text
stringlengths 76
2.23k
| __index_level_0__
int64 0
4.36k
|
---|---|
Absolutely'. Rwy'n hapus iawn i ddweud hynny. Ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni fynd yn bellach na hynny. Mae tlodi yn ymddangos mewn ffyrdd gwahanol, ac rydym ni'n deall bod teuluoedd a phobl yn cael eu heffeithio gan dlodi mewn ffyrdd gwahanol. Ac nid yw'n ddigonol i unrhyw Lywodraeth 'simply' i ddweud, gan fod yna ddim tystiolaeth ar hyn o bryd bod yna broblem yn y maes yma, nad ydym ni'n gwneud dim byd amdano fe. Rydym ni'n mynd i archwilio i sicrhau unrhyw dystiolaeth o gwbl y gallwn ni ei ffeindio. Os oes yna broblem i'w datrys, mi fyddwn ni'n datrys y broblem, ac mi fyddwn ni'n gweithio gydag ysgolion i sicrhau - fel yr awgrymodd yr Aelod - os oes unrhyw ffordd y gall ysgolion weithio i sicrhau bod merched yn yr ysgol yn teimlo'n gartrefol ac yn gallu derbyn eu haddysg, y byddwn ni'n gwneud hynny. Felly, rwyf eisiau sicrhau bod yna ymateb 'proactive' i sicrhau bod hyn ddim yn digwydd yng Nghymru. | 4,300 |
Fel y credaf fy mod wedi dweud eisoes, wrth ateb y cwestiwn cynharach, ceir gwahanol ffurfiau ar dlodi, mewn gwahanol leoedd, gyda gwahanol bobl, mewn gwahanol ffyrdd, ar wahanol adegau. Ac mae'n rhaid i ni, fel Llywodraeth, sicrhau nad ydym ond yn ymateb i broblemau, ond ein bod yn mynd ati'n rhagweithiol i sicrhau nad yw merched sy'n mynychu ysgolion yng Nghymru yn cael eu rhoi dan unrhyw anfantais o gwbl, ac nad ydynt yn wynebu embaras, nad ydynt yn wynebu unrhyw anawsterau o gwbl, o ran cael mynediad at addysg. Ac os oes unrhyw broblemau o gwbl gyda chynnyrch misglwyf, yna byddwn yn sicrhau bod pob cam posibl yn cael ei gymryd, ac yn cael ei gymryd yn rhagweithiol, gan ysgolion, gennym ni ein hunain ac eraill - sefydliadau ac unigolion priodol eraill - i sicrhau bod y problemau hyn yn cael eu nodi a'u datrys. | 4,301 |
Fel y dywedais wrth ateb Simon Thomas, byddem yn annog ac yn sicrhau bod ysgolion, lle bynnag y bo angen, yn defnyddio'r adnoddau sydd ar gael iddynt, er mwyn sicrhau bod merched yn cael mynediad at y cynhyrchion hyn, sy'n eu galluogi i gael eu haddysg. Fel y dengys y cofnodion, mae'r Llywodraeth hon wedi bod yn dadlau ers nifer o flynyddoedd na ddylid trethu'r cynhyrchion hyn yn y ffordd honno. | 4,302 |
A allai'r Gweinidog gadarnhau nad yw'n ofynnol i oruchwylwyr llanw addysgu dosbarthiadau, oherwydd ceir tystiolaeth anecdotaidd fod hyn yn digwydd weithiau? Eu tasg, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yw rhoi'r gwersi sy'n cael eu paratoi gan yr athro dosbarth rheolaidd. Ymddengys bod peth dryswch ynglŷn â hyn. | 4,303 |
Weinidog, yn amlwg, gyda'r cynigion gofal plant y mae'r Llywodraeth yn eu cyflwyno, cafwyd cyflwyniadau gan y Llywodraeth sy'n dweud y byddwch yn defnyddio'r ystad ysgolion mewn rhai agweddau i ddarparu rhywfaint o'r capasiti hwn. A ydych yn rhagweld y bydd goruchwylwyr llanw yn cael eu hannog neu eu hyfforddi i helpu i gefnogi'r Llywodraeth wrth iddynt gyflwyno'r 30 awr o ofal plant am ddim dros yr wythnosau, fel y cynlluniwyd, neu a ydych yn rhagweld na fydd unrhyw rôl o gwbl ar gyfer y goruchwylwyr llanw a ddarperir yn yr ystad ysgolion ar hyn o bryd, naill ai mewn addysg gynradd neu uwchradd? | 4,304 |
Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i'r Gweinidog. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar. | 4,305 |
O'r ymateb hwnnw, rydych o leiaf yn cydnabod bod yna broblemau yma yng Nghymru, yn wahanol i arweinydd y tŷ pan holais i hi ar y pwynt hwn yr wythnos diwethaf. Nid newyddion ffug mo hyn. Mae'r rhain yn ffigurau ariannol go iawn gan golegau yma yng Nghymru. Rydym wedi gweld toriadau enfawr yn y cyllid ar gyfer cyrsiau rhan-amser yn arbennig - 71 y cant yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a gostyngiad o 13 y cant mewn termau real i golegau addysg bellach. Mae'r rheini'n doriadau sydd bellach yn gadael eu hôl yn y colegau hynny. Mae rhai yn diddymu mynediad at gyrsiau penodol. Rwy'n sylweddoli eich bod am ganolbwyntio ar draws y ffin yn Lloegr, ond os gallwch ganolbwyntio ar Gymru am eiliad, beth a wnewch i wella rhagolygon y colegau hynny, fel nad ydym yn gweld cyrsiau'n cael eu diddymu mewn cymunedau lleol, ac nad ydym yn gweld colegau addysg bellach yn methu cael y math o effaith economaidd y maent wedi'i chael yn y cymunedau hynny yn y gorffennol? | 4,306 |
Bydd y Gweinidog yn ymwybodol fod gwaddol polisi economaidd aflwyddiannus a chamreoli arian cyhoeddus Gordon Brown yn un y mae ein gwlad yn dal i geisio ymdopi ag ef. Ac er gwaethaf y pwysau ar gyllid cyhoeddus, y gwir amdani yw bod y toriadau a wnaed gennych yn y sector addysg bellach yng Nghymru yn fwy na'r toriadau a wnaed i grant bloc Cymru. Felly, penderfyniadau y mae eich Llywodraeth chi wedi eu gwneud yng Nghymru sydd wedi arwain at yr ergydion ariannol sy'n wynebu colegau addysg bellach. Nawr, bydd rhywfaint o adnoddau ychwanegol ar gael i Lywodraeth Cymru - rhywfaint o arbedion yn sgil y diwygiadau i gymorth addysg uwch i fyfyrwyr. Bydd hynny'n rhoi difidend i Lywodraeth Cymru y gall ei ailfuddsoddi mewn mannau eraill. Tybed, Weinidog, a fyddwch yn gallu dweud wrthym a fydd y colegau addysg bellach ledled Cymru yn derbyn rhywfaint o'r buddsoddiad a fydd yn dod i Lywodraeth Cymru o ganlyniad i'r arbedion hynny ac a fyddwch yn gallu adfer yr ymrwymiad i gyllidebau dangosol tair blynedd er mwyn cynorthwyo gyda'u cynlluniau ariannol, ac a fydd rhywfaint o'r adnodd hwnnw'n cael ei ddefnyddio i ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg bellach. | 4,307 |
Cyn i mi alw ar Llyr Gruffydd, a gaf fi ddweud nad oes unrhyw Aelod yn y Siambr hon yn llywaeth ac yn arbennig, byddwn yn dweud nad yw Darren Millar yn adnabyddus am y nodwedd arbennig honno, ac felly, nid ydym am gael rhagor o alw enwau, yn enwedig gan Weinidog sy'n cymryd lle Ysgrifennydd y Cabinet y prynhawn yma? Llyr Gruffydd. | 4,308 |
Rwy'n deall bod ysgolion, lle bynnag y maen nhw, yn wynebu sefyllfa anodd iawn ambell waith oherwydd y sefyllfa ariannol a chyllidebol rydym i gyd yn ei ddeall, ac rydym yn deall pam y mae yno. A gaf fi ddweud hyn: os oes gan yr Aelod enghraifft benodol y mae ef eisiau cyfeirio ati, rwy'n hapus iawn i dderbyn llythyr ganddo fe yn esbonio beth yn union mae'n ei feddwl, ac fe wnaf i ateb yr enghraifft benodol? Ond rydym ni'n deall bod prifathrawon a llywodraethwyr yn delio gyda sefyllfa anodd ac rwy'n credu y dylai pob un ohonom ni gefnogi'r prifathrawon a'r llywodraethwyr am y ffordd maen nhw'n delio gyda'r sefyllfa ariannol yma. | 4,309 |
Diolch i chi, Lywydd. Mae pobl yn tynnu fy sylw dro ar ôl tro at y ffaith fod yna argyfwng recriwtio yng Nghymru. Pa gamau rydych yn eu cymryd i ganfod y rhesymau pam fod athrawon o Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn dymuno gweithio yng Nghymru neu fel arall? | 4,310 |
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Ni chlywais i chi'n dweud wrthym beth rydych yn ceisio'i wneud i ganfod pam y byddai athrawon eisiau dod i weithio yng Nghymru neu fel arall. Os nad ydym yn cyflenwi ein hathrawon ein hunain, mae angen i ni ddod o hyd iddynt o rywle arall. Felly, un o'r pethau y mae angen i ni ei ddeall yw pam y byddai pobl eisiau gweithio yng Nghymru a'r hyn sy'n gwneud iddynt beidio â bod eisiau gweithio yng Nghymru. Felly, pa fath o ymchwiliadau a gynhelir gennych i ganfod hynny? | 4,311 |
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Mae gan y system addysg yng Nghymru enw gwael iawn yn anffodus. Pa un a ydych yn cytuno â'r enw gwael hwnnw, pa un a ydych yn cytuno bod y system addysg yng Nghymru yn haeddu'r enw gwael hwnnw ai peidio, rydym yn mynd i'w chael yn anodd iawn recriwtio gweithwyr proffesiynol ifanc sydd â theuluoedd ifanc, ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol meddygol, oni bai bod yr enw gwael hwnnw'n cael ei wella. Beth a wnewch i wella enw da'r system addysg yng Nghymru y tu allan i Gymru? | 4,312 |
Rydym yn cydnabod y bydd cau safle Wern Fawr yn arwyddocaol, ond ni ddylai arwain at golli cyrsiau ar gyfer oedolion sy'n ddysgwyr. Mae Addysg Oedolion Cymru, ynghyd â swyddogion, yn parhau i weithio gyda'r gymuned i gyflwyno darpariaeth dysgu oedolion yn nhraddodiad Coleg Harlech. | 4,313 |
A gaf i ddechrau drwy gytuno â'r pwynt mae'r Aelod wedi ei wneud amboutu traddodiadau Coleg Harlech a gwaith a chyfraniad Coleg Harlech? Rydw i'n credu bod pob un ohonom ni sydd wedi ymweld â'r coleg a phob un ohonom ni sydd wedi eistedd yn y Siambr yma yn cynrychioli ardal Harlech yn deall ac yn cydnabod y cyfraniad mae wedi ei wneud i addysg gydol oes dros y blynyddoedd. Rydw i'n gallu eich sicrhau bod f'adran i wedi bod yn trafod gydag adran yr economi yn Llywodraeth Cymru amboutu defnydd yr adeilad yn y dyfodol a safle Coleg Harlech. Mi fyddwn ni'n parhau i gydweithio i gefnogi Adult Learning Wales i ffeindio ffordd gynaliadwy i gynnal y safle ar gyfer y dyfodol. Rydw i hefyd yn gallu cadarnhau bod 'Cabinet Secretary' yr economi wedi cyfarfod cynghorwyr Cyngor Gwynedd i drafod dyfodol safle Coleg Harlech. Mae opsiynau yn dal i gael eu gweithio trwyddynt gyda'r cyngor ac mi fydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i drafod gyda Cyngor Gwynedd y cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Rydw i'n siŵr y bydd Aelodau eisiau gwybod a chlywed 'updates' pellach ar y gwaith hwnnw. | 4,314 |
Diolch yn fawr, Weinidog. Dangosodd yr adroddiad blynyddol diweddaraf gan y prif arolygydd ysgolion fod llawer gormod o amrywiaeth o ran safonau addysgu, dysgu ac arweinyddiaeth mewn ysgolion ledled Cymru. O ystyried hynny, a yw'r Gweinidog yn bryderus nad yw Estyn yn cynllunio neu'n arolygu awdurdodau addysg lleol yn y cylch arolygu nesaf? Yn lle hynny, mae'n bwriadu canolbwyntio ar y consortia rhanbarthol. | 4,315 |
Weinidog, mae adroddiad diweddaraf Estyn hefyd yn tynnu sylw at y ffaith nad yw'r deilliannau arolygu ar gyfer ysgolion arbennig ddim cystal o gymharu â'r blynyddoedd blaenorol. Mae'r canlyniadau ar gyfer unedau cyfeirio disgyblion yn parhau i fod yn wael. Yn sgil hyn, pa gamau penodol mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella canlyniadau mewn ysgolion arbennig, ac mewn unedau cyfeirio disgyblion? | 4,316 |
Mae band B y rhaglen addysg ac ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi cael ei gynllunio ar gyfer y cyfnod 2019-24, ac mae'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'n partneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, awdurdodau esgobaethol a'r sector addysg bellach i ddeall y galw am fuddsoddiad a phrosiectau allweddol. | 4,317 |
Mae'r Aelod yn gwbl gywir i bwysleisio'r buddsoddiad sydd wedi digwydd mewn ysgolion ledled Cymru. Mae band A wedi gweld dros 150 o ysgolion a cholegau ledled Cymru yn cael eu hailadeiladu a'u hadnewyddu. Mae hwnnw'n fuddsoddiad go iawn yn addysg plant a phobl ifanc ar gyfer y dyfodol. Bydd yr ail don yn dechrau - bydd band B yn dechrau yn 2019 ac yn para am gyfnod o bum mlynedd hyd at 2024. Mae blaenoriaethau buddsoddi ar gyfer y cyfnod ariannu nesaf yn cael eu datblygu ar hyn o bryd mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, sefydliadau addysg bellach ac eraill. Nod y rhaglen band B yw lleihau nifer yr ysgolion a cholegau sydd mewn cyflwr gwael, er mwyn sicrhau bod digon o leoedd ar gyfer darparu addysg cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg, a sicrhau defnydd effeithiol ac effeithlon o'r ystad addysgol. A byddwn yn cynghori pawb sydd â diddordeb yn hynny i drafod ar unwaith gydag awdurdodau lleol a bwrw ymlaen â'r materion hyn. | 4,318 |
Er gwaethaf rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, mae anawsterau'n parhau gydag ysgolion hŷn sydd angen eu hatgyweirio. Cawsom sefyllfa braidd yn chwerthinllyd y gaeaf hwn, pan gafodd 1,400 o ddisgyblion o dair ysgol uwchradd yng Nghaerdydd eu cludo i lefydd fel Arena Motorpoint, stadiwm SWALEC, neuadd y sir a Choleg y Barri i gael gwersi. Achosodd hyn aflonyddwch sylweddol. A yw'r Gweinidog yn credu bod y sefyllfa hon yn dderbyniol, ac a yw ei adran yn gallu gwneud unrhyw beth i osgoi aflonyddwch tebyg yn y dyfodol? | 4,319 |
Mae cylchoedd Ti a Fi, grwpiau rhieni a babanod cyfrwng Cymraeg, yn rhan bwysig o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg y blynyddoedd cynnar a gefnogir gan y Mudiad Meithrin. Rydym am sicrhau bod llwybr clir o gymorth i rieni ddefnyddio'r Gymraeg gyda'u plant, gyda'r nod o weld niferoedd cynyddol yn cael addysg cyfrwng Cymraeg. | 4,320 |
Rydw i'n diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae yna becyn o gefnogaeth i gylchoedd Ti a Fi, sydd wedi cael ei gyhoeddi yn ystod hydref y llynedd, ac mae hynny yn cynnig cyngor ac enghreifftiau o ymarfer da i sicrhau bod grwpiau sy'n bodoli yn barod, a grwpiau newydd, yn gallu cael eu cefnogi a'u creu. Yn ychwanegol at hynny, mae yna grant o £1.4 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf, sy'n cefnogi 'range' o weithgareddau, sy'n cynnwys cefnogaeth at ehangu darpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae grwpiau Ti a Fi, cylchoedd Ti a Fi, yn rhan hynod o bwysig o'r ddarpariaeth yna. | 4,321 |
Dylwn i ddiolch i'r Aelod am yrru copi o'r ddogfen i mi. Nid ydw i wedi cael cyfle i'w darllen hi eto, ond mi fyddaf i'n ei wneud e dros y penwythnos, efallai. Rydw i'n gwerthfawrogi hynny. A gaf i ddweud hyn? Mi fydd y strategaeth iaith yn strategaeth Llywodraeth, nid strategaeth unrhyw adran neu adran benodol. Mi fydd y strategaeth yn cael ei datblygu ar draws y Llywodraeth, yn cynnwys pob un adran o Lywodraeth, ac wedi hynny bydd hi'n cael ei derbyn gan y Cabinet i sicrhau ei bod hi'n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd. Felly, mae pob un mater, fel tlodi, fel mae'r Aelod wedi ei godi, yn mynd i fod yn rhan ohoni hi, a darpariaethau cylchoedd Ti a Fi, fel sydd wedi cael eu codi gan Mike Hedges, mi fydd y rhain yn rhan ohoni hi, a'r ddarpariaeth ehangach blynyddoedd cynnar yn rhan ohoni hi hefyd. Mae hon yn strategaeth gynhwysfawr, yn cynnwys pob un rhan o Lywodraeth Cymru. | 4,322 |
Trosglwyddodd y cyfrifoldeb dros dalu'r grant ffioedd dysgu o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i Lywodraeth Cymru o 1 Ebrill 2015 ymlaen. Roedd yr addasiad technegol o £21.1 miliwn yn gadarnhad o drosglwyddiad terfynol y gyllideb wedi'i chlustnodi a amlinellwyd yn y llythyr cylch gwaith gweinidogol ar gyfer 2016 i CCAUC. | 4,323 |
Lywydd, mae'r Aelod o leiaf yn gyson yn gofyn yr un cwestiwn i nifer o wahanol Weinidogion a phwyllgorau ar wahanol adegau, ond byddaf yn siomi'r Aelod drwy roi'r un ateb ag y mae'r Gweinidogion hynny eisoes wedi'i roi iddo. Mae wedi derbyn ei lythyr ar 15 Mawrth. Rwy'n hapus iawn, Lywydd, i brofi eich amynedd eto a'i ddarllen yn ei gyfanrwydd ar gyfer y cofnod, ond nid wyf yn siŵr y byddai hynny'n cyflawni llawer iawn. Mae'n rhaid i mi ddweud hyn wrth yr Aelod: cafodd y pwyntiau y mae wedi'u codi yn y Pwyllgor Cyllid ac eto yma eu hateb yn y llythyr ar 15 Mawrth. Mae hwn yn addasiad technegol i'r cyllidebau sy'n gysylltiedig ag addysg uwch. Mae'r dogfennau cyllideb a gyhoeddwyd yn esbonio hyn, ac mae wedi cael ei esbonio gan y Gweinidog cyllid a'r Ysgrifennydd addysg yn y materion hyn. | 4,324 |
Wel, rydych yn ymwybodol, drwy'r sgyrsiau a gawsom yma o'r blaen, ein bod yn rhyddhau'r arian y mae CCAUC ei angen er mwyn darparu'r math o brofiad addysg uwch a buddsoddiad rydym am ei gyflawni yng Nghymru. Ond gadewch i mi ddweud hyn: rwy'n credu bod angen i ni fynd gam ymhellach, weithiau, na dim ond ariannu'r ystad a'r sefydliad addysg uwch er mwyn cyflawni'r pethau hynny. Rwy'n credu bod angen i ni edrych yn ehangach ar ddatblygu polisi diwydiannol sy'n seiliedig yn rhannol o fewn addysg uwch, ond nid yn unig o fewn addysg uwch, ar gynyddu sgiliau, masnacheiddio'r ymchwil sydd ar gael i ni, a buddsoddi mewn economi sy'n gallu gwrthsefyll yr anawsterau y bydd ein heconomi yn eu hwynebu yn y blynyddoedd i ddod. | 4,325 |
Diolch i chi am eich ateb, Weinidog. Rwy'n gobeithio y byddwch yn ymwybodol fod diffyg band eang ar draws rhannau o gefn gwlad Powys yn rhoi ysgolion gwledig, yn arbennig, o dan anfantais sylweddol, sy'n cael effaith ganlyniadol ar addysg y disgyblion. Nawr, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae 28 o ysgolion cynradd ledled Cymru yn dal i fethu cael band eang digonol i'w galluogi i addysgu disgyblion drwy ddefnyddio adnodd dysgu digidol Hwb. A gaf fi ofyn beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau y gall athrawon gael mynediad at yr adnodd digidol sydd ei angen arnynt i gyflwyno'r cwricwlwm llawn i'w disgyblion? | 4,326 |
Rydym ni wedi amlinellu ein hymgyrch genedlaethol i godi lefelau cyrhaeddiad addysg drwy raglen o ddigwyddiadau addysgol ledled Cymru, yn cynnwys sir Benfro. Yn eu plith, mae datblygu cwricwlwm newydd a diwygio proses asesu, gwella addysg gychwynnol athrawon, dysgu proffesiynol ymhlith athrawon, meithrin arweinwyr, a lleihau'r bwlch cyrhaeddiad. | 4,327 |
Rydw i'n credu bod pob un ohonom ni'n croesawu'r newyddion y mae Paul wedi eu rhannu â ni. A gaf i ddweud hyn? Mae'r Cynulliad ei hun, wrth gwrs, yn rhedeg cynlluniau arbennig o dda, ac rydw i wedi gweld llwyddiant cynlluniau Comisiwn y Cynulliad yn ysgolion Blaenau Gwent, yn fy etholaeth fy hun, sydd wedi derbyn cyfleoedd i ymweld â'r Senedd a hefyd i ddod i ddysgu mwy amboutu'r Senedd a'r Cynulliad a sut y mae hynny'n cael impact ar eu bywydau nhw. Rydw i'n credu bod y rhaglenni yma wedi bod yn hynod lwyddiannus, ac rydw i'n gwybod y buasai'r Llywodraeth eisiau cefnogi'r Comisiwn yn y gwaith y mae yn ei wneud ar hyn o bryd. | 4,328 |
Diolch yn fawr, Weinidog. Weinidog, yn ddiweddar cefais wybod am sefyllfa yn fy etholaeth lle roedd cynorthwyydd cymorth dysgu yn darparu cymorth i ferch sydd ag anghenion yn ymwneud â'i golwg - cymorth Braille. Mae'r cynorthwyydd cymorth dysgu wedi gadael y cyngor i weithio yn rhywle arall ac nid yw'r cyngor wedi llwyddo i ddod o hyd i rywun i lenwi'r swydd honno, felly nid yw'r ferch wedi gallu parhau i gael y lefel honno o gefnogaeth, a hynny heb fod unrhyw fai arni hi, na'r awdurdod lleol hyd yn oed. Rwy'n credu bod pawb ohonom, yn ôl pob tebyg, yn cytuno y byddai mwy o gydweithio rhwng awdurdodau i ddarparu cefnogaeth o'r fath yn helpu, fel y byddai defnydd awdurdodau lleol o bremiymau cadw a recriwtio pe bai angen. Ond a all y Gweinidog ddweud beth arall y gall yr awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod plant, fel plentyn fy etholwr, yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt pan nad yw awdurdodau lleol yn gallu llenwi'r swyddi hyn? | 4,329 |
Ar ôl i bryderon gael eu dwyn i fy sylw gan rieni a glywodd y byddai toriadau yn y cymorth un i un yn ysgolion cynradd Gwynedd ar gyfer plant sydd â diabetes math 1, maent wedi dweud wrthyf fod yna newyddion da, a'u bod wedi dod o hyd i ffordd wych ymlaen, ac maent yn falch o'r ymagwedd a fabwysiadwyd gan staff y cyngor a'u parodrwydd i gydweithio. Fodd bynnag, mynegwyd pryder fod hyn yn cael ei ariannu drwy gyllidebau anghenion dysgu ychwanegol ac maent yn chwilio am sicrwydd gan Lywodraeth Cymru na fydd y Bil anghenion dysgu ychwanegol sydd ar y gweill yn peryglu'r cyllid hwnnw. Pa sicrwydd y gallwch ei roi iddynt? | 4,330 |
Mae TB buchol yn fater datganoledig ac mae hela â chŵn yn parhau i fod yn fater a gedwir yn ôl. Fodd bynnag, rwy'n siŵr y bydd y Cwnsler Cyffredinol wedi gweld yr adroddiad diweddar gan y Gynghrair yn Erbyn Chwaraeon Creulon, a ganfu fod TB buchol mewn haid o gŵn hela yn Swydd Buckingham, a bod hyn wedi arwain at ddifa tua 40 o helgwn oherwydd y perygl y byddai'r cŵn yn lledaenu'r clefyd i wartheg. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn rhannu fy mhryder na fyddai Llywodraeth Cymru yn gallu deddfu i fynd i'r afael â'r perygl newydd hwn yn yr ymdrech i reoli TB buchol yng Nghymru? | 4,331 |
Diolch. Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol fod materion fel tipio anghyfreithlon, baw cŵn a sbwriel yn bryder go iawn i lawer o bobl. A fyddai'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi y dylai'r cosbau a roddir mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol fod yn gymesur â'r pwyslais y mae'r cyhoedd yn ei roi ar yr angen i atal ymddygiad o'r fath? | 4,332 |
Mae baw cŵn, sbwriel a thipio anghyfreithlon i gyd yn faterion pwysig iawn, ond mae arnaf ofn fy mod yn gorfod ymdrin ag enghreifftiau llawer mwy difrifol o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn fy etholaeth. Yn benodol, mae unigolyn allan ar fechnïaeth sy'n aros am ddedfryd, yn ôl y sôn, wedi bod yn ymddwyn yn fygythiol tuag at bobl sydd hefyd wedi dioddef difrod troseddol blaenorol i flaen ac ochr eu tŷ. Yn amlwg, mae hyn yn hynod fygythiol ac mae'n bosibl nad yw'n amherthnasol i'r drosedd y mae'r person yn aros i gael ei ddedfrydu amdani. Felly, pa drafodaethau rydych chi'n eu cael gyda swyddogion y gyfraith ynglŷn â'r angen i sicrhau nad yw rhywun sydd allan ar fechnïaeth yn cyflawni troseddau pellach wrth aros am ddedfryd? | 4,333 |
Diolch am y cwestiwn. Nid yw'n fwriad gennyf wneud datganiadau am drafodaethau a gefais gyda swyddogion y gyfraith neu ddatgelu cynnwys unrhyw drafodaethau o'r fath. Mae hwn yn gonfensiwn sefydledig a luniwyd i gadw cyfrinachedd y trafodaethau hynny a'r berthynas rhwng swyddogion y gyfraith, ac edrychaf ymlaen at eich cwestiwn atodol. | 4,334 |
Wel, ni fydd yr Aelod yn synnu clywed bod y cwestiwn hwn yn amodol ar gonfensiwn sefydledig swyddogion y gyfraith. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ei safbwynt yn glir iawn: rydym wedi galw am warantu hawliau mewnfudwyr yr UE sydd eisoes yn byw yng Nghymru ar unwaith. | 4,335 |
Wel, rwy'n credu mai'r peth cyntaf yw ei bod yn bwysig iawn fod Llywodraeth Cymru yn gwneud yr hyn y mae wedi'i wneud, mewn gwirionedd, sef siarad yn glir ar ran y dinasyddion Cymreig hynny, y rhai sydd wedi dod o wledydd eraill yn Ewrop efallai, sy'n byw yng Nghymru, sydd wedi gwneud bywyd iddynt eu hunain yma, sy'n gweithio yma, ac sy'n cyfrannu cymaint at ein heconomi a'n teulu. Ac mae hynny'n cael ei nodi'n glir iawn ym Mhapur Gwyn Llywodraeth Cymru a anfonwyd at Lywodraeth y DU, ac sy'n destun trafodaethau. Ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl - mae'n fater y bydd y Prif Weinidog yn ei grybwyll yn gyson - ei fod yn nodi ein safbwynt yn glir iawn: 'Dylid gwarantu ar unwaith hawliau mudwyr o'r UE sydd eisoes yn byw yng Nghymru i aros, a rhaid i bob un sy'n byw yma gael ei drin gyda'r un faint o barch. Rydym yn galw ar yr UE i roi gwarant cyfatebol i ddinasyddion Cymru a'r DU sy'n byw yn yr UE.' | 4,336 |
Rwyf am ymdrin â'r pwynt olaf yn gyntaf, ynglŷn â chonfensiwn Fienna. A allwch gadarnhau mai at adran 70 o'r confensiwn y cyfeiriwch - neu efallai nad ydych yn gwybod? | 4,337 |
Mae fy etholaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o bob gwlad yn Ewrop, ac eithrio, o bosibl, Lwcsembwrg a Liechtenstein, a gallaf sicrhau'r Cwnsler Cyffredinol nad ffrwyth dychymyg yw hyn. Mae wedi arwain at gynnydd sydyn yn y sylwadau difrïol sy'n cael eu cyfeirio at bobl sy'n dod o wledydd eraill yn Ewrop. Rwy'n arbennig o bryderus am y rhai sydd wedi byw yn y wlad hon ers blynyddoedd lawer, sydd wedi magu plant yn y wlad hon, sy'n ddinasyddion Prydeinig, ac eto sy'n wynebu'r posibilrwydd, ar hyn o bryd, o gael eu gorfodi i adael y wlad hon er mai dyma ble y mae eu teuluoedd yn byw. A allech ddweud wrthym a oes gan blant unrhyw hawliau yn y sefyllfa hon a beth yw hawl eu rhieni i barhau i fyw yn yr un wlad â hwy? | 4,338 |
Diolch am y cwestiwn. Mae annibyniaeth y farnwriaeth yn ganolog i reolaeth y gyfraith. Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod unrhyw her i uniondeb barnwriaeth tribiwnlysoedd Cymru yn gryf iawn. Mae eu penderfyniadau'n seiliedig ar y dystiolaeth ger eu bron ac yn annibynnol ar Weinidogion Cymru. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais ddoe. | 4,339 |
Rwy'n credu ei fod yn ddatganiad pwysig ac mae'n bwynt pwysig ac mae'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei gyflawni. A gaf fi ddweud, yn gyntaf oll heddiw, fy mod wedi dysgu y bore yma fod yr Arglwydd Brif Ustus, wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Cyfansoddiadol Tŷ'r Arglwyddi, wedi cyfeirio'n benodol at y datganiad hwnnw ac at ddwy ran benodol ohono? Nid wyf am ailadrodd y ddwy ran o'r datganiad, ond darllenodd ran eithaf manwl ohono ac aeth yn ei flaen i ddweud y bydd yn brawf cynyddol o aeddfedrwydd y Cynulliad hwn fel deddfwrfa a Senedd ei fod yn cydnabod ac yn deall pwysigrwydd annibyniaeth ei sefydliadau barnwrol a'r egwyddorion y cafodd ei sefydlu arnynt ac y mae'n gweithredu ar eu sail, ac mae hi yr un mor bwysig fod ein sefydliadau barnwrol yn gwybod eu bod yn ennyn hyder y ddeddfwrfa a phobl Cymru, a'u bod yn cael eu hamddiffyn rhag ymyrraeth wleidyddol a beirniadaeth ac ymosodiadau di-alw-amdanynt a di-sail wrth arfer eu dyletswyddau cyhoeddus. Mewn gwirionedd, aeth ymlaen i ddweud: 'Mae'n ymddangos ei fod yn ddatganiad eithaf clir, mewn gwirionedd, o ddyletswydd yr Arglwydd Ganghellor'. Ac aeth ymlaen i ddweud: 'Rwy'n gresynu bod yn rhaid i mi ei beirniadu mor hallt ag y gwneuthum, ond yn fy marn i, mae hi'n gyfan gwbl anghywir. Rwy'n siomedig a gallaf ddeall y pwysau a oedd yno ym mis Tachwedd, ond mae hi wedi arddel safbwynt hollol anghywir yn gyfansoddiadol.' Credaf fod hynny'n cefnogi'r safbwynt rydym wedi'i ddatgan mewn perthynas â fy rôl fel swyddog y gyfraith a safbwynt y Cynulliad hwn. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw bod Aelodau unigol y Cynulliad hwn ac arweinyddion y pleidiau gwleidyddol bob amser yn sefyll dros yr egwyddorion sylfaenol hynny am eu bod yn sylfaen i'n sefydliadau, ac os ydym yn dymuno cael ein cymryd o ddifrif, fel awdurdodaeth ac fel Senedd, yna mae'n rhaid i ni sicrhau bod pawb yn cynnal yr egwyddorion hynny. | 4,340 |
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Rwyf wedi cael trafodaethau uniongyrchol â Gweinidog carchardai'r DU ynglŷn â'r safle arfaethedig ar gyfer datblygu carchar newydd ym Mhort Talbot. Mae gan y cynnig hwn botensial i gynnig cyfleuster modern, addas i'r diben i dde Cymru, sy'n canolbwyntio ar adsefydlu, a gwneud ein cymunedau'n fwy diogel. | 4,341 |
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn a'i ddiddordeb yn hynny, wrth gynrychioli ei etholwyr. Wrth gwrs, mae llawer o'r cwestiynau y mae wedi'u gofyn, yn gywir, yn galw am atebion gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ond mae'n ddyddiau cynnar iawn. Roedd y datganiad a gyhoeddwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ymwneud â'r awgrym i ystyried adeiladu carchar yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac mae'r cwestiynau sylfaenol hynny ynglŷn â'r canlyniadau anuniongyrchol y mae'r Aelod yn eu crybwyll yn bethau a fydd yn digwydd drwy ymgynghori yn ogystal â'r prosesau cynllunio priodol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Bydd fy nhîm yn ymgysylltu â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynglŷn â'r materion hyn ac wrth gwrs, bûm yn ymweld â Charchar Berwyn yn Wrecsam. Rwy'n credu bod nerfusrwydd sefydliadau newydd fel hwn yn un sy'n ysgogi cymunedau, ond gallaf sicrhau'r Aelod, a byddwn yn ei annog i fynd i gael golwg ar Garchar Berwyn er mwyn tawelu rhai o'i ofnau. Ond mae rhai o'r cwestiynau y mae'n eu gofyn i mi heddiw yn gywir ac yn briodol, ac mae'n haeddu atebion iddynt. | 4,342 |
Nid ydym yn gwybod llawer o'r manylion hyd yn hyn. Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â chynghorwyr o fy mhlaid yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ac maent wedi dweud wrthyf mai cyfrifoldeb y cynghorau a/neu Lywodraeth Cymru yw cyflwyno meini prawf i alw ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder i wneud cais am y swyddi hynny. Felly, rwy'n awyddus i ddeall a yw Cyngor Castell-nedd Port Talbot neu chi fel Llywodraeth Cymru wedi rhoi meini prawf iddynt yn dweud bod y tir ym Maglan yn iawn iddynt ei ddefnyddio, a'ch bod wedi rhoi'r lefel honno o ganiatâd iddynt, fel petai, fel eich bod wedi nodi bod yna ffordd ymlaen ar gyfer Castell-nedd Port Talbot. Rwyf wedi clywed mai proses wirfoddol oedd hi ac nad oedd angen i'r cyngor na Llywodraeth Cymru gyflwyno cais yn hynny o beth. A fydd y carchar hwn yn hwyluso cau carchardai Abertawe a Chaerdydd? Hyd yn oed os yw hyn yn wir, pam carchar mawr? Mae ffigurau gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, fel y clywsom, yn dangos, os adeiladir y carchar hwn, y byddai'n creu 2,400 o leoedd dros ben yng Nghymru a 600 pe bai Caerdydd yn cau. A yw Llywodraeth y DU yn troi Cymru yn wladfa gosbi tra'u bod yn anfon ein carcharorion ein hunain, gan gynnwys menywod, i fannau eraill? Beth rydych yn ei wneud mewn trafodaethau â Llywodraeth y DU i ddod â'r 50 y cant a mwy o ddynion sy'n garcharorion o Gymru nad ydynt wedi'u lleoli yma yng Nghymru ar hyn o bryd, yn ôl yma, er mwyn i'w teuluoedd allu eu cefnogi yma yn y wlad hon? Fy mhwynt olaf yw fy mod yn credu bod y gymuned, hyd yn hyn, wedi cael ei hamharchu gan Lywodraeth y DU. Mae gennym ysgol fawr newydd ym Maglan, ysgol Gymraeg newydd ar fin cael ei hadeiladu yno, mae llawer o broblemau traffig yn yr ardal honno, ac mae angen i bobl leol fod yn rhan o'r sgwrs hon, yn hytrach na chael gwybod beth sy'n dod i'w cymuned gan Lywodraeth y DU. | 4,343 |
Rwy'n rhannu rhai o bryderon Bethan Jenkins y gallem fod yn symud tuag at sefyllfa debyg i'r Unol Daleithiau lle y maent, mewn gwirionedd, yn gwario mwy o arian ar garcharu pobl nag y maent yn ei wneud ar eu system addysg, ac am feirniadaeth yw honno o'r gymdeithas. Ond rwy'n deall yn llwyr yr hyn roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddweud am yr angen i gartrefu pobl mewn amodau sy'n cefnogi eu hadsefydliad, yn hytrach nag mewn amodau Fictoraidd nad ydynt yn gwneud hynny. Ond fel rhan o'r cyhoeddiad hwn ddoe, datgelwyd bod Llywodraeth y DU yn adolygu rhai carchardai gyda golwg, rwy'n credu, ar eu gwerthu, ac mae hynny'n cynnwys carchar Caerdydd. Nawr, mae dau beth yn peri pryder i mi. Un yw ei bod yn bwysig iawn fod pobl, fel rhan o'u hadsefydliad, yn gallu cadw mewn cysylltiad â'u teuluoedd. Cafwyd prawf cadarn fod hynny'n wir. Y llall yw effeithlonrwydd y gwasanaeth carchardai. Mae angen iddo gynnwys agosrwydd y carchardai at y gwasanaeth llys, a dyna, yn amlwg, sy'n cael ei ddarparu yng Nghaerdydd ar hyn o bryd. Felly rwy'n gobeithio y bydd hynny'n cael ei ystyried yn y trafodaethau y byddwch yn eu cael gyda Llywodraeth y DU ar ein hymagwedd tuag at garchardai yn gyffredinol. Yn bersonol, rwy'n gwrthwynebu sefydlu carchar i fenywod yng Nghymru, oherwydd mae hynny'n gwbl groes i argymhellion adroddiad 2007 ar y ffordd yr ydym yn ymdrin â menywod sy'n troseddu, gan fod yr effeithiau ar eu teuluoedd yn gwbl ddinistriol. Ceir achosion prin iawn o fenywod y mae angen iddynt fod mewn carchar, ond eithriadau ydynt yn bendant. | 4,344 |
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n croesawu'r newyddion fod de Cymru yn mynd i gael carchar newydd o bosibl. Fel rhywun sydd wedi gweithio yn y gwasanaeth carchardai ers blynyddoedd lawer, rwy'n gwybod yn iawn am y problemau gyda gorlenwi, sy'n creu amgylchedd anniogel ar gyfer carcharorion a staff. Bydd cael carchardai ychwanegol yn ne Cymru yn caniatáu i fwy o garcharorion gael eu cadw yn nes at eu cartrefi. Mae hyn yn fanteisiol iawn o ran ymdrechion i adsefydlu. Fel y mae, caiff carcharor ei gadw lle bynnag y mae lle ar gael, boed hynny'n mewn carchar yng Nghymru, mewn carchar yn Lloegr neu fel arall. Ar wahân i'r manteision amlwg i boblogaeth a staff carchardai, bydd y gwaith adeiladu a gweithgarwch y carchar ei hun yn sicrhau manteision mawr i fy rhanbarth. Bydd cartrefu 1,600 o garcharorion yn dod â swyddi y mae eu hangen yn fawr ar yr economi leol. Nid swyddogion carchar yn unig sy'n gweithio mewn carchar; maent yn cyflogi gweithwyr iechyd, gweithwyr cymdeithasol, staff addysg, staff cynnal a chadw, a llu o staff ategol. A gaf fi ddweud, gan fy mod wedi gweithio mewn carchar, nad oedd y carcharorion yn cael eu cadw dan glo am 23 awr y dydd lle roeddwn yn gweithio? Roeddent allan am 10 i 14 awr er mwyn adsefydlu. Iawn? Rydym hefyd yn croesawu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn a fydd yn gwario eu harian yn yr economi leol. Fodd bynnag, rhaid i ni gael cefnogaeth ein cymuned hefyd. Ysgrifennydd y Cabinet, pa rôl y bydd Llywodraeth Cymru yn ei chwarae i fynd i'r afael â phryderon trigolion lleol a hybu manteision carchar newydd, gyda'r pwyslais ar adsefydlu? | 4,345 |
Wel, diolch i Dr Lloyd am ei gwestiynau - ac roedd yn frwd iawn hefyd. Rwy'n credu - un neu ddau o bwyntiau, os awn ati i'w dadansoddi. Mae'n dechrau cyflwyno'r ddadl ei fod yn gwrthwynebu hyn ar sail gyfansoddiadol. Rwy'n credu bod hynny'n anffodus, oherwydd, mewn gwirionedd, mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod gan ein carcharorion, ein Cymry sy'n byw yng Nghymru, gyfleuster a all eu helpu gyda - [Torri ar draws.] Os yw'r Aelod eisiau cwestiwn, mater yw hwnnw i'r Llywydd. Ond mae'r mater, os caf, yn deillio o - . Y ddadl y mae'n ei chyflwyno yw bod hyn yn rhywbeth newydd. Nid yw'r mater ynglŷn ag iechyd a gofal cymdeithasol ac elfennau eraill a ddarparwn yn ein gwasanaethau i atal aildroseddu yn newydd i Gymru. Rydym yn darparu hynny yng Nghaerdydd, rydym yn darparu hynny ym Mhen-y-bont ar Ogwr, rydym yn darparu hynny yn Abertawe yn barod. Felly, nid yw'n anathema newydd; mae hyn yn ymwneud â rhywbeth yr ydym yn brofiadol yn ei gylch ac mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn talu am y prosesau hynny hefyd. Ond mae'n rhywbeth sy'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod wedi ei ystyried yn llawn, a chael yr arian sy'n dilyn y gweithdrefnau hynny wrth law. Rwyf hefyd yn derbyn bod yr Aelod yn siarad, ar sail wleidyddol, am gael carchar mewn rhyw ardal benodol. Yn gyffredinol, pan fyddwch yn gwneud cais am garchar ym mha ardal bynnag, nid ydynt yn boblogaidd, ond mae'r Aelod yn dymuno neu'n ceisio manteisio ar hynny ar sail wleidyddol - rwy'n credu bod hynny'n eithaf anffodus. Gadewch i mi ddweud wrth yr Aelod am y broses y dechreuodd â hi, am y ffordd y gwnaeth hyn i gyd ddechrau - [Torri ar draws.] Lywydd, rwy'n fwy na hapus i gael rhagor o gwestiynau, ond - | 4,346 |
Diolch, Lywydd. Fel rhywun sydd, fel fi, wedi ymweld â charchardai dros y blynyddoedd, a wnewch chi gadarnhau, er ein bod i gyd yn dymuno gweld carcharorion o Gymru yn cael eu lleoli mor agos i'w cartrefi â phosibl, fod categoreiddio carcharorion weithiau'n ei gwneud yn amhosibl? Yn ail, fel gyda Charchar Berwyn, a allwch gadarnhau pa un a fydd y carchar newydd arfaethedig ym Mhort Talbot wedi'i ffurfio o unedau llai ar wahân fel nad yw pobl yn y gymuned yn byw yn amgylchedd carchar mawr, ond mewn amgylchedd llai o faint, sy'n debycach i dŷ neu goleg mawr? O ran adsefydlu, a wnewch chi gadarnhau eich bod wedi gofyn am sicrwydd, neu wedi cael sicrwydd y bydd y rhaglenni adsefydlu sy'n darparu arweiniad i Garchar Berwyn yn cael eu datblygu ym Mhort Talbot a sut y mae eich profiad o ddatblygu gwasanaethau datganoledig ochr yn ochr â gwasanaethau sydd heb eu datganoli yng Ngharchar Berwyn yn llywio eich ffordd ymlaen yma? A wnewch chi gadarnhau, mewn gwirionedd, y bydd yna swyddi lleol? Yn ddiweddar, cyfarfûm â gŵr un o ffrindiau fy merch sydd newydd gwblhau ei hyfforddiant i weithio yng Ngharchar Berwyn, dyn sy'n byw yn ardal Wrecsam. Ac yn olaf, sut y byddwch yn ymgorffori'r Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai a phrosiect Ymweld â Mam Sova i famau yn y carchar yn rhaglenni Teuluoedd yn Gyntaf yng Nghymru? | 4,347 |
Felly, awn at eitem 4, sef dadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21 ar yr economi las, a galwaf ar Jeremy Miles i gynnig y cynnig. | 4,348 |
A fyddech yn cydnabod bod y diwydiant pysgod cregyn hefyd yn rhan bwysig iawn o'n diwydiant pysgota; fod oddeutu 97 y cant o bysgod cregyn o'r Fenai yn cael eu hallforio i'r Undeb Ewropeaidd a'u bod yn ofnus iawn ynglŷn ag effeithiau posibl tariffau Sefydliad Masnach y Byd o 40 y cant, o bosibl, ar eu hallforion? | 4,349 |
Diolch. Diolch i Vikki am ildio, a llongyfarchiadau iddi hi a chydweithwyr eraill, a Jeremy, am gyflwyno hyn. Oherwydd potensial, union botensial y sector ynni adnewyddadwy, boed yn fôr-lynnoedd llanw, boed yn ynni adnewyddadwy arall ar wely'r môr ac yn y blaen, ond hefyd treillio, gosod pibellau ac ati, ar y cyd â bwrw ymlaen â photensial yr economi las, a fyddai'n cytuno bod angen hefyd inni ddeall capasiti cludo gwahanol rannau o'n moroedd, a hefyd mae angen cadarnhau cynlluniau gofodol morol yn awr, fel na fydd gennym ddatblygiad tameidiog, fod gennym ddatblygiad a gynlluniwyd, gan wybod beth yw capasiti gwely'r môr, a'r môr mawr draw mewn gwirionedd? | 4,350 |
Rwy'n croesawu'n fawr y ddadl hon, un a fyddai wedi bod yn hollol ddibwynt oni bai am y bleidlais dros 'adael' ar 23 Mehefin y llynedd. Rwy'n cefnogi'r cynnig yn fras. Fodd bynnag, rwy'n pryderu nad yw'r cynnig ei hun yn argymell unrhyw syniadau ynglŷn â sut y gall Cymru fanteisio ar ei harfordir a'i moroedd. Nid yw'n syndod mewn gwirionedd fod llawer yn y Siambr hon ychydig ar goll ynglŷn â'r pwnc hwn, gan fod y rhan fwyaf o'r bobl yma yn hapus i weld ein pysgota wedi'i reoli'n gyfan gwbl gan weision sifil yr UE gannoedd o filltiroedd i ffwrdd ym Mrwsel. Bydd y rhan fwyaf yn y Siambr hon yn hapus i weld yr UE yn parhau i reoli pysgota yng Nghymru, ac ar sail bron yn ddyddiol, yn dweud cymaint y maent yn gresynu at ganlyniad refferendwm yr UE. Fe wnaeth rheolau pysgota'r UE, gan gynnwys rhannu ein dyfroedd gyda bron unrhyw un a oedd eisiau eu pysgota, ddinistrio cymunedau pysgota yn ein heconomi arfordirol. A thra oedd y Blaid Lafur yn torri eu calonnau ynglŷn â chau pyllau, roedd yr UE yn brysur yn dinistrio ein heconomi bysgota a fu unwaith yn ffyniannus. Yn rhyfedd ddigon, clywais lawer o gasineb tuag at y rhai a gaeodd y pyllau glo - | 4,351 |
Diolch. Rwy'n siarad fel cyn Weinidog pysgodfeydd, ac rwy'n rhannu rhai o'r rhwystredigaethau. Ond a gaf fi nodi wrthi ein bod, cyn 2010, wedi dechrau symud tuag at reolaeth ranbarthol ar y moroedd, er enghraifft ym môr y Gogledd, ac mae niferoedd penfras yno, ar ôl defnyddio'r wyddoniaeth, bellach yn dechrau gwella mewn gwirionedd? Ond a gaf fi ei hannog i ochel rhag awgrymu y dylem fynd yn ôl at ddyddiau diplomyddiaeth llong ryfel ym môr y Gogledd - | 4,352 |
Felly, fy nghwestiwn yw: a wnaiff hi ddweud, beth bynnag am adael yr UE, mewn gwirionedd mae angen i ni weithio gyda chenhedloedd eraill, doed a ddel, er mwyn osgoi diplomyddiaeth llong ryfel o'r fath? | 4,353 |
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ildio. Wrth drafod cynlluniau morol, ac rwy'n ymwybodol fod gennym amser oherwydd gallaf weld rhai cyd-Aelodau'n cwyno am y ffordd yr ydym yn ei wneud. A gaf fi ofyn iddo - ? Wrth gyflwyno'r cynlluniau morol hynny, mae ei wneud ar sail Cymru gyfan yn eithaf uchelgeisiol a tybed, wrth ymgynghori arno, oni ddylai ef ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd edrych ar y mannau hynny lle y mae'r gwrthdaro mwyaf o bosibl, a lle y mae angen gwneud y gwaith mwyaf - yr mannau lle y mae treillio, ynni, ac ati, ac ati, yn fwyaf dwys a lle y ceir y potensial mwyaf, ond hefyd lle y gallai eu datrys drwy gynlluniau morol roi'r bodlonrwydd mwyaf ar gam cynnar. | 4,354 |
Fe gymeraf bwyntiau'r Aelodau'n fyr iawn. Rwy'n meddwl bod Rhun ap Iorwerth wedi gwneud nifer o gyfraniadau gwerthfawr ynglŷn ag adroddiad Hendry a nododd, wrth gwrs, mai prif rôl Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant fydd cefnogi'r gadwyn gyflenwi. Hefyd, pwynt Vikki Howells fod gan Lywodraeth Cymru rôl sylweddol iawn i'w chwarae yn sicrhau bod gan bobl Cymru sgiliau i fanteisio i'r eithaf ar y sector hwn sy'n tyfu o economi Cymru. Yn fwy cyffredinol, wrth ddatblygu ein strategaethau trawsbynciol, byddwn yn ystyried sut y gallwn gefnogi'r defnydd cynaliadwy o'n hadnoddau naturiol yn well, fel eu bod yn darparu manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i'n pobl a'n cymunedau. Lywydd, i gloi, ni allwn fod yn gliriach ein cefnogaeth i'r economi las a gallaf eich sicrhau y bydd y gefnogaeth yn parhau. | 4,355 |
Diolch yn fawr iawn, Angela. Rwy'n credu y dylem ddysgu ychydig o wersi gan Ogledd Iwerddon - ac Iwerddon. Rhoddwyd y 200 milltir o dir dan y môr, mewn gwirionedd, gan y Cenhedloedd Unedig i'r genedl Wyddelig i archwilio budd dŵr y môr. Mae llawer o drysor yno i ni ei archwilio hefyd. Diolch. | 4,356 |
Yr eitem nesaf ar ein agenda ni yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y goblygiadau i Gymru o adael yr Undeb Ewropeaidd. Galwaf ar David Rees i wneud y cynnig. | 4,357 |