn addas i'w anghenion? | 430 |
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd i landlordiaid cymdeithasol gyflwyno taliadau gwasanaeth newydd neu ychwanegol ar gyfer eu tenantiaid. Rydym wedi gofyn i landlordiaid cymdeithasol wahanu rhenti a thaliadau gwasanaeth lle y defnyddiwyd system cronfa rent. Mae hyn er mwyn cynyddu didwylledd a thryloywder ar gyfer eu tenantiaid. | 431 |
Wel, fel y dywedais yn gynharach, nid oedd hyn ar sail cyflwyno taliadau newydd; dadansoddiad ydoedd o'r tâl a gâi ei godi arnynt eisoes. Felly, gallai eich etholwyr fod yn sicr ynglŷn â'r hyn roeddent yn talu amdano neu beidio. Mae'r broses o godi tâl arnynt bellach am dorri gwair - . Roedd tâl yn cael ei godi arnynt eisoes am dorri gwair ond mae'n debyg nad oeddent yn gwybod am y peth. Câi ei fwndelu fel un tâl ond erbyn hyn maent yn fwy ymwybodol. Os oes gan yr Aelod faterion penodol y mae'n dymuno eu dwyn i fy sylw, rwy'n fwy na hapus i fynd ar eu trywydd yn fy adran. | 432 |
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes yna unrhyw wrthwynebiad? Os na, fe dderbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. | 433 |
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. | 434 |
Diolch. Cyn i ni fynd ymlaen, a wnaiff pawb ohonoch edrych ar eich ffonau symudol? Os oes gennych ffôn symudol ymlaen, a wnewch chi ei ddiffodd os gwelwch yn dda? Mae'n effeithio ar y darlledu a'r sŵn yn y Siambr. Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Suzy Davies i gynnig gwelliannau 1, 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Suzy. | 435 |
Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Galwaf ar Sian Gwenllian i gynnig gwelliannau 1 a 2, a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Sian. | 436 |
Mae'r rhain i gyd yn parhau i fod yn gynhwysion pwysig wrth sicrhau llywodraeth leol effeithiol ar gyfer y dyfodol. O ran y map, rwyf wedi bod yn glir yn fy nhrafodaethau gydag awdurdodau lleol ac eraill mai fy mwriad yw treulio'r wythnosau cynnar hyn yn siarad, gwrando a dysgu. Fy nod fydd ceisio consensws, os yw hynny'n bosibl o gwbl, ar y ffordd ymlaen. Byddwn yn awyddus iawn i'r consensws hwnnw gynnwys pleidiau gwleidyddol eraill yn y Cynulliad hwn lle y gellir dod o hyd i dir cyffredin. Roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â'r Aelod dros Arfon yr wythnos diwethaf ac am drafodaeth gyntaf a chynnar ar y materion hyn. [Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs. | 437 |
Lywydd, roeddwn yn falch iawn o gyfarfod ag arweinydd a phrif weithredwr Cyngor Sir Fynwy 10 diwrnod yn ôl. Roedd yn gyfarfod adeiladol iawn. Mae ganddynt gyfres o syniadau diddorol, ac maent wedi addo rhoi rhagor o wybodaeth i mi amdanynt. Roeddwn yn falch iawn o dderbyn eu gwahoddiad i ymweld â Mynwy eto i weld peth o'r gwaith ymarferol y maent yn ei wneud mewn perthynas â chanolfannau cymunedol. Rwy'n awyddus i gymryd syniadau ble bynnag y maent i'w cael ac i weld faint y gallwn wneud ohonynt. Yn fy nghyfarfod â'r Aelod dros Arfon, roedd yn ddiddorol iawn dysgu mwy am yr argymhellion a nodir ym maniffesto Plaid Cymru ynglŷn â'r dull rhanbarthol y mae wedi'i drafod yma y prynhawn yma, a'r materion ynghylch atebolrwydd sydd ymhlyg mewn unrhyw drefniant democrataidd. Yn yr un ysbryd, rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod â Janet Finch-Saunders yn ystod yr wythnosau nesaf, ac roeddwn yn ddiolchgar am ei chynnig i gydweithredu lle y gellir dod o hyd i dir cyffredin, er enghraifft, wrth ystyried dyfodol cynghorau cymuned. Lle mae cyfraniad adeiladol i'w wneud, byddaf yn sicr yn awyddus i ymateb yn yr un ysbryd. [Torri ar draws.] Wrth gwrs. | 438 |
Lywydd, rwy'n effro iawn i'r effaith gyrydol y mae ansicrwydd yn ei chreu i'r rheini sy'n gweithio mewn awdurdodau lleol a'r rhai sy'n sefyll etholiad. Byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yfory. Roeddwn eisiau aros nes fy mod wedi clywed beth oedd pobl wedi'i ddweud heddiw cyn cwblhau'r datganiad hwnnw, ond rwy'n hapus i gadarnhau, i ateb cwestiwn Andrew Davies yn uniongyrchol, y bydd y datganiad ysgrifenedig yn dweud y bydd etholiadau'n cael eu cynnal ar gyfer cynghorau lleol yng Nghymru ym mis Mai y flwyddyn nesaf ac y gall y rhai a etholir ddisgwyl gwasanaethu am dymor llawn o bum mlynedd. Lywydd, mae yna fanylion yn y cynnig gerbron y Cynulliad y prynhawn yma y gallai'r Llywodraeth fod wedi'u geirio'n wahanol. Er enghraifft, ceir ffyrdd gwell o esbonio'r cyfraddau cyfranogiad isel sy'n peri pryder gwirioneddol mewn awdurdodau lleol na galw pleidleiswyr yn apathetig. Un o'r pethau rwy'n edrych ymlaen atynt fwyaf yn fy nghyfrifoldebau newydd fydd defnyddio'r pwerau y gobeithiwn y cânt eu datganoli i'r Cynulliad Cenedlaethol drwy Fil Cymru, er mwyn rhoi set wirioneddol radical o gynigion ger eich bron ar gyfer diwygio'r ffordd y caiff etholiadau eu cynnal yng Nghymru - gan symud o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg i'r unfed ganrif ar hugain ac ailfywiogi ymwneud democrataidd wrth i ni wneud hynny. Ond yn yr ysbryd ehangach o fod eisiau creu consensws, cymryd rhan mewn deialog, a dilyn llwybr sy'n gadarnhaol ac yn adeiladol, bydd ochr y Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig hwn y prynhawn yma. | 439 |
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl yn enw UKIP - y ddadl ar yr Undeb Ewropeaidd. Cyn imi ddechrau'r ddadl hon, hoffwn atgoffa'r Aelodau am yr hyn a ddywedais yr wythnos diwethaf ynglŷn ag ymddygiad yn y Siambr ar y ddadl ar yr Undeb Ewropeaidd yr wythnos diwethaf. Rwyf yn mawr obeithio y cawn ddadl mewn cystal ysbryd yr wythnos hon ag y cawson ni yr wythnos ddiwethaf. Rwy'n galw ar Neil Hamilton i wneud y cynnig. | 440 |
Rwy'n hollol ffyddiog na cheir unrhyw dariffau ar gydrannau ceir modur oherwydd - .[Torri ar draws.] Wel, gadewch i mi roi'r ffeithiau i chi'n syml. Rydym yn mewnforio 820,000 o gerbydau y flwyddyn o'r Almaen ac mae gennym ddiffyg yn y fasnach ceir modur gyda'r Almaen sy'n £10 biliwn y flwyddyn i gyd. Nid wyf yn credu y bydd y Canghellor Merkel, wrth iddi wynebu etholiad yn yr Almaen y flwyddyn nesaf, yn hyrwyddo achos rhyfel masnach gyda Phrydain fel y ffordd orau i'w phlaid ennill. [Torri ar draws.] Mae Matthias Wissmann, llywydd cymdeithas ddiwydiant modurol yr Almaen yn dweud bod cadw Prydain yn yr UE yn fwy arwyddocaol na chadw Gwlad Groeg yn yr ewro. Mae ganddynt ddiddordeb mewn gwerthu ceir Almaenig i ni lawn cymaint ag y mae gennym ni ddiddordeb mewn gwerthu ceir Prydeinig iddynt hwy. Mae allforion peirianneg Almaenig i Brydain yn £7 biliwn y flwyddyn. Mae allforion ceir yn £18 biliwn y flwyddyn. Felly, nid wyf yn credu y ceir rhyfel masnach rhwng Prydain a'r Almaen. Fe ildiaf. | 441 |
Hoffwn geisio mynd i'r afael â dwy o brif ddadleuon y rhai hynny sydd eisiau i ni gerdded i ffwrdd oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, pa bryd bynnag y pwysleisir manteision aelodaeth, mae'r bobl sydd am droi eu cefnau ar ein partneriaid Ewropeaidd yn dweud dro ar ôl tro, 'Nid arian yr UE yw hwn, ond ein harian ein hunain rydym yn ei gael yn ôl', ac rydym wedi'i glywed eto y prynhawn yma. Wrth gwrs, mae'r DU yn gwneud cyfraniad i'r UE; ac fe ddylem. Y rhai ohonom sy'n credu yn yr UE, rydym yn credu mewn undod. Rydym yn credu y dylai'r rhan wannaf o Ewrop gael ei helpu gan y rhannau cryfaf, ac mae Cymru'n elwa o hynny. Wrth gwrs, mae gan bob clwb ffi aelodaeth, ac yn gyfnewid am hynny, rydym yn cael manteision, nid yn lleiaf y mynediad heb dariff i'r farchnad sengl. Os byddwn yn tynnu'n ôl o Ewrop, byddwn yn dal i wynebu costau. Byddai'n dal yn rhaid i ni dalu am fynediad i'r farchnad hon, a hynny heb unrhyw allu i ddylanwadu ar ei rheolau. Ond mae'r swm o arian rydym yn ei drosglwyddo i Frwsel, i ddefnyddio'r termau difrïol rydym wedi ymgyfarwyddo â hwy ar ôl 30 mlynedd o bropaganda tabloid a gwrth-Ewropeaidd, ac mae wedi naddu ymaith - mae'r swm o arian yn gymharol fach. Dywed y Trysorlys ein bod yn gwneud cyfraniad net o £8.4 biliwn y flwyddyn, sy'n llai nag 1 y cant o holl wariant y Llywodraeth. Felly, gadewch i ni edrych ar hyn yn rhesymol. Dyna faint ein cyfraniad. Dyna faint y swm o arian rydym yn ei drosglwyddo i Frwsel: 1 y cant o holl wariant Llywodraeth y DU, digon i ariannu'r GIG ar draws y DU am 19 diwrnod y flwyddyn. Nawr, rwy'n meddwl ein bod wedi cael ymgyrch refferendwm gyfan gwbl anonest ac annymunol, ac yn goron arni cafwyd y lluniau 'chwiban y ci' gwarthus a ffiaidd o Nigel Farage yn sefyll o flaen posteri o ffoaduriaid, gan apelio at yr elfennau mwyaf gwael o anobaith pobl a achoswyd gan wleidyddiaeth caledi. Rwy'n credu y dylai UKIP fod â chywilydd llwyr ohonynt eu hunain am y lefel isel o wleidyddiaeth y maent wedi'i gyflwyno i'r ymgyrch hon. | 442 |
Wel, nid oedd hynny'n werth aros amdano mewn gwirionedd, oedd e? [Chwerthin.] Rwy'n gwrando ar y bobl ar garreg y drws. Rwy'n cael trafodaethau hir a phoenus gyda phobl ar garreg y drws yn egluro wrthynt fod y problemau a wynebwn - ac mewn etholaethau fel Llanelli, rydym yn wynebu llwyth ohonynt - sy'n ymwneud ag ardaloedd wedi'u gadael ar ôl oherwydd y model economaidd sydd gennym yn y wlad hon, ac nid oes dim o hynny'n mynd i gael ei helpu drwy dynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd. Mae Neil Hamilton wedi siarad am weithgynhyrchu ceir y prynhawn yma. Yn Llanelli mae gennym ffatri gweithgynhyrchu ceir lwyddiannus, sy'n eiddo i gwmni tramor. Mae gennym chwaer ffatri mewn rhan arall o'r UE. Os ydym yn gadael, a ydym o ddifrif yn dweud bod y penderfyniadau yn y tymor canolig a'r tymor hir ynglŷn â buddsoddi cyfalaf sydd i'w gwneud gan bencadlys y gwaith hwnnw yn mynd i ffafrio ffatri y tu allan i'r bloc masnachu gyda thariffau neu y tu mewn i'r bloc masnachu heb dariffau? Nid yw pobl yn derbyn hynny. Rydych yn defnyddio gwleidyddiaeth anonest. Felly, gadewch i ni fod yn glir fod y - | 443 |
Rwy'n sylweddoli ei fod yn newydd i'r rhannau hyn, ond nid oes gan Ford ffatri yn Llanelli, ac mae'r grymoedd rydych yn eu disgrifio yn rymoedd byd-eang - grymoedd byd-eang rydym wedi'n harfogi'n well i ymdrin â hwy drwy fod yn rhan o floc masnachu cryf. Felly, nid yw addewidion annidwyll yr ymgyrch i adael ynglŷn â'r hyn y byddent yn ei wneud gyda mynydd tybiedig o arian yn werth y papur y cawsant eu hysgrifennu arno. Felly, daw hynny â mi at yr ail o'r dadleuon a glywsom yma gan yr asgell dde, ac nid y ffaith fod yr UE wedi sicrhau heddwch yn Ewrop dros y 70 mlynedd diwethaf, ond ein haelodaeth o NATO. Ac wrth gwrs, mae'r addewid o amddiffyniad milwrol Americanaidd wedi bod yn allweddol yn ystod y rhyfel oer, ond mae heddwch yn ymwneud â mwy nag absenoldeb rhyfel. Adeiladwyd tair cenhedlaeth o heddwch ar haenau o hyder a dealltwriaeth rhwng pobloedd ac yn hollbwysig - yn hollbwysig - ar y sefydliadau i ddatrys gwahaniaethau. Ar fy ngwyliau darllenais drwy lyfr hanes grymus Christopher Clark am y cyfnod yn arwain at y rhyfel byd cyntaf, 'The Sleepwalkers'. Mae'n nodi mai un o'r rhesymau pam nad arweiniodd cythrwfl economaidd yr argyfwng yn ardal yr ewro at ymladd, er bod digwyddiadau 1914 wedi gwneud hynny, oedd bodolaeth sefydliadau goruwchgenedlaethol pwerus. Trwy fod yn rhan o'r UE, rwy'n falch ein bod wedi chwarae rhan mewn cynghrair sydd wedi dwyn sefydlogrwydd a ffyniant i gyfandir sydd â hanes o ansefydlogrwydd. Nid damwain mo hynny. Canlyniad integreiddio amyneddgar a phoenus ydyw: economaidd, democrataidd ac ie, biwrocrataidd. Ond rhowch gyfarwyddebau i mi yn lle demagogiaeth unrhyw ddiwrnod. | 444 |
Na, Huw, am fy mod i'n ceisio mynd drwy rywbeth. A yw hynny'n iawn? Fodd bynnag, a yw'n iawn fod pobl y tu allan i'r Deyrnas Unedig nad ydynt yn talu treth ac yswiriant gwladol yn cael parhau i fanteisio ar ein gwasanaeth gofal iechyd rhad ac am ddim, neu a ddylem fynnu y dylai'r rhai sy'n byw y tu allan i'r DU gael yswiriant iechyd? A'r bygythiad mwyaf i'n GIG yw cyfarwyddebau'r UE. Yn 2011 cyflwynodd yr UE gyfarwyddeb gofal iechyd y rhybuddiodd ASau Llafur y gallai arwain at dranc y gwasanaeth iechyd gwladol a ariennir yn gyhoeddus. Mae trafodaethau'n parhau ar bartneriaeth fasnach a buddsoddi arfaethedig yr UE neu'r cytundeb TTIP arfaethedig gydag UDA, a allai effeithio'n ddifrifol ar y GIG ac arwain at breifateiddio ein gwasanaeth iechyd gwladol. | 445 |
Bu'n ymgyrch hir, ac efallai mewn sawl ffordd, bydd pawb ohonom yn falch o weld ei chefn, beth bynnag yw'r canlyniad. | 446 |
Diolch. Yn gyntaf, y darn yn dyfynnu Darren Hunt, rheolwr cwmni adeiladu yn Scunthorpe. Dyma'i eiriau ef: 'Mae'n anodd iawn cael pobl o Brydain i mewn. Mae'n ymddangos nad oes diddordeb gan bobl bellach mewn ennill cyflog drwy chwys eu hwyneb. Mae'n siomedig ein bod yn gorfod mynd i Ewrop i gael gweithwyr, ond nid oes gennym unrhyw ddewis. Y peth da am bobl dwyrain Ewrop yw bod ganddynt agwedd hen ffasiwn ac nid oes arnynt ofn gwaith caled. Nid ydynt yn poeni am weithio oriau hir ar benwythnosau ac maent yn barod i fwrw iddi.' Felly, dyna safbwynt busnes. I gyferbynnu â hynny, dyma eiriau Eddie Sullivan, cogydd hyfforddedig 33 oed: 'Rwyf wedi gweithio ers y diwrnod roeddwn yn 16 oed, ond erbyn hyn mae bron yn amhosibl dod o hyd i swydd dda yma. Roedd fy swydd ddiwethaf yn un ran amser mewn siop drydanol ar barc manwerthu. Cawn fy nhalu lai na £60 gros am 10 awr yr wythnos. Mae'r swyddi sydd i'w cael i'w gweld yn mynd i fewnfudwyr. Nid yw pobl leol yn cael cyfle. Mae cyflogwyr yn gwybod y bydd y tramorwyr yn derbyn unrhyw waith a byth yn cwyno na chwestiynu cyflogau, amodau - [Torri ar draws.] - Na, eisteddwch - | 447 |
Rwy'n credu ei bod yn bwysig canolbwyntio ar ffeithiau ac nid ar brosiect ofn. Dylem ganolbwyntio ar brosiect - [Torri ar draws.] | 448 |
Wel, dyna bwynt eithriadol o dda gan yr Aelod. Mae'n cysylltu â thrydedd ran y cynnig y cawn ein gwahodd i'w gefnogi y prynhawn yma, rwy'n credu: sef y byddem rywsut yn fwy llewyrchus pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd; y byddem yn fwy llewyrchus heb y 500 o gwmnïau o wledydd eraill yr UE sydd â gweithfeydd yng Nghymru, ac yn darparu mwy na 57,000 o swyddi; y byddem, rywsut, yn fwy llewyrchus pe bai'r 70,000 o bobl yng Nghymru sydd wedi elwa o gyllid yr Undeb Ewropeaidd i'w helpu i gael gwaith - pe na bai hwnnw ar gael i ni; a phe bai ffermio yng Nghymru, rywsut, yn fwy llewyrchus heb y €300 miliwn o gyllid Ewropeaidd y mae'n ei gael bob blwyddyn. Mae'r syniad y byddai Cymru yn well ei byd y tu allan i Ewrop yn gynnyrch yr economeg fwdw a ddisgrifiwyd i ni y prynhawn yma. Yn ei lle, cawn gynnig dirwasgiad wedi'i wneud ein hunain a'i achosi gennym ni ein hunain, gweithred enfawr o ffolineb economaidd, encilfa rhag realiti cymhleth y byd rydym yn byw ynddo mewn gwirionedd; ac ar ei orau, encil i'r llinellau ochr ac i ymylon y byd go iawn; ar ei waethaf, encil i lurguniadau ffiaidd poster sy'n camfanteisio ar arswyd plant ac anobaith eu rhieni, wedi'u dal mewn digwyddiadau mor bell y tu hwnt i'w cyfrifoldeb neu eu rheolaeth eu hunain. Felly, Lywydd, dyna ni: rydym am gael Cymru sy'n gryfach, yn fwy diogel ac yn fwy ffyniannus, ac rydym yn gwybod sut i gyflawni hynny hefyd. Mae Cymru'n elwa'n aruthrol o'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Mae Cymru yn perthyn i Ewrop, mae angen i Gymru aros yn Ewrop ac yfory, gadewch i ni bleidleisio i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud hynny. | 449 |
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio. | 450 |
Symudwn yn awr felly at y cynnig yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 37, 5 yn ymatal a 7 yn erbyn. Mae'r cynnig felly wedi ei dderbyn. | 451 |
Rwy'n symud yn awr, felly, i'r ddadl fer. I'r rhai ohonoch chi sydd ddim yn aros yn y Siambr ar gyfer y ddadl fer, os gwnewch chi adael yn dawel ac yn gyflym. Ac felly, rwy'n galw ar Julie Morgan i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi. Julie Morgan. | 452 |
Iawn, diolch. Felly, yn lle porthi'r materion hyn sy'n ymwneud â mewnfudo ac anwybyddu'r ffeithiau, y cyfan y byddwn yn ei ddweud, i orffen fy sylwadau yw hyn: er mwyn anrhydeddu'r cof am Jo Leadbeater - Jo Cox - a oedd yn sefyll dros driniaeth gyfartal ac achosion dyngarol, cymorth i ffoaduriaid a chyfryngau teg, mae'n rhaid i ni ddewis cydweithio a gweithio o fewn yr UE, nid y tu allan iddo. I ddefnyddio ei geiriau, rydym i gyd yn llawer gwell pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd na phan fyddwn yn rhanedig ar wahân, ac rwy'n credu bod hwn yn ddatganiad addas i ni ei ystyried ac i Gymru ei ystyried wrth i ni fynd ati i bleidleisio yfory. | 453 |
Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'r cwestiwn cyntaf, Janet Finch-Saunders. | 454 |
Ailadroddaf eto yr ateb a roddais i'r cwestiwn gwreiddiol: mae dros 99 y cant o fusnesau fferm cymwys wedi cael eu talu - wedi cael taliad o'r cynllun taliadau sylfaenol. Os oes ffermydd unigol lle ceir anawsterau, y peth iawn i'w wneud yw codi'r anawsterau hynny gyda'r Gweinidog, fel y gellir eu hystyried ar ran yr unigolion hynny. Ond rydym ni'n perfformio'n well na Lloegr a'r Alban yn gyson, flwyddyn ar ôl blwyddyn pan ddaw i dalu ein ffermwyr. | 455 |
A gaf ofyn i'r Aelod i ysgrifennu ataf gyda mwy o fanylion? Ond, rydym wedi bod yn dilyn y rheolau sydd yna ar hyn o bryd, ac, wrth gwrs, fel ddywedais i'n gynharach, rydym wedi bod yn talu ffermwyr yn glou - lot yn gyflymach na beth sy'n iawn yn Lloegr a'r Alban. Ond ynglŷn â'r manylion am ffermydd unigol, byddwn i'n falch o gael llythyr er mwyn gallu ystyried beth yn gwmws sydd wedi digwydd. | 456 |
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Mae wedi bod yn annymunol iawn clywed am y sylwadau hiliol sydd wedi cynyddu ers canlyniad refferendwm yr UE ac rydym ni'n gobeithio na fydd hynny'n effeithio ar y croeso gwirioneddol dda a roddwyd yng Nghymru i'r ffoaduriaid o Syria. Ond beth arall y mae'r Prif Weinidog yn ei gredu y gellir ei wneud i helpu plant sy'n ffoaduriaid yn benodol, a phlant ar eu pennau eu hunain sy'n ceisio lloches, fel eu bod yn cael cymaint o gymorth â phosibl gan awdurdodau lleol a'r cymunedau lle y cânt eu lleoli? | 457 |
Brif Weinidog, hoffwn adleisio'r pryderon a godwyd gan Julie Morgan o ran y sylwadau hiliol sydd wedi digwydd ers y bleidlais Ewropeaidd yr wythnos diwethaf, a byddwn yn condemnio'r dull hwnnw o ymateb i'r refferendwm Ewropeaidd. Ond tybed a ydych chi wedi ystyried sut, yn y dyfodol - gyda'r Gweinidog cymunedau, o bosibl - y gallwn ni geisio dod â chymunedau at ei gilydd. Oherwydd, pleidleisiodd llawer o bobl yn y refferendwm hwn, boed hynny am resymau o bleidleisio yn erbyn y sefydliad neu bleidleisio yn erbyn tlodi yn eu hardaloedd lleol. Sut y gallwn ni nawr, gan roi'r bleidlais o'r neilltu, geisio dod â phobl at ei gilydd, i symud ymlaen fel cenedl fel nad ydym yn gweld sefyllfaoedd yn y dyfodol lle mae pobl wedi eu rhannu ac yn troi yn erbyn ei gilydd yn eu cymunedau eu hunain? | 458 |
Brif Weinidog, a gaf i ymuno â'r rhai sydd eisoes wedi mynegi eu condemniad o'r ymosodiadau a'r beirniadaethau hiliol sydd wedi digwydd ar gyfryngau cymdeithasol ac mewn mannau eraill yn y diwrnodau diwethaf? Ond a allwch chi hefyd ymuno â mi i ganmol gwaith cymunedau ffydd ledled Cymru, sydd wedi gwneud eu gorau glas i amddiffyn y ffoaduriaid hynny o Syria a phobl sydd wedi dod i Gymru i ffoi erledigaeth yn eu gwledydd, ac, yn arbennig, Eglwys Uniongred Syria, sydd, wrth gwrs, â chynrychiolaeth gref yma yng Nghymru ac sydd wedi ymgysylltu'n gadarnhaol iawn gyda'r fforwm cymunedau ffydd, yr ydych chi, wrth gwrs, yn ei gadeirio, a gwaith y Cynulliad, gyda'r grŵp trawsbleidiol ar ffydd? | 459 |
Nodaf fod Casnewydd, Caerdydd ac Abertawe i gyd yn y 10 uchaf o ddinasoedd y DU o ran derbyn ffoaduriaid. A oes gennym ni unrhyw syniad beth yw cyfanswm y gost i awdurdodau lleol yng Nghymru o ddarparu tai i'r mewnlifiad diweddar o ffoaduriaid? | 460 |
Rydym yn symud nawr at gwestiynau gan arweinwyr y pleidiau, ac mae'r cwestiwn cyntaf i'r Prif Weinidog yr wythnos yma gan arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies. | 461 |
Wel, nid dyma'r tir y byddwn i wedi ei ddewis, na'r amseriad - dywedais hynny wrth y Prif Weinidog. Ond mae'n bwysig ein bod ni wedi cael y refferendwm, ac mae'r canlyniad yn hysbys erbyn hyn. | 462 |
Wel, bydd hynny'n rhan o'r ddadl yn nes ymlaen. Ond, gallaf ddweud ei bod yn amhosibl modelu'r canlyniad. Nid oes gennym unrhyw syniad sut y bydd y cytundeb terfynol yn edrych. Tan y bydd gennym ni ddealltwriaeth o hwnnw, a ydym ni'n gwybod a fydd mynediad at y farchnad sengl? Rydym ni'n gwybod bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr UE. Y tu hwnt i hynny, nid ydym yn gwybod pa fath o fodel yr ydym ni'n mynd i'w gael ymhen dwy flynedd a tan i ni weld y model hwnnw bydd yn anodd iawn cynnig barn arno. Gwn ei fod o blaid pobl yn symud yn rhydd; dywedodd hynny heddiw. Mae hefyd o blaid arian Cymru'n cael ei gadw yn Llundain, yn y Trysorlys, sy'n rhywbeth arall a ddywedodd heddiw. Mae'n rhaid i mi ddweud wrtho fod llawer o bobl wedi dweud wrthyf ar garreg y drws, pan ofynnwyd iddynt am brosiectau cyllid arian Ewropeaidd yn eu cymunedau, dywedasant, 'Ein harian ni oedd ef beth bynnag'. Rwyf wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn dweud fy mod i'n disgwyl i bob un ceiniog - pob un geiniog - y byddwn yn ei cholli pan na fyddwn yn gymwys i dderbyn cyllid Ewropeaidd mwyach, i gael ei thalu gan Lywodraeth y DU a bod yr arian hwnnw'n dod i Gymru. Mae ef wedi dweud heddiw nad oes ots ganddo os yw'r arian hwnnw o dan glo yn y Trysorlys yn San Steffan. Yr arian hwn yw'r arian sydd yno ar gyfer pobl Cymru. Nid lle Trysorlys y DU na'i le yntau yw amharu ar eu hawliau. | 463 |
Wel, gallaf ddyfynnu ei union eiriau wrtho'n uniongyrchol. Dywedodd, 'Pam ddylai Llywodraeth Cymru drin yr arian?' Dyna'n union a ddywedodd yn y gynhadledd i'r wasg, a dywedodd, 'Pam na ddylai'r arian ddod yn syth o San Steffan, gan osgoi deddfwrfa a Llywodraeth etholedig pobl Cymru?' Mae wedi sôn dro ar ôl tro am yr angen i Brydain, fel y dywedodd yn ei ddadl, fwynhau ei rhyddid a'i sofraniaeth, fel y dywedodd. Mae'n meddwl ei bod yn druenus na ddylai pobl Cymru gael mynediad at arian sydd ar gael iddyn nhw nawr. Mae angen iddo fe, fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ddechrau meddwl fel pe byddai'n Gymro a dechrau edrych ar bethau o safbwynt Cymru oherwydd, rwy'n dweud wrthych chi nawr, mae mewn gwahanol sefyllfa i UKIP er tegwch iddyn nhw, gan fod UKIP wedi bod yn dweud, 'Dylai, dylai pob ceiniog o'r arian hwnnw ddod i Gymru a chael ei gwario yng Nghymru'. Nid yw e'n dweud hynny. Nid yw e'n dweud hynny, ac mae'n hen bryd i ni gael syniadau mwy eglur gan y Ceidwadwyr. Do, rwy'n gwybod bod pobl wedi pleidleisio i adael. Ni fydd dim yn newid hynny. Ni all unrhyw beth atal hynny. Nid oes ganddo fe unrhyw syniad beth fydd yn digwydd nesaf - dim syniad o gwbl. Byddwn yn esbonio'r ffordd ymlaen o'n safbwynt ni, gan gofio'r hyn y mae pobl wedi ei ddweud - nid oes modd dianc rhag yr hyn y mae pobl wedi ei ddweud - ond, fel y dywedais, o'n safbwynt ni, mae hwn yn arian sydd wedi bod yn dod i Gymru, mae hwn yn arian a ddylai barhau i ddod i Gymru. Dyna hawl pobl Cymru. Mae'n hawl nad yw ef yn ei barchu. | 464 |
O ran y cwestiwn cyntaf, mae hi'n gwybod yr ateb cyn iddi ofyn i mi, sef nad ydym yn disgwyl unrhyw arian o ganlyniad i'r addewid hwnnw; mae wedi ymddatod eisoes. Mae'r rhai â'i gwnaeth wedi cyfaddef nad dyna'n union yr oedden nhw'n ei olygu. Felly, dyna ni - byddwn yn aros i weld beth fyddan nhw'n ei wneud pan fyddant yn mynd i mewn i lywodraeth. Ond rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae hi'n ei ddweud: ni fyddai ein GIG yn gweithio heb staff meddygol a nyrsio o wledydd eraill, ac mae'n gwbl hanfodol eu bod yn teimlo bod croeso o hyd iddyn nhw yng Nghymru. Gwn ei bod wedi dweud hynny'n gryf. Rwy'n ymuno â hi yn hynny, oherwydd ein bod ni'n gwybod bod cymaint o ddinasyddion gwledydd eraill wedi darparu cymaint o ofal a chymaint o iachâd a thriniaethau i gymaint o'n pobl, ac mae croeso iddyn nhw yn ein gwlad. | 465 |
O ran y cwestiwn cyntaf, ysgrifennais at Brif Weinidog y DU ddoe. Gofynnais iddo sicrhau pob ceiniog y byddem ni'n ei cholli, i wneud yn siŵr bod hynny'n dod i Gymru. Os caiff yr addewid hwnnw ei gadw, yna gallwn fwrw ymlaen â'r metro a phrosiectau eraill. Os nad yw'r addewid hwnnw'n cael ei gadw, yna mae bylchau ariannol sylweddol mewn nifer o brosiectau a fyddai o fudd i bobl Cymru. Felly, rwy'n disgwyl i'r addewid hwnnw a wnaed mor gyhoeddus gael ei gadw. O ran Tata, mae wedi creu ansicrwydd - llawer mwy o ansicrwydd dros y diwrnodau diwethaf. Yr anhawster yw bod y diwydiant ceir yn dal yn ôl tan iddo weld sut gytundeb masnach fydd ar gael. Maen nhw wedi dweud hynny'n gyhoeddus. Gan fod Tata yn cyflenwi cymaint o weithgynhyrchwyr ceir yn y DU, yna mae'n amlwg bod y diwydiant dur hefyd mewn sefyllfa lle nad yw'n gwybod beth sy'n digwydd. Mae ansicrwydd yn beth gwael. Fy marn i yw y dylai erthygl 50 gael ei rhoi ar waith cyn gynted â phosibl. Rwy'n credu bod aros misoedd a misoedd amdano ddim ond yn ychwanegu at yr ansicrwydd hwnnw. Gwell bod pobl yn gwybod lle maen nhw'n sefyll yn hytrach na pheidio â gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd am fisoedd lawer a blynyddoedd lawer. Ond nid yw ansicrwydd byth yn mynd i fod o gymorth o ran buddsoddiad: dyna pam mae'n rhaid i'r broses ddechrau cyn gynted â phosibl, a chael ei chwblhau cyn gynted â phosibl. | 466 |
Wel, y peth cyntaf y mae'n rhaid i ni ei gyfleu yw sefydlogrwydd yng Nghymru a sicrwydd i fyd busnes. Rwyf wedi gofyn i'r Ysgrifennydd lunio nifer o bwyntiau y gallwn eu gwneud i fyd busnes i wneud yn siŵr ei fod yn deall ein bod yn sicr yn gweld Cymru fel man sydd ar agor i fusnes. Mae hynny'n hynod o bwysig. O ran yr hyn sydd i ddod yn y dyfodol, rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog o ran cynnwys Cymru, ond gwn nad yw'n gallu siarad dros Brif Weinidog nesaf y DU, a allai fod â gwahanol farn. O ystyried hynny, byddwn yn sefydlu tîm arbenigol yn ein swyddfa ym Mrwsel a fydd yn gyfrifol am siarad a thrafod yn uniongyrchol â'r Comisiwn Ewropeaidd. Nid oes yn rhaid i hynny fod yn hytrach na gweithio gyda Llywodraeth y DU, ond mae angen i ni wneud yn siŵr bod gan Gymru lais, a llais cryf. Ni allwn ddianc rhag y ffaith bod Cymru wedi pleidleisio i adael, felly nid oes cwestiwn o geisio mynd y tu ôl i ddyfarniad yr etholwyr, ond nid yw hynny'n golygu nad oes rhaid i ni weithio'n galed i wneud yn siŵr bod Cymru'n cael y cytundeb gorau posibl. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud hynny. Ni fyddwn yn ymddiried yn rhai o'r bobl yr wyf i wedi eu gweld, os byddant mewn Llywodraeth yn Llundain ym mis Medi, i gael y cytundeb gorau i Gymru, ac mae hynny'n hollbwysig, a dyna'r ydym ni'n bwriadu ei wneud. | 467 |
Wel, fy ymateb - . Hynny yw, mae'n iawn; dyna ni, gwelsom y canlyniad. Mae fy ymateb i yr un fath ag ymateb ei blaid ef yn 2011 i'n refferendwm yng Nghymru, pan gollwyd hwnnw gan eich plaid chi. Ond mae'n rhaid i ni ei dderbyn. Dyna ni. Symudwn ymlaen nawr gyda thirlun gwleidyddol newydd. Rwyf eisoes wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog. Rwy'n disgwyl cael ymateb. Mae pobl Cymru wedi pleidleisio dros Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'r ymateb hwnnw. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y pleidiau'n deall eu swyddogaethau wrth i'r trafodaethau fynd yn eu blaenau, oherwydd yr hyn na allwn ni ei wneud yw bod mewn sefyllfa lle mae cytundeb masnach ar y bwrdd heb unrhyw fewnbwn gan Gymru. Byddai hynny'n gwbl annemocrataidd a pheryglus, yn fy marn i, o ran y ffordd y mae pobl yn gweld y DU. Felly, rwy'n berffaith fodlon i weithio ar y ffordd ymlaen, a bydd y tîm y byddwn yn ei sefydlu ym Mrwsel yn ein helpu i wneud hynny. | 468 |
Wel, nid oes amheuaeth y bydd cyfranogiad, wrth gwrs, gan yr holl bleidiau wrth i'r trafodaethau hynny barhau, ond mae'n arwydd o ailgyfochri rhyfedd gwleidyddiaeth fy mod i'n gwrando ar arweinydd UKIP yn bod yn fwy cefnogol i ddatganoli nac arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru. Dyna eironi'r sefyllfa. Mae'n gwbl gywir: nid yw amaethyddiaeth Prydain yn bodoli - ni fydd yn bodoli. Ceir amaethyddiaeth Cymru, a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Nid oes polisi amaethyddol ar gyfer Prydain. Mae'r un peth yn wir am bysgodfeydd. Er enghraifft, ar ôl i'r trafodaethau ddod i ben, dim ond dyfroedd Cymru y bydd gan gychod Cymru fynediad atynt, ac felly bydd angen trafodaethau rhwng y gwahanol weinyddiaethau ar fynediad, yr wyf yn siŵr na fyddant yn peri problemau, beth bynnag. Mae'n bwysig, a dyna pam yr wyf i eisiau cyfarfod yn fuan â chynrychiolwyr y diwydiant pysgota yng Nghymru a chynrychiolwyr y diwydiant ffermio yng Nghymru fel y gallwn ddechrau gweithio ar sut y mae polisi amaethyddol Cymru yn edrych. Mae hynny'n golygu y bydd yn bolisi sydd wedi ei gynllunio i ofalu am y ffermwyr mynydd hynny sy'n cael trafferthion ar y mynyddoedd, gyda phridd anodd a thywydd garw, yn hytrach na'r rhai sy'n gwneud yn dda iawn diolch yn fawr iawn mewn ardaloedd o Gymru sy'n hawdd iawn eu ffermio. Felly, mae'n hynod o bwysig ein bod yn llunio polisi amaethyddol sydd wedi'i deilwra i anghenion Cymru, ac wedi'i deilwra i anghenion ffermwyr Cymru. Mae hynny'n rhywbeth y byddaf yn gweithio arno gyda'r undebau ffermio yng Nghymru. | 469 |
Mae arweinydd UKIP yn optimist. Mae'n dweud bod manteision yma: nid yw'n amlwg ar unwaith, mae'n rhaid i mi ddweud, beth yw'r manteision. Rydym ni mewn cyfnod o ansicrwydd, ac mae ansicrwydd yn wael. Mae pum deg y cant o'r hyn yr ydym ni'n ei allforio o Gymru yn mynd i'r Undeb Ewropeaidd, ac felly bydd natur y cytundeb sydd gennym ni o ran y farchnad honno yn gwbl hanfodol i'n lles yn y dyfodol. A tan y byddwn yn gwybod sut y bydd y cytundeb hwnnw'n edrych, mae'n anodd iawn deall pa heriau, cyfleoedd o bosibl, fydd yna i fusnesau Cymru. Ond rwyf yn gwybod, oherwydd bod busnesau yn dweud wrthyf, eu bod yn dal yn ôl o ran buddsoddi nawr tan eu bod yn cael y sicrwydd hwnnw. Un ffordd neu'r llall - a'i fod wedi ei benderfynu un ffordd neu'r llall - mae'n rhaid cael sicrwydd, ac nid wyf yn credu bod aros misoedd lawer i ddechrau'r broses drafod ffurfiol - am flynyddoedd cyn bod penderfyniad terfynol - o fudd i fyd busnes. Mae'r penderfyniad wedi ei wneud; mae'n rhaid bwrw ymlaen ag ef nawr cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, ac mae'n rhaid cael cytundeb ar y bwrdd a ddylai, yn fy marn i, gael ei gadarnhau gyda'r pedair Senedd genedlaethol o leiaf. Bydd honno'n broses gymhleth ac anodd, ond, yn blwmp ac yn blaen, mae'r angen am sicrwydd i'n busnesau yn gwbl hanfodol; ni fyddant yn buddsoddi tan fydd ganddynt syniad o'r sefyllfa yn y pen draw, ac rydym ni ymhell iawn o'r fan honno. | 470 |
Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Brif Weinidog. Mae Cancer Research UK wedi dweud y bu cynnydd sylweddol i nifer y bobl sy'n cael diagnosis â'r math mwyaf difrifol o ganser y croen yng Nghymru yn ystod y 40 mlynedd diwethaf. Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal wedi cymeradwyo pâr o gyffuriau canser, ipilimumab a nivolumab - dyma'r ddwy feddyginiaeth - i'w defnyddio yn Lloegr, a wnaeth, o'u defnyddio gyda'i gilydd, leihau'r math mwyaf ymosodol neu farwol o ganser y croen gan 69 y cant. A allai'r Prif Weinidog hysbysu'r Cynulliad a fydd y therapi hwn a'r cyffur hwn ar gael yng Nghymru cyn gynted â phosibl? | 471 |
Brif Weinidog, rydym ni'n ymwybodol o bwysigrwydd dewisiadau ffordd o fyw iach i leihau'r risg o ganser, felly mae'n dda gweld o ganlyniadau arolwg iechyd Cymru 2015 bod nifer yr ysmygwyr yng Nghymru wedi gostwng o 26 y cant i 19 y cant o'r boblogaeth, sydd hefyd yn golygu bod Llywodraeth Cymru wedi rhagori ar ei tharged ar gyfer lleihau cyfraddau ysmygu. Mae'r Bil iechyd cyhoeddus a ailystyriwyd yn cynnig cyfle arall i hybu ffyrdd iach o fyw ac i godi ymwybyddiaeth o sgrinio wrth fynd i'r afael â chanser. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried hyn pan fydd yn cyflwyno ei deddfwriaeth newydd? | 472 |
Brif Weinidog, y datblygiad mwyaf cyffrous yn y driniaeth o ganser yn ddiweddar fu datblygu meddyginiaethau haenedig, lle mae triniaeth yn cael ei theilwra'n benodol i'r claf yn seiliedig ar gyfansoddiad genetig ei ganser penodol. Roeddwn i'n bryderus iawn o glywed, yng Nghymru, ein bod yn profi ar gyfer dim ond dau farciwr genetig. A wnaiff eich Llywodraeth ddatblygu strategaeth feddyginiaeth haenedig a sicrhau bod gwasanaeth genetig Cymru gyfan yn barod i brofi ar gyfer yr holl farcwyr genetig mewn cleifion canser? | 473 |
Yn wir. O ran condemnio hiliaeth. Mae'n ddrwg gennnyf, Lywydd. Ond a gaf i heb ystyried y bleidlais yr wythnos diwethaf - | 474 |
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Fy ymddiheuriadau, Lywydd. Mae'n amlwg bod gen i lawer i'w ddysgu yn y Siambr hon. A gaf i ychwanegu'n gryno fy sylwadau at y rhai sydd wedi condemnio hiliaeth? Ac mae angen i ni fod o ddifrif. Mae'r hyn y mae gwleidyddion, fel ni, yn ei ddweud - o ba bynnag blaid, pa bynnag Siambr yr ydym ni'n eistedd ynddi - yn bwysig, ac felly hefyd y mae gweithredoedd y cyfryngau tabloid ar lefel y DU hefyd. Dylem groesawu'r rhai sy'n gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus a'n sector preifat ar hyn o bryd hefyd sydd, heddiw, ychydig yn fwy ofnus. A gaf i ofyn iddo, o ran priffddinas-ranbarth Caerdydd, ynghyd â metro de Cymru, gwelliannau posibl i reilffyrdd a phrif briffyrdd yn fy etholaeth i a ledled Cymru yn y dyfodol, ynghyd â phrentisiaethau a hyfforddiant yn fy Ngholeg Penybont lleol ac eraill - ? Roedd pob un ohonynt yn dibynnu i ryw raddau, mawr neu fach, ar gyllid yr UE. Felly, a fyddai'n cytuno â mi ei bod yn ddyletswydd nawr ar yr arweinwyr gwleidyddol a phleidiau hynny, gan gynnwys arweinydd y Blaid Geidwadol yma heddiw, a wnaeth addewidion eglur y byddai'r arian hwn yn dychwelyd i bobl Cymru, i wneud iawn am y diffyg hwnnw y byddwn yn ei wynebu nawr? Ni ddylid cymryd yr un geiniog oddi wrth fy etholwyr nac oddi wrth bobl Cymru. Rydym ni'n disgwyl iddo fod yma. Ac a yw'n cytuno â mi ei bod braidd yn rhyfedd a syfrdanol nad oes gennym ni unfrydedd yn y Siambr hon ac ymhlith arweinwyr y pleidiau y dylai'r holl arian hwnnw ddod yn ôl i bobl Cymru i benderfynu beth sy'n digwydd iddo? | 475 |
Bydd aelodau Gorllewin De Cymru, gan gynnwys yr Aelod dros Ogwr wrth gwrs, fod yn ymwybodol o'r angen am ffordd osgoi ddwyreiniol ar gyfer cymunedau Llanharan, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n rhan o'r cynlluniau ar gyfer prifddinas-ranbarth Caerdydd a'i phrosiectau seilwaith, gadewch i ni ddweud. Ond ym mlaenau'r Cymoedd dwyreiniol yn fy rhanbarth i y mae'n fwy anodd i'r boblogaeth gael y cyfleoedd o ddarpar gynlluniau dinas-ranbarth. Mae'r mesuriadau o bellter ar fap yn weddol ddiystyr os nad yw'r seilwaith trafnidiaeth gennych chi i gyrraedd y cymunedau hynny. Beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod bwrdd y ddinas-ranbarth yn siarad â busnesau a'r awdurdod lleol am sicrhau bod yr ardal teithio i'r gwaith yn cynnwys blaenau'r cymoedd hynny yn nwyrain fy rhanbarth? | 476 |
Mae recriwtio meddygon teulu yn flaenoriaeth i ni. Rydym ni'n siarad â chynrychiolwyr meddygon teulu ledled Cymru ac yn datblygu modelau gofal newydd a fydd yn ddeniadol i feddygon teulu weithio ynddynt. | 477 |
Wel, mae gennym ni 2,887 o feddygon teulu, sydd 8 y cant yn uwch nag yn 2005, ac mae hynny'n dangos ein bod wedi bod yn buddsoddi mewn meddygon teulu. Nid yw'n ymwneud â meddygon teulu yn unig; yr holl weithlu gofal sylfaenol sy'n bwysig. Ydym, rydym ni'n hyfforddi meddygon teulu, ond ni wnawn ni fyth hyfforddi digon o feddygon teulu dim ond i weithio yng Nghymru; mae degawdau lawer wedi mynd heibio ers i ni recriwtio meddygon teulu dim ond o Gymru. Rydym ni wedi recriwtio o wledydd eraill; bydd hynny'n parhau i fod yn wir gan fod meddygaeth yn gymhwyster cludadwy rhyngwladol. Felly, mae'n fater o hyfforddi meddygon teulu - ydy, mae hynny'n wir; rwy'n deall pwysigrwydd hynny - ond hefyd parhau i sicrhau bod staff meddygol cymwysedig yn gweld Cymru fel lle deniadol i fyw a gweithio ynddo. | 478 |
Wel, byddai gan lawfeddygon farn wahanol ynglŷn â hynny. Byddent yn dweud y dylai pethau fod yn fwy cyfartal. Ond, rwy'n deall y pwynt. Mae'n bwysig dros ben ein bod ni'n sylweddoli hefyd bod natur y gweithlu yn newid. Mae yna lai a llai o bobl sydd eisiau prynu i mewn i bractis. Maen nhw eisiau cael mwy o ryddid i symud ar draws Cymru. Nid ydyn nhw'n moyn ymrwymo arian i mewn i bractis - i rai, dyna beth fyddan nhw'n moyn ei wneud, ond i rai eraill, na. Felly, beth sy'n bwysig yw bod digon o fodelau ar gael yng Nghymru sy'n mynd i apelio at y garfan fwyaf o feddygon teulu, er mwyn sicrhau bod yna ffyrdd o weithio sy'n eu siwtio nhw, yn lle meddwl mai dim ond un ffordd o weithio sydd, sef yr un sydd wedi bod ers blynyddoedd mawr. Mae'n rhaid inni sicrhau bod yna strwythur sydd yn ehangach er mwyn recriwtio yn fwy. | 479 |
Diolch, Brif Weinidog. A ydych chi'n cytuno gyda fi mai'r unig ffordd ymlaen sy'n parchu penderfyniad pobl Cymru yn y refferendwm yr wythnos diwethaf, ac sydd hefyd yn rhoi siawns go lew i economi Cymru a'n busnesau a'n cymunedau ni, yw ein bod ni'n aros yn aelod o'r farchnad sengl, ein bod ni'n aros yn aelod o'r ardal Ewropeaidd economaidd, a'n bod ni'n bwrw ymlaen, felly, ar y llwybr yna, gan fod y bleidlais wythnos diwethaf ddim wedi amlinellu, neu ddim wedi rhoi unrhyw benderfyniad ynglŷn â pha fath o adael yr Undeb Ewropeaidd oedd dan sylw? Os ŷch chi'n cytuno, pa gamau ydych chi'n eu cymryd? Rŷch chi newydd amlinellu'r gwaith draw ym Mrwsel a rŷch chi newydd amlinellu beth fedrwch chi ei wneud ar y cyd â Llywodraeth San Steffan. A fyddwch chi yn 'push-o' am hynny ar ran Cymru? Byddech chi'n sicr yn cael fy nghefnogaeth i ac, rwy'n meddwl, Plaid Cymru, wrth wneud hynny. | 480 |
Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog yn gwerthfawrogi y bydd yr Aelodau'n awyddus i sicrhau'r canlyniadau gorau i'w hetholaethau. Dyna'r ydym ni wedi ein hethol i'w wneud, ac nid wyf innau'n ddim gwahanol i hynny, felly rwy'n mynd i fod yn achub ar y cyfle hwn i ymuno â'r alwad am sicrwydd ar gyfer fy etholaeth fy hun, sef, wrth gwrs, Merthyr Tudful a chwm Rhymni - etholaeth sydd wedi elwa'n fawr ar arian yr UE. Mae wedi helpu nifer o brosiectau sydd o fudd sylweddol i'r economi a chymunedau lleol. Fodd bynnag, nid dim ond yr arian ar gyfer y prosiectau presennol sy'n bwysig i'm hetholaeth i, Brif Weinidog, ond y datblygiadau arfaethedig, fel cam nesaf deuoli Blaenau'r Cymoedd rhwng Hirwaun a Dowlais, neu Ddowlais a Hirwaun, a fydd yn hollbwysig i economi'r etholaeth. Felly, er fy mod i wedi nodi eich bod wedi cadarnhau, ac rwy'n croesawu hynny, y byddwch chi'n ceisio sicrwydd pendant mewn unrhyw drafodaethau â negodwyr Brexit na fydd Cymru'n derbyn dim llai o gyllid o Brexit nag yr oeddem yn ei dderbyn cyn - a gaf i ofyn am ragor o sicrwydd gennych y byddwch yn gofyn am y cymorth ariannol sy'n angenrheidiol ar gyfer gwaith deuoli'r A465 rhwng Dowlais a Hirwaun ac y byddwch yn eu dwyn i gyfrif os na chaiff hyn ei gyflawni? | 481 |
Brif Weinidog, y ffaith amdani yw mai economi Cymru yw'r mwyaf agored yn y DU i unrhyw ddirywiad posibl mewn masnach â'r UE neu ddirywiad i fewnfuddsoddiad sy'n ceisio mynediad at y farchnad sengl, ac mae'n rhaid dweud hynny wrth y rhai sydd nawr yn gyfrifol am y trafodaethau Brexit. | 482 |
Rydym ni'n parhau i geisio pwerau i reoleiddio peiriannau betio ods sefydlog ac rydym ni'n cefnogi camau i gynyddu pwerau awdurdodau lleol o ran trwyddedu siopau betio newydd. Gall pobl sy'n dioddef dibyniaeth ar gamblo gael gafael ar gyngor a chymorth trwy eu meddygon teulu neu sefydliadau fel Gamblers Anonymous. | 483 |
Wel, mae'n hynod o bwysig bod pobl yn gweld gamblo fel rhywbeth y mae pobl yn gaeth iddo, yn yr un ffordd ag y mae pobl yn gweld alcohol fel rhywbeth y mae pobl yn gaeth iddo, fel y mae cam-ddefnyddio cyffuriau penodol yn rhywbeth y mae pobl yn gaeth iddo, mae'n hynod o bwysig gyda gamblo hefyd. Rydym ni'n ystyried ffyrdd y gallwn ni sicrhau, trwy gyfrwng ein system addysg, bod pobl yn deall peryglon gamblo. Byddai'n sicr yn ddefnyddiol, wrth gwrs, o'n safbwynt ni, pe byddem yn gweld datganoli pwerau dros rai mathau o gamblo hefyd, fel y gellid eu rheoleiddio'n well. | 484 |
Bydd y strategaeth cynhwysiant ariannol sydd gennym ni yn ystyried sut y gallwn ddatblygu ffyrdd eraill o helpu pobl i ymdrin â gamblo, ac yn helpu pobl i wneud dewisiadau cytbwys am gamblo. Ddim yn bell yn ôl, roedd siopau betio y tu ôl i ddrysau caeedig a ffenestri tywyll. Nawr, mae ym mhobman. I'r rhai ohonom ni sydd â diddordeb parhaus ym mhencampwriaeth Ewrop, rydym ni'n gweld, pob un hysbyseb, lle mae pobl hyd yn oed yn cael eu hannog i gymryd eu harian cyn i'r gêm orffen hyd yn oed. Mae'r oes ddigidol wedi cynnig cyfleoedd gwych i'r diwydiant gamblo, ond cyfleoedd gwych i bobl ddod yn fwy caeth nag y gallent fod cynt. Dyna pam mae'n hynod o bwysig i ni ymdrechu'n galetach. | 485 |
Rwyf yn ddiolchgar. Rwyf eisiau rhoi cyfle iddo amlinellu'r cyfleoedd. Efallai y gallai enwi tri. | 486 |
A gaf i wneud ymyriad? Rydych newydd amlygu'r posibilrwydd o roi tariffau ar ddur a fewnforir i'r DU. Bydd hynny'n amlwg yn rhoi tariffau ar allforio dur o'r DU o ganlyniad. Gan fod dros 50 y cant o'r dur ym Mhort Talbot mewn gwirionedd yn mynd i'r UE, a ydych chi felly yn cau Port Talbot drwy gyflwyno tariffau o'r fath? | 487 |
Diolch yn fawr iawn am dderbyn yr ymyriad yn y fan yna, Julie. A oeddech chi mor siomedig â mi na wnaeth mwy o bobl ifanc gofrestru i bleidleisio ac, felly, pan eu bod yn gwneud yr honiad, efallai, fod pobl hŷn wedi pleidleisio mewn ffordd sy'n eu rhoi dan anfantais, eu bod wedi colli eu cyfle eu hunain i gael eu clywed? | 488 |
Nac ydw. Mae ein diogelwch, fel y dywedaf, wedi dibynnu ar NATO erioed. Y tu allan i'r UE, rydym yn adennill y rhyddid i greu cytundebau masnach gan barhau i fasnachu gyda'n partneriaid yn Ewrop. Mae'r DU yn gyfrifol am tua 5.5 miliwn o swyddi ar draws Ewrop. Ni fydd yr UE eisiau rhyfel masnach; bydd eisiau masnach rydd. Mae Markus Kerber, pennaeth y BDI - Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yr Almaen - wedi annog yr Almaen a'r UE i lunio cyfundrefn masnach rydd ôl-Brexit sy'n ei galluogi i gynnal a chadw'r lefelau masnach sydd ganddynt â'r DU. Mae'r Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, wedi dweud nad oes angen i'r Undeb Ewropeaidd fod yn arbennig o gas mewn unrhyw ffordd yn y trafodaethau â Phrydain ynglŷn â gadael yr UE. Mae'r Arlywydd Obama wedi dweud y bydd y berthynas arbennig rhwng yr Unol Daleithiau a Phrydain yn parhau yn dilyn y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Prydain, wedi'r cyfan, yw mewnfuddsoddwr mwyaf America. Mae Arlywydd Ffrainc, François Hollande, wedi addo cynnal perthynas â Phrydain, yn arbennig yn ymwneud â mewnfudwyr yn croesi rhwng y ddwy wlad a chydweithrediad milwrol ac economaidd. Dywedodd Gweinidog Cyllid Canada: Rydym yn parchu dewis pobl Prydain a byddwn yn parhau i fod yn bartner cryf i'r DU ac i'r UE. Mae ein hanes a rennir yn ein gwneud yn bartneriaid masnachu naturiol, ac rwy'n edrych ymlaen at gynnal y cysylltiadau economaidd agos hynny. A gallwn fynd ymlaen, ond mae amser yn brin. Prydain yw un o economïau mwyaf y byd - gwlad fyd-eang sydd eisoes yn cynnal mwy o fasnach y tu allan i'r UE nag unrhyw aelod wladwriaeth arall ac eithrio Malta. Daw ein hunig fygythiad gwirioneddol o'r llais dinistr sy'n ceisio darnio'r Deyrnas Unedig, rhannu ei phobloedd, lleihau ei holl rannau a damnio'r hyn a elwir yn Alban annibynnol i aelodaeth ardal yr ewro a thwll du yn ei chyllideb. Mae hynny'n warthus. Wedi'r cyfan, mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom i ddiogelu sofraniaeth a chyfanrwydd ein Teyrnas Unedig. | 489 |
Nid oes angen i chi wrando ar Weinidogion sy'n gwneud sylwadau o'u seddi. Ewch ymlaen â'ch cyfraniad. | 490 |
Onid ydych yn cytuno â mi bod rhywfaint o'r rhethreg yr ydym wedi'i chlywed gan gynrychiolwyr UKIP mewn gwirionedd wedi bwydo'r drwgdeimlad a'r hiliaeth yr ydym wedi'u gweld? | 491 |
Cawsom gwestiwn yn gynharach heddiw sy'n awgrymu bod rhai pobl sy'n gyfreithlon yn y wlad hon, yn ceisio lloches yma - a'r cwestiwn oedd am gost y bobl hynny. Dylai ystyriaethau dyngarol ddod yn gyntaf, does bosib'? | 492 |
I'r rhai sydd am fwrw ein hymadawiad oddi ar y cledrau a llesteirio ein cynnydd o ran sicrhau bargen wych, rwy'n eich annog i wrando ar bobl Prydain a gyflwynodd fandad clir ar gyfer Brexit. Wrth ein cefndryd yn yr Alban, rwy'n dweud: ni allwch fwrw ein hymadawiad oddi ar y cledrau. Efallai bod pleidleiswyr yn yr Alban wedi pleidleisio o blaid aros yn yr UE, ond maent hefyd wedi pleidleisio o fwyafrif llethol i aros yn y DU, a does fawr iawn o amser ers hynny. Aelodau, mae'n rhaid i ni gyflawni dymuniadau democrataidd ein pleidleiswyr yn y DU. Mae'n rhaid i ni sicrhau nad yw ein hetholwyr sy'n derbyn arian gan yr UE ar gyfer eu busnesau a'u cwmnïau yn cael eu siomi gan delerau ein hymadawiad. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod ein cytundeb gadael yn cyflawni dros Gymru a'r Deyrnas Unedig. Mae'n rhaid i ni drechu'r rhai sy'n ceisio rhannu ein cenedl - [Torri ar draws.] Yn union, nid yw cynnen yn talu - ond yn bennaf oll, rhaid i ni hefyd sicrhau ein bod yn manteisio ar y cyfleoedd a gyflwynir i ni gan ein penderfyniad i adael yr UE. Yn olaf, Lywydd, mae'n rhaid i ni gofio ein bod ni bob un wedi ein hethol gan y cyhoedd - bob un ohonom. Rydym yn eu cynrychioli p'un a wnaethant bleidleisio drosom ni ai peidio, ac mae fy ysgrifbin yn ysgrifennu'r un fath ar gyfer bob etholwr, ni waeth sut y maent wedi pleidleisio a thros bwy. Diolch. | 493 |
Diolch yn fawr iawn am gymryd yr ymyriad, ac rwy'n cytuno â'ch geiriau na ddylem fod yn falch o'r ffaith y bu angen cyllid cydgyfeirio arnom yn ystod y cyfnod hwn. Rydym ar yr un ochr ar hyn, ond rwy'n siŵr y byddwch yn ymuno â mi yn fy atgasedd tuag at dôn rhai o bapurau Llundain sy'n pwyso tua'r chwith sydd wedi galw ein hetholwyr a bleidleisiodd i 'adael' yn ddifeddwl ac, yn bwysicach fyth, yn ddiddiolch am yr arian sydd wedi dod o Ewrop i helpu i gefnogi'r cymunedau hynny. A ydych yn derbyn, fodd bynnag, y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros beidio ag argyhoeddi'r cymunedau penodol hynny bod arian wedi dod o Ewrop ac wedi'u helpu, yn hytrach na dod yn uniongyrchol o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a'r hyn yr ydym wedi ei ddysgu, pob un ohonom, o hynny am sut yr ydym yn cyfleu sut y caiff arian ei ddefnyddio yn ein cymunedau a phwy sy'n gyfrifol am y penderfyniadau? | 494 |
Diolch. Rwy'n derbyn eich pwynt bod y canlyniad wedi amlygu dadrithiad dwfn i lawer o bobl mewn cymunedau dosbarth gweithiol. Nid wyf yn derbyn ei bod yn ymwneud â'r UE yn unig. Mae'n cynrychioli datgysylltiad llawer dyfnach â'r ffordd y mae ein heconomi yn gweithio. Ond erbyn hyn mae her i'r rhai a wnaeth addewidion ar yr ymgyrch 'gadael', oherwydd fe wnaethoch addewidion, ac mae perygl, os nad yw'r addewidiion hynny yn cael eu cadw, y gallai dadrithiad â gwleidyddiaeth fod yn broses wenwynig iawn. Felly, beth ydych chi'n mynd i'w wneud i sicrhau bod y rhai a wnaeth honiadau ac addewidion ar eich ochr chi yn anrhydeddu'r ymrwymiadau hynny? | 495 |
Diolch, Lywydd. Roeddwn i'n gwybod, pan gafodd y ddadl hon ei chyflwyno, a phan ddechreuodd, y byddem yn treulio llawer o amser mae'n debyg yn ailredeg digwyddiadau a dadleuon yr wythnos diwethaf. Ond mae'r canlyniad yno. Mae'n iawn i ddweud ei fod yn agos, ond yna roedd sefydlu'r sefydliad hwn yn ganlyniad refferendwm agos yn ogystal - wedi'i gryfhau lawer wedi hynny wrth gwrs, yn 2011. Mae'n rhaid i mi ddweud wrth Caroline Jones fod yna bobl oedd yn ceisio gwrthdroi'r canlyniad. Yn 2001, roedd gan faniffesto'r Ceidwadwyr ymrwymiad i gynnal refferendwm er mwyn galluogi pobl i wrthdroi'r canlyniad. Hen hanes yw hynny erbyn hyn, yn ffodus. Ond mae yno: mae'r canlyniad yno; nid oes mynd yn ôl arno. Yn fy marn i, nid oes galw am ail refferendwm. Rwy'n meddwl bod peryglon mawr yn hynny. Os oes galw am ail refferendwm, bydd y rhai a bleidleisiodd i adael yn digio fwy fyth a bydd y dicter yn cael ei drosi yn rhywbeth mwy annymunol. Byddant yn gweld bod ymgais i ddadwneud eu barn nhw, barn y mwyafrif, fel y maent yn ei weld, ac mae peryglon mawr yn hynny o beth. Felly, rwy'n gwybod bod eraill wedi sôn am hyn, ond dwi ddim yn meddwl y byddai cynnal ail refferendwm yn beth doeth ar hyn o bryd. A gaf i droi at yr hyn a ddywedodd arweinydd yr wrthblaid? Mae ef wedi lleoli ei hun fel rhywun sy'n gallu ychwanegu at y ddadl - | 496 |
Siawns, mae hwnnw'n gwestiwn dilys i'w ofyn, a mater i ni yn y sefydliad hwn, fel gwleidyddion - [Torri ar draws.] Ac mae'n fater i ni yn y sefydliad hwn, a gwleidyddion o bob plaid, i wneud yn siŵr bod yr iaith yr ydym yn setlo arni mewn gwirionedd yn cynrychioli beth fydd yn sicrhau'r fargen orau i Gymru. Mae'n rhaid i ni ofyn y cwestiynau anodd i gael yr atebion sy'n ofynnol gennym. | 497 |
Mae croeso i'r Aelod ar y meinciau hyn fynegi'i farn bob amser. Ond mae'n iawn - mae'n iawn. Gan y bydd yr Aelodau'n gwybod bod cael arian allan o'r Trysorlys, tegwch, fformiwla Barnett, toll teithwyr awyr - yr ateb oedd 'na' bob amser, oherwydd nid yw pobl Cymru a'u barn yn bwysig yn ôl pob golwg. Wel, mae'n rhaid i hynny newid. Mae eraill wedi ei ddweud yn y Siambr hon a byddaf yn ailadrodd unwaith eto: ein harian ni yw e ac mae angen iddo ddod i Gymru er mwyn i'r ddeddfwrfa hon benderfynu sut y caiff yr arian ei ddosbarthu. Ni fydd unrhyw beth arall yn dderbyniol. Felly, rydym yn wynebu byd gwahanol, math gwahanol o wleidyddiaeth, a byd ansicr iawn. Nid ydym yn gwybod beth fydd y berthynas â'r UE. Nid ydym yn gwybod sut fydd y DU, os yw'n bodoli, yn edrych dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Yr hyn sy'n hynod o bwysig, yn fy marn i, i bob un ohonom yn y Siambr hon, yw darparu atebion. Efallai na fyddant yn atebion y byddwn ni i gyd yn cytuno arnynt, ond, os byddwn yn methu â darparu gweledigaeth ar gyfer ffordd ymlaen, pa bynnag wahaniaethau sydd rhwng y gwahanol weledigaethau, yna bydd y bwlch yn cael ei lenwi gan y rhai y mae eu barn yn llawer mwy eithafol. Rydym weithiau yn credu na allai'r 1930au a'r amodau hynny fyth ddychwelyd, ond dydw i ddim yn argyhoeddedig. Felly, mae'n bwysig i wleidyddion democrataidd wneud yn siŵr eu bod yn adennill hyder y cyhoedd, adennill ymddiriedaeth y cyhoedd, a gwneud yn siŵr bod gennym ffyniant, cyfiawnder a thegwch i'n cenedl. | 498 |
Rydym yn symud nawr i eitem 3 ar yr agenda, sef y datganiad a chyhoeddiad busnes. Rwy'n galw ar Jane Hutt. | 499 |