text
stringlengths
76
2.23k
__index_level_0__
int64
0
4.36k
Diolch. Yn amlwg, byddai'r cyfle i gael trafodaeth bellach yn cael ei groesawu os bydd hyn yn mynd drwodd. Yn anffodus, unwaith eto, ni fydd hynny'n cynrychioli ymrwymiad. Rwy'n gobeithio y gwnewch gadarnhau, os bydd y dadleuon y byddwch yn eu clywed - rhai ohonynt yr wyf fi wedi eu cyflwyno heddiw - yn argyhoeddiadol, y gallai hynny mewn gwirionedd arwain at Lywodraeth Cymru yn ailedrych ar hyn wedyn gyda'r bwriad o wneud rheoliadau ychwanegol neu ddiwygiadau ychwanegol i'r rheoliadau yn unol â hynny. Dywedaf wrth Blaid Cymru fy mod yn cefnogi'r amcan y tu ôl i fathodynnau glas dros dro. Mae hyn er mwyn helpu a manteisio i'r eithaf ar y cymorth sydd ar gael i bobl anabl - wedi'u gwneud yn anabl gan y rhwystrau y mae cymdeithas yn eu gosod arnynt. Pe byddech wedi sefyll gyda mi, efallai y gallem fod wedi perswadio Llywodraeth Cymru heddiw i gytuno i gyflwyno ystyriaeth o fesurau mwy hyblyg wedi hynny, ac wedyn gallwn fod wedi tynnu'r cynnig yn ôl gan wybod eu bod wedi gwneud yr ymrwymiad hwnnw. Ond, oherwydd eich bod wedi rhoi eich sêl bendith iddynt, nid oes gennym yr ymrwymiad hwnnw. Y cyfan sydd gennym nawr yw datganiad gyda chanlyniad heb fod ymrwymiad iddo. Felly, rwyf yn gresynu nad ydych wedi defnyddio efallai y crebwyll gwleidyddol hwnnw i fwrw ymlaen â hynny ar y sail honno, ond dyna ni. Efallai, dros amser, bydd pethau'n newid.
200
Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Mark Isherwood. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig, 16, yn ymatal, 0, ac yn erbyn y cynnig, 38. Mae'r cynnig, felly, wedi ei wrthod.
201
Gwnaf. Mae prosiectau seilwaith ynni mawr yn hynod fuddiol i economi Cymru. Ynni yw un o'n hanfodion economaidd pwysicaf. Mae gennym y potensial yng Nghymru i sicrhau buddsoddiad o £50 biliwn mewn cynhyrchu trydan carbon isel dros y 10 i 15 mlynedd nesaf.
202
Yn sicr, a diolch i'r Aelod am ei chwestiwn a'i diddordeb brwd yn y pwnc hwn. Gallai'r math o ddatblygiad rydym yn sôn amdano gynnig gyrfaoedd gydol oes i'r bobl ifanc sy'n ymuno â ni yn yr oriel heddiw, o etholaeth yr Aelod. Rydym yn cydnabod y cyfle y mae cynhyrchu ynni'r llanw yn ei roi i economi Cymru, ac rwy'n gobeithio cael cyfarfod cynnar gyda morlyn llanw bae Abertawe i drafod agweddau economaidd y prosiect. Nawr, gydag adolygiad annibynnol Llywodraeth y DU o'r morlyn llanw ar y gweill, mae fy swyddogion yn parhau i ymgysylltu'n rheolaidd â Tidal Lagoon Power a Llywodraeth y DU i sicrhau bod busnesau Cymru, a'r economi leol, yn benodol, yn cael y budd mwyaf o'r prosiect.
203
Ie, a diolch i'r Aelod am ei gwestiwn, a hefyd am y gefnogaeth i'r cynllun hwn ar draws y Siambr. Mae'r sector ynni a'r amgylchedd yng Nghymru yn hynod o bwysig i'n dyfodol. Ar hyn o bryd, mae'n cyflogi tua 58,000 o bobl ac yn darparu cyfleoedd i fwy na 2,000 o gwmnïau, gyda throsiant o fwy na £2.3 biliwn. Wrth i ni ddatblygu strategaeth economaidd newydd i Gymru, un yn seiliedig ar sylfaen ganolog o ffyniant a diogelwch, rwy'n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn gwneud yn siŵr fod diogelwch ynni yn greiddiol i'r strategaeth honno.
204
Yn sicr, a diolch i'r Aelod am ei gwestiwn, ac am nodi'n gywir fod gennym hanes balch o gefnogi cynlluniau arbed ynni domestig a busnesau yng Nghymru? Efallai fod gan yr Aelod ddiddordeb mewn gwybod bod gennym brosiectau arbed ynni ar raddfa fawr sy'n cydymffurfio â chymorth gwladwriaethol yn cael eu cynllunio a'u cymeradwyo gan Ewrop yn awr ac maent yn cynnig atebion arloesol a allai fod yn bwysig iawn i ddiwydiannau ynni-ddwys, fel dur. Ac wrth i mi ystyried fy ateb i David Melding, byddwn yn dweud hefyd, o ran arbed ynni domestig, byddai hynny hefyd yn ffurfio un o agweddau craidd y strategaeth economaidd newydd a diogelu ffynonellau ynni yn benodol.
205
Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n gobeithio y byddwch yn ymwybodol o fater hirsefydlog yn fy etholaeth ynghylch ffordd osgoi arfaethedig yn ardal Llanymynech a Phant, a bûm yn gohebu o'r blaen gyda'ch rhagflaenydd, Edwina Hart, ynglŷn â hyn. Cyfarfûm yn ddiweddar ag Andrew Jones, Gweinidog dros Drafnidiaeth Llywodraeth y DU, yn Llanymynech, gyda chynrychiolwyr ar ran y gymuned. Yn sicr, mynegodd barodrwydd i gyfarfod â chi i drafod y prosiect penodol hwn. A fyddech yn cytuno i gael y cyfarfod hwnnw, a hefyd a fyddech yn cytuno i ddarparu rhywfaint o wybodaeth am y cynnydd a wnaed ar y cynllun penodol?
206
Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn gwybod cystal â minnau, er mwyn i ogledd Cymru ffynnu yn economaidd, mae angen cysylltiadau trafnidiaeth cryf ac effeithiol ar draws y rhanbarth, ac ar draws y ffin gyda'n cymdogion agos yng ngogledd-orllewin Lloegr hefyd. Mae gwella cysylltiadau ffordd fel yr A55 a'r A494 yn hanfodol, ond mae angen cynllun trafnidiaeth ehangach arnom i gefnogi cydweithredu economaidd trawsffiniol hanfodol gyda gogledd-orllewin Lloegr. A wnewch chi, felly, roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â datblygiad metro gogledd-ddwyrain Cymru ochr yn ochr â hynny i hybu cydweithredu economaidd trawsffiniol?
207
Yn gyntaf oll, a gaf fi groesawu'r Aelod yn ôl i'r Siambr, a dweud bod trydaneiddio'r rheilffyrdd yn hanfodol bwysig i economi de Cymru, ac i economi Cymru gyfan yn wir, a byddaf yn falch o allu cyflwyno diweddariad ysgrifenedig i'r Aelodau ar y mater hwn?
208
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn, ac a gaf fi ddweud ein bod wedi datgan yn gyhoeddus iawn ein bod yn credu y dylai'r tollau fod yn nwylo Llywodraeth Cymru? Nawr, amcangyfrifir y byddai cael gwared ar y tollau yn hybu cynhyrchiant yng Nghymru rywle oddeutu £100 miliwn neu fwy bob blwyddyn, ac ni allaf weld unrhyw gyfiawnhad dros barhau i beri anfantais i fusnesau Cymru pan ddaw'r consesiwn i ben. Nawr, ein bwriad ni, pe baem yn gallu, yw gostwng lefelau'r tollau, gan leddfu'r baich ar yr economi, ond mae'r Aelod hefyd yn nodi'n gywir fod y tollau'n achosi tagfeydd. Felly, mae angen i ni sicrhau hefyd, os ydym yn cael gwared ar achos y tagfeydd, nad ydym yn ychwanegu at y baich a'r trafferthion a achosir yn nhwnelau Bryn-glas a'n bod yn sicrhau yn lle hynny, ein bod yn datrys problem yr M4 hefyd.
209
Diolch, Lywydd. Yn gyntaf oll, a gaf fi longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet yn ffurfiol ar ei benodiad a dymuno pob llwyddiant iddo mewn rôl sy'n hanfodol bwysig. Nawr, ni allwch reoli'r hyn na allwch ei fesur, yn ôl y dywediad. Pan ddaeth yn amlwg nad oedd Cymru yn mynd i gyrraedd y targed o gau'r bwlch, o gymharu â'r DU, ar gyfer gwerth ychwanegol gros, yn hytrach na newid y strategaeth, penderfynodd un o'i ragflaenwyr fel Gweinidog dros yr Economi newid y targed yn lle hynny. Nawr, yn y tymor diwethaf, disgrifiodd y Llywodraeth incwm gwario gros aelwydydd y pen yn ei hadroddiad blynyddol fel y mesur gorau o les economaidd. O ystyried y ffaith, yn y ffigurau diweddaraf, bod incwm gwario gros aelwydydd yng Nghymru, o'i gymharu â'r DU, wedi gostwng yn y ddwy flynedd ddiwethaf y ceir ffigurau ar eu cyfer - mae bellach i lawr i'w lefel isaf ers 2002 - a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn, yn ôl yr hyn sy'n ffon fesur llwyddiant i'w Lywodraeth ei hun, ei fod yn gwneud cam ag economi Cymru? Beth y bydd ef, fel yr Ysgrifennydd newydd dros yr Economi, yn penderfynu ei wneud - newid y strategaeth neu newid y targed unwaith eto?
210
Rwy'n synnu gweld Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfeirio at allforion fel symbol o lwyddiant Cymru. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae allforion o Gymru wedi gostwng dros £2.6 biliwn. Dyna ostyngiad o 20 y cant i gyd. Gadewch i ni roi hynny mewn cyd-destun. Mae'r gostyngiad hwnnw mewn allforion, yn gyfrannol, yr un faint ag y profodd y DU yn yr argyfwng economaidd rhwng 2008 a 2009. Mae'n cyfateb i'n gwarged presennol mewn masnach gyda'r UE. Nawr, rwy'n cytuno ag ef y byddai Prydain yn gadael Ewrop yn drychineb gwirioneddol i allforion o Gymru, ond beth am y trychineb a ddigwyddodd o dan oruchwyliaeth y Llywodraeth hon? A yw'n mynd i gynnal ymchwiliad brys i'r achosion dros y cwymp yn allforion Cymru, ac a fydd hefyd yn edrych, Lywydd, ar y colledion i economi Cymru o ganlyniad i fewnforion? A all yr Ysgrifennydd gadarnhau fod dur arbenigol o'r Almaen a Sbaen yn cael ei ddefnyddio yn y prosiect ffordd ddosbarthu ddwyreiniol, a ariennir gan ei adran - ffordd sydd lathenni yn unig o'r adeilad hwn, ffordd y lleolwyd gwaith dur Cymru arni, yn eironig? Os mai ei ateb yw na all cwmnïau o Gymru gynhyrchu'r cynhyrchion arbenigol hyn ar hyn o bryd, onid yw hynny'n dangos yr angen am dîm o arbenigwyr, yn gweithio gyda busnesau yng Nghymru, i nodi cyfleoedd caffael sydd ar y gweill, fel y tîm a oedd gennym tan i'w Lywodraeth eu cyfnewid ym mis Ionawr eleni am gwpl o staff rhan-amser, ychydig o seminarau a rhif ffôn.
211
Wel, rwy'n meddwl mai'r cwestiwn ar feddyliau'r mwyafrif ohonom yw: beth fyddai newid Llywodraeth Cymru yn ei wneud i economi Cymru? Go brin y gallent wneud yn waeth na'r weinyddiaeth bresennol. [Torri ar draws.] Edrychwch, er mwyn - [Torri ar draws.]
212
Plaid Cymru sydd am fynd yn ôl i'r 1980au i greu Awdurdod Datblygu Cymru a dychwelyd i nefoedd y cwangos: na, mae'n well gennym ni atebolrwydd yn Llywodraeth Cymru. O ran allforion, un ffactor arall sy'n werth ei chofio yw ein bod wedi gweld rhai categorïau yn esgyn i'r entrychion yn ddiweddar - gwelsom gynnydd o 30 y cant mewn allforion peiriannau wedi'u harbenigo ar gyfer diwydiannau penodol, gwelsom gynnydd o 21 y cant mewn cerbydau ffordd, gwelsom gynnydd o 46 y cant mewn allforion i Qatar. Dyna pam - [Torri ar draws.] Efallai y byddant yn ei ddeall. Dyna pam y mae pobl - [Torri ar draws.] Gadewch i ni obeithio eu bod yn deall hyn: mae prisiau nwyddau wedi gostwng. Mae gwerth cynhyrchion petrolewm hefyd wedi achosi i allforion yn y DU, ac allforion mewn llefydd eraill hefyd, i ostwng yn eu gwerth. Dyna'r gwir amdani. Dyna'r realiti o amgylch y byd. Ni fydd sefydlu cwango arall yn datrys problem prisiau nwyddau neu brisiau petrolewm.
213
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn a'i longyfarch ar ei benodiad hefyd? Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag ef yn y blynyddoedd i ddod er mwyn sicrhau bod gennym economi gryfach, fwy diogel yng Nghymru. Mae'r sector modurol yn sector hollbwysig ledled Cymru. Yn benodol, o ran twristiaeth, mae'n cyfrannu'n aruthrol at lwyddiant ein portffolio digwyddiadau mawr, sydd, yn ei dro, yn denu 800,000 o bobl i Gymru bob blwyddyn ac yn cynhyrchu tua £125 miliwn o ran ei effaith economaidd.
214
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn atodol a dweud bod hyn yn rhan o drafodaeth sy'n digwydd - o ran y trafodaethau masnachol sy'n digwydd - yn y fath fodd fel na allaf roi sylwadau ar y manylion. Fodd bynnag, rwyf bellach wedi cael cyfarfod â'm cyd-Aelod, Lesley Griffiths, i drafod hyn, ac o ganlyniad i hynny, rwy'n falch o ddweud bod Cyfoeth Naturiol Cymru a Motor Sports Association yn dal i drafod ffïoedd er mwyn galluogi ralïo i barhau ar ystadau coedwigaeth Cymru, ac rwy'n hyderus erbyn hyn, yn sgil y trafodaethau rydym wedi'u cael, y gellir cyrraedd cyfaddawd derbyniol i'r ddwy ochr. Nid oes amheuaeth fod ralïo yng nghoedwigoedd Cymru yn eiconig, ac mae Rali Cymru GB, yn arbennig, yn rhan o'n proffil rhyngwladol. Rydym am iddo lwyddo a pharhau.
215
Iawn, fe ymrwymaf i wneud hynny. Mewn gwirionedd, mae awdurdod y parc cenedlaethol ar fy mhwyllgor llywio ar gyfer y Flwyddyn Antur, felly byddaf yn gallu ei drafod gyda phobl wyneb yn wyneb hefyd, a hoffwn ymrwymo hefyd i ddarparu datganiad ynglŷn â Rali Cymru GB a dyfodol chwaraeon modur yng Nghymru.
216
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau caredig am fy mhenodiad a dymuno'n dda iddo hefyd yn ei rôl yn y Cynulliad? Ni ellir gwarantu y byddai'r arian hwnnw'n dod i Gymru. Rwy'n ofni y bydd yn cael ei hel i lefydd fel Wiltshire yn hytrach na'n dod yma i Gymru. Rwy'n meddwl y byddai'n debygol o fynd i'r Cotswolds yn hytrach na Chymru. Nid oes unrhyw sicrwydd y byddai Cymru yn elwa o arian yr UE a ddychwelir yn ôl i'r DU. A ydym o ddifrif eisiau peryglu, yn awr, yr wythnos nesaf, y cynnydd rydym wedi'i wneud ar ddur, sy'n sefyllfa hynod o sensitif? Byddem yn gwthio'r argyfwng hwnnw hyd yn oed yn ddyfnach i mewn i'r gors pe baem yn pleidleisio dros adael yr UE. Byddem yn colli 18,000 o swyddi, a fyddai'n sicr mewn perygl, pe baem yn pleidleisio dros adael yr UE. Byddem yn peryglu 52,000 o brentisiaethau y mae pobl yn mynd i fod yn ceisio'u llenwi yn y pum mlynedd nesaf pe baem yn pleidleisio dros adael yr UE. Byddem hefyd yn peryglu ReAct, sydd wedi darparu cyfleoedd. Mae wedi rhoi gobaith i 19,000 o bobl sydd wedi wynebu cael eu diswyddo. Dyna pam y mae Ewrop yn bodoli: er mwyn rhoi gobaith i bobl sydd ei angen. A ydym o ddifrif eisiau pleidleisio dros adael Ewrop a pheryglu'r math hwn o gyfle i filiynau o bobl ym Mhrydain?
217
Mae'r Aelod yn honni nad yw Ewrop wedi cynnig gobaith - yr hyn y mae Ewrop wedi'i gynnig yw'r cyfnod hiraf o heddwch parhaus yn hanes y cyfandir. Mae wedi cynnig gobaith ac mae wedi sicrhau heddwch a ffyniant ledled y cyfandir. Byddai pleidleisio dros adael Ewrop yr wythnos nesaf yn sicr yn peryglu'r diwydiant dur yng Nghymru a'r DU. Efallai na fydd yr Aelod yn dymuno fy nghredu, ond dylai gredu Tata eu hunain sy'n dweud, ac rwy'n dyfynnu'n uniongyrchol: 'Yr UE yw ein marchnad allforio fwyaf o bell ffordd, gyda thros draean o'n dur yn y DU yn mynd yno, ac nid yw hynny'n cynnwys y dur sy'n mynd drwy ein cwsmeriaid, felly mae mynediad i'r farchnad honno'n hanfodol i'n busnes'. Pe bai'r DU yn gadael yr UE a'n bod yn gosod rheolau i ni ein hunain, mae'n debygol y byddai'n dal i fod angen i ni gadw at reolau'r UE i fynd i mewn i'r farchnad honno. Y gwahaniaeth: ni fyddai gennym lais mwyach yn y modd y cânt eu llunio neu eu cymhwyso. Mae'r UE yn ffynhonnell o arian ar gyfer y sector busnes yn y DU, cyllid ar gyfer gwelliannau amgylcheddol, datblygu seilwaith, ac ymchwil a datblygu. A fyddai'r Aelod heddiw yn dymuno dweud wrth weithwyr dur y byddai'n dymuno peryglu eu swyddi a'u dyfodol i bleidleisio dros adael Ewrop yr wythnos nesaf?
218
Gadewch i ni feddwl am ein sefyllfa ar hyn o bryd. Heb amheuaeth, yn fy marn i, ceir momentwm newydd yn economi Cymru. Rwyf eisoes wedi crybwyll ffigurau twristiaeth - maent ar gynnydd, mae cyflogaeth ar gynnydd, mae Buddsoddi Uniongyrchol o Dramor ar gynnydd, mae allforion ar gynnydd, mae cyfraddau busnesau newydd ar gynnydd, mae niferoedd teithwyr maes awyr ar gynnydd. Cyfraddau cwblhau prentisiaethau - mae'r rheini ar gynnydd hefyd. Yr unig beth y gallem ei sicrhau pe baem yn gadael Ewrop yr wythnos nesaf yw y byddai pob un o'r ystadegau hyn yn gostwng. Byddwn yn annog pobl Cymru a phobl Prydain i bleidleisio dros aros.
219
Diolch yn fawr iawn. Hoffwn i dynnu eich sylw chi at gynllun i adeiladu ffordd osgoi 9 km o hyd yn fy ardal i, yn Arfon, yn ardal Caernarfon a Bontnewydd, cynllun a gafodd ei sicrhau gan fy rhagflaenydd i, Alun Ffred Jones, yn y Cynulliad diwethaf, a fydd yn hwb sylweddol i'n hardal ni. Hoffwn i wybod gennych chi a ydych chi'n ymwybodol o'r oedi sylweddol sydd yn digwydd i'r prosiect yma. Nid oes yna gyhoeddiad wedi'i wneud. Mi oedd y gorchmynion i fod i gael eu cyhoeddi ddechrau'r flwyddyn. Nid ydyn nhw wedi cael eu cyhoeddi, ac mae'n debyg rŵan na fydd y cynllun yma yn mynd yn ei flaen am o leiaf 12 mis arall. A ydych chi'n ymwybodol mai'r broblem sydd wedi codi fan hyn ydy anghytuno rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru ar yr un llaw a pheirianwyr y cynllun ar y llaw arall? Rwy'n deall mai'r broblem ydy methu cytuno ar beth i wneud ynglŷn ag ystlumod. A ydych chi yn siomedig, fel rydw i, bod yr oedi yma yn digwydd? A fedrwch chi fy sicrhau y byddwch chi a'ch Llywodraeth yn gwneud bob dim posib i gael gwared ar yr anghytundeb yma fel y gwelwn ni y cynllun yma yn mynd yn ei flaen cyn gynted â phosib, os gwelwch yn dda?
220
Yn wir, mae tair blynedd ers i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn y Llywodraeth flaenorol gyhoeddi ei llwybr diwygiedig a ffefrir, gan barhau i ymchwilio i asesiad effaith ar fusnes, er gwaethaf pryderon a fynegwyd gan fusnesau a chyflogwyr lleol y byddai'r llwybr diwygiedig a ffefrir a'i ragflaenydd yn niweidio busnesau a swyddi lleol, ac roedd yna lwybr arall na fyddai'n gwneud y naill na'r llall. Fis Gorffennaf diwethaf, dosbarthwyd hysbysiadau gan Lywodraeth Cymru i dirfeddianwyr ar lwybr a ffefrir Llywodraeth Cymru yn dweud y byddai arolygon amgylcheddol yn cael eu cynnal, a fis Medi diwethaf, dywedodd eich rhagflaenydd, mewn datganiad i'r Cynulliad hwn, fod gwaith ar ffordd osgoi'r A487 Caernarfon a Bontnewydd yn mynd rhagddo'n dda. Yn ogystal ag ystyried yr effaith amgylcheddol, mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru, fel rydych yn nodi, a wnewch chi unwaith eto roi sicrwydd i fusnesau lleol ar lwybr a ffefrir Llywodraeth Cymru y byddwch o'r diwedd yn ymgysylltu â hwy ac yn gwrando ar eu pryderon dilys sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn ystyried hynny wrth wneud eich penderfyniad terfynol?
221
Rydym wedi gwneud sefydliadau cynrychioli busnesau yn ymwybodol o'r dulliau amgen o ddatrys anghydfodau, yn ystod proses ymgynghori Llywodraeth y DU ac ers ei weithredu.
222
Byddwn. Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn ar fater pwysig iawn. Gall ffyrdd amgen o ddatrys anghydfodau gyflymu setliad, sy'n golygu llai o gostau, llai o amser a llai o straen nag a geid wrth fynd â materion i'r llys. Mae'n llwybr ychwanegol defnyddiol i ddefnyddwyr pan fo'n briodol. Mae'n bwysig i ddefnyddwyr gael hyder yn eu trafodiadau. Mae mwy o hyder defnyddwyr o fudd i bob busnes, a gyda mwy a mwy o fusnes yn cael ei wneud ar-lein, mae datrys anghydfodau ar-lein yn arbennig o bwysig i fusnesau sy'n masnachu ar-lein.
223
Byddwn yn hapus i adolygu effeithiolrwydd y cymorth a'r cyngor a ddarparwn ac i ysgrifennu at yr Aelod gyda chanlyniad yr adolygiad hwnnw.
224
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw. Ym Mhort Talbot, mae effaith penderfyniad Tata i werthu'r gwaith dur a hefyd i leihau'r gwaith sy'n cael ei roi ar gontractau allanol i fusnesau lleol yn creu heriau enfawr i gwmnïau lleol, sydd bellach yn wynebu cyfnod anodd i allu parhau i gynnal eu busnesau - fel Fairwood Fabrications, a welsom ar y rhaglen deledu gyda Michael Sheen, sydd eisoes wedi torri nifer eu staff yn ei hanner ac yn wynebu amseroedd heriol iawn i allu parhau i fodoli. Wrth iddynt geisio arallgyfeirio ac ennill contractau newydd mewn llefydd eraill, mae angen cymorth arnynt i allu sicrhau dyfodol eu gweithwyr. Nawr, gallai statws yr ardal fenter ddenu'r cyfleoedd hynny iddynt, ond nid yw hynny'n mynd i ddigwydd dros nos. Pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i'r cwmnïau hyn er mwyn iddynt allu goresgyn yr heriau sy'n eu hwynebu yn awr, fel y gallant fod mewn sefyllfa i elwa o'r ardal fenter pan ddaw'n weithredol?
225
Yn y Cynulliad diwethaf, fe wnes i godi'r pwynt gyda'r Gweinidog ynglŷn â thir sydd gyferbyn â Harbour Way a fydd, rwy'n siŵr, yn rhan o'r parth busnes newydd - bod yna dir yna a fydd yn gallu cael ei 'util-eiddio' ar gyfer busnesau newydd. A ydych chi wedi siarad gyda busnesau yn lleol i'w hennyn nhw i allu marchnata i gael y tir hwnnw am bris llai o fewn yr amgylchiadau newydd yma o barth menter ym Mhort Talbot, er mwyn inni hwyluso datblygiad yr ardal benodol honno?
226
A gaf fi eich llongyfarch hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet? Mae behemoth o wefan Llywodraeth Cymru yn gwahodd busnesau yn yr ardal fenter i wneud cais am gymorth ariannol tuag at gost ardrethi busnes, neu i wrthbwyso yn erbyn ardrethi busnes, ar gyfer 2016-17. Mae'r cynllun hwnnw wedi bod ar agor ers 4 Ebrill, sydd ychydig yn gynt na rhai o'r lleill a grybwyllwyd heddiw. Clywais eich ateb i David Rees, ond faint o fusnesau sydd wedi gwneud cais yn benodol am ryddhad ardrethi busnes, os caf ei alw'n hynny? O'r tua 200 o fusnesau rydych wedi cysylltu â hwy, mae'n ymddangos bod camau dilynol wedi'u rhoi ar y gweill gyda 44 ohonynt. Pa gamau dilynol a roesoch ar y gweill gyda'r rhai nad ydynt wedi ymateb i lythyru uniongyrchol, ac a fyddwch yn cynllunio i wneud hynny yn y dyfodol agos os nad ydych wedi'i wneud eto?
227
Mae cefnogaeth eang ar gael drwy ein gwasanaeth Busnes Cymru i fusnesau bach yn ardal Caerffili a ledled Cymru. Rydym yn parhau i ganolbwyntio'n llwyr ar gefnogi menter, swyddi a'r economi.
228
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, a chytuno hefyd fod Gareth Jones yn gapten gwych ar Ganolfan Arloesi Menter Cymru? Mae hefyd yn frodor o etholaeth De Clwyd. Mae rhwydweithio a rhannu gofod yn rhan allweddol o'r dull sy'n cael ei ddatblygu o dan y rhaglen cyflymu entrepreneuriaeth ranbarthol, a gadeirir gan Simon Gibson. Fel rhan o'r dystiolaeth sy'n cael ei hystyried, mae rhaglen gyflymu 12 wythnos o hyd i fusnesau cyn iddynt gychwyn yn cael ei darparu drwy raglen cyflymu twf Busnes Cymru, mewn partneriaeth â Chanolfan Arloesi Menter Cymru. Hoffwn longyfarch gwaith Canolfan Arloesi Menter Cymru, yn enwedig eu llwyddiant rhyfeddol hyd yn hyn, ac edrychaf ymlaen at gyflawni addewid maniffesto Llafur Cymru i greu canolfannau tebyg ledled Cymru er mwyn hybu arloesedd, creadigrwydd a menter.
229
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae'n hanfodol bwysig i economi Cymru ein bod yn creu 100,000 o brentisiaethau o safon. Amcangyfrifir y bydd pob prentisiaeth yn werth oddeutu £130,000 ar gyfartaledd dros yrfa gyfan, felly bydd yn creu buddiannau economaidd sylweddol i economi Cymru. Bydd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth yn gyfrifol am sicrhau bod 100,000 o brentisiaethau yn cael eu creu a'u llenwi. Mae gennym hanes balch iawn yng Nghymru o ran cyfraddau cwblhau: maent yn llawer uwch nag yn Lloegr, ac oddeutu 85 y cant yma yng Nghymru ar hyn o bryd o'i gymharu â'r ffigwr isel i ganolig o 70 y cant yn Lloegr. Felly, byddaf yn gweithio gyda'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth i sicrhau bod busnesau o bob maint, ym mhob rhan o Gymru, yn ymwybodol o'r cyfleoedd y mae'r system brentisiaethau yng Nghymru yn eu cynnig.
230
Diolch i'r Aelod am ei sylwadau caredig a'i gwestiwn. Wel, wrth gwrs, mae gwasanaeth £61 miliwn Busnes Cymru yn parhau i gynnig un man o'r fath i fusnesau bach droi ato. Lansiwyd cam diweddaraf Busnes Cymru ym mis Ionawr, gyda'r nod o greu 10,000 o fusnesau newydd a 28,300 o swyddi newydd a darparu cymorth i helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ifanc ac i helpu busnesau bach a chanolig sy'n bodoli eisoes i dyfu. Mae hynny'n rhywbeth y mae Busnes Cymru wedi bod yn anhygoel o lwyddiannus yn ei gyflawni hyd yma - fel y dangosir yn ein ffigurau cyflogaeth, ein ffigurau diweithdra a'n ffigurau ar gyfer busnesau bach newydd. Felly, mae gennym fesur o lwyddiant hyd yma yn hyn o beth, ond rwy'n awyddus i sicrhau bod Busnes Cymru yn parhau i ddarparu ar gyfer busnesau a phobl ein gwlad.
231
Diolch am yr ateb, Ysgrifennydd. Mae'n bosibl mai ardrethi busnes yw un o'r costau mwyaf i gwmni ar ôl cyflogau a rhent. Mae Consortiwm Manwerthu Cymru wedi rhybuddio y gallai manwerthwyr Cymru wynebu'r cynnydd serthaf mewn ardrethi busnes yn y Deyrnas Unedig o'r flwyddyn nesaf ymlaen, yn sgil ailbrisio eiddo. A yw'r Gweinidog yn cytuno ei bod hi'n bryd cael adolygiad radical o ardrethi busnes, er mwyn gwneud y system yn deg, yn effeithiol ac yn effeithlon, ac yn fwy cysylltiedig â gallu cwmni i dalu yng Nghymru?
232
Ar hyn o bryd rydym yn datblygu achos busnes ar gyfer trydydd croesiad dros y Fenai ac rwyf wedi gofyn i fy swyddogion gyflwyno argymhellion ar gyfer astudiaeth ar y llwybr a ffefrir.
233
Yn bendant. Mae'r Aelod yn graff ac yn gywir yn ei sylwadau a'i argymhellion. Cyfarfûm â'm swyddogion heddiw i drafod yr union fater hwn. Rydym yn croesawu'r newyddion diweddaraf ar y prosiect heddiw, a gyhoeddwyd gan y Grid Cenedlaethol. Mae wedi darparu mwy o fanylion ynglŷn â'r opsiynau tanddaearol ar gyfer croesi'r Fenai, ac mae swyddogion yn parhau i ymgysylltu â'r Grid Cenedlaethol er mwyn sicrhau bod unrhyw ateb yn addas i'r diben, nid yn unig ar gyfer creu cysylltiad ond er mwyn diogelu a bod yn ymwybodol o'r amgylchedd lle caiff ei roi. Felly, bydd dimensiwn y grid yn cael ei ystyried yn rhan o'r achos busnes.
234
Diolch i chi, Lywydd. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rôl y mae Llywodraeth Cymru yn ei gweld ar gyfer chwaraeon -
235
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynyddu cyfraddau cyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol drwy chwaraeon. Chwaraeon Cymru yw ein hasiant cyflenwi allweddol ac maent yn gweithio gydag ystod o bartneriaid a rhanddeiliaid i fwrw ymlaen â'n hagenda o wneud Cymru yn genedl fwy heini ac iach.
236
Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n sicr yn ymuno â chi i ganmol Clwb Pêl-droed Merthyr Tudful a chyngor Merthyr Tudful am weithio mewn partneriaeth i sicrhau dyfodol cynaliadwy i chwaraeon cymunedol yn yr ardal, ac rwy'n hynod o falch fod Llywodraeth Cymru wedi gallu chwarae ei rhan drwy ddarparu dros £2 filiwn o'r cyllid ar gyfer Parc Penydarren drwy ein rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Mae hynny'n dangos ein hymrwymiad i ddarparu cyfleuster hyblyg newydd ar gyfer hamdden yn ogystal ag addysg a hyfforddiant yn yr ardal. Hoffwn ychwanegu pa mor falch wyf fi fod UEFA wedi cyhoeddi mai Clwb Pêl-droed Merthyr Tudful oedd y clwb llawr gwlad gorau yn Ewrop y llynedd. Rwy'n credu bod hwnnw'n gyflawniad aruthrol.
237
Yn bendant. Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n falch fod gennym eisoes dros 3,500 o chwaraewyr pêl-droed benywaidd o dan 18 oed wedi'u cofrestru yn ogystal â bron i 1,500 o fenywod sy'n oedolion. Credaf efallai y bydd y gemau presennol yn ysbrydoli mwy ohonynt i ystyried cymryd rhan yn hynny. Ond rydych yn hollol gywir fod chwaraeon yn chwarae rhan bwysig ym maes iechyd y cyhoedd, a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru wedi cyfuno chwaraeon ac iechyd y cyhoedd yn yr un portffolio. Rwy'n awyddus iawn i gael gwybod mwy am y rhaglen This Girl Can; efallai y gallwn gael cyfarfod i drafod hynny ymhellach, oherwydd rwy'n awyddus iawn i weld beth y gallwn ei wneud i annog merched a menywod i fod â mwy o ddiddordeb mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol a hamdden yn ogystal. Rwy'n ymwybodol ein bod yn gwneud gwaith gwych drwy Street Games, sy'n annog merched yn benodol i gymryd rhan mewn dawnsio stryd a mathau eraill o weithgaredd sydd y tu hwnt i'r pêl-rwyd a'r hoci traddodiadol, nad ydynt yn apelio at bawb, rwy'n gwybod.
238
Rydych yn hollol gywir i nodi mai gweithio mewn partneriaeth yw'r ateb a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru, gyda Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi penodi cyfarwyddwr gweithgarwch corfforol ar gyfer Cymru, ac mae'r cyfarwyddwr hwnnw yn paratoi cynllun gweithredu ar hyn o bryd. Rydym yn edrych ymlaen at gael hwnnw tua diwedd y tymor hwn. Byddaf yn treulio'r haf yn ei ystyried ac yn siarad â rhanddeiliaid amdano, gyda golwg ar ei gyhoeddi yn nes ymlaen yn yr hydref, a nodi'r camau gweithredu ar gyfer y camau nesaf.
239
Diolch am yr ateb, Ysgrifennydd busnes. Mae ffigurau gan Diabetes UK Cymru yn datgelu bod nifer y bobl sy'n byw gyda diabetes yng Nghymru yn uwch nag erioed. Mae eu cyfarwyddwr wedi tynnu sylw at y diffyg dealltwriaeth o ran ymwybyddiaeth pobl o ddifrifoldeb diabetes. O ystyried mai Cymru sydd â'r gyfradd waethaf o ordewdra ymysg plant, a yw'r Gweinidog yn cytuno bod angen i ni atal plant rhag mynd dros bwysau er mwyn gostwng lefelau diabetes? Pa gynlluniau sydd ganddo i weithio gydag ysgolion a rhieni i wella'r wybodaeth sydd ei hangen i gyflawni'r nod hwn yng Nghymru?
240
Ddoe, Ysgrifennydd y Cabinet, fe glywoch chi a minnau gan bobl sydd â diabetes am y gwelliannau sydd wedi digwydd yn y gwasanaethau ledled Cymru. Mae hynny i'w ganmol ac i'w ddathlu - y gwaith a wnaeth eich rhagflaenydd, Mark Drakeford, ar weithredu'r cynlluniau diabetes. O ganlyniad, rydym yn awr yn destun eiddigedd hyrwyddwyr negeseuon diabetes yn Lloegr, am fod gan bob bwrdd iechyd arweinydd ar gyfer diabetes, ac rwy'n siŵr fod hwnnw'n un o'r rhesymau pam y gwelsom gymaint o welliant yn y ffordd rydym yn gofalu am bobl sydd â diabetes. Ond fe fyddwch hefyd yn cofio i ni glywed gan fam i blentyn a fu farw o ddiabetes math 1 na wnaed diagnosis ohono, ac roeddwn yn meddwl tybed a wnewch chi ddweud rhywbeth ynglŷn â sut y gallwn weithio gyda gwasanaethau eraill i sicrhau bod pawb yn ymwybodol o'r ffactorau risg posibl a'r arwyddion a allai ddynodi fod rhywun â diabetes math 1.
241
Symudwn yn awr at gwestiynau gan lefarwyr y pleidiau i'r Ysgrifennydd Cabinet ac, yn gyntaf yr wythnos yma, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns.
242
Diolch am y cwestiwn. Mae'n bwynt teg i'w nodi ynghylch yr hyn y mae angen i ni ei wneud, ond nid yn gymaint o ran ymateb y gwasanaeth iechyd i'r cynnydd sylweddol mewn atgyfeiriadau canser - yn wir, dros y saith mlynedd diwethaf, mae nifer yr atgyfeiriadau canser brys i mewn i'r GIG wedi dyblu, ac mae'n gyflawniad hynod ei fod wedi llwyddo i ymdrin â'r rheini yn y fath fodd amserol, o ystyried y cynnydd yn y niferoedd - ond mae yna bwynt am ein dealltwriaeth ni fel dinasyddion unigol o negeseuon gofal iechyd a'r ffactorau risg sydd gennym, a manteisio ar y cyfle hwnnw i gael ein sgrinio fel sy'n cael ei ddarparu gan ein rhaglenni mewn gwirionedd. Felly, mae angen deall lle'r ydym yn awr, rhywbeth y bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn edrych arno, ac mae angen i ni bob amser adolygu a deall lle'r ydym yn llwyddo, beth sydd angen i ni wneud mwy ohono ac yn yr un modd, lle nad ydym yn cyflawni'r hyn y disgwyliwn ei gyflawni. Mae'n rhywbeth rwyf wedi'i ddwyn i'w sylw, nid yn unig mewn perthynas â sgrinio serfigol ond hefyd mewn perthynas â chanser y coluddyn, er enghraifft, hefyd, o ran beth arall y gallem ei wneud. Weithiau, mae'n ymwneud â'r prawf ac felly mae'n ymwneud â pherswadio pobl i wneud mwy i ddiogelu eu gofal iechyd eu hunain, yn awr ac yn y dyfodol.
243
Wel, rwy'n credu bod yna ymwybyddiaeth eithaf uchel o sgrinio canser ceg y groth a sgrinio canser y coluddyn hefyd. Yr her yw sut y gallwn ei gwneud yn hawdd i bobl fanteisio ar y cyfleoedd hynny. O ran canser y coluddyn yn arbennig, nid yw'n ymwneud yn gymaint â'r cyngor y mae pobl yn ei gael, oherwydd byddwn yn dilyn y cyngor rydym yn ei gael ynglŷn â'r man mwyaf priodol i bobl gael eu sgrinio, ond mae'n ymwneud â'r prawf. Oherwydd, a dweud y gwir, nid yw'r prawf yn un dymunol iawn i orfod ei wneud ar hyn o bryd; ni wnaf ei ddisgrifio. Ond y realiti yw bod yna botensial ar gyfer prawf newydd - bydd yn haws i'w gyflawni, ac rydym felly yn llawer mwy tebygol o weld llawer mwy yn manteisio arno, a llawer mwy o wyliadwriaeth a rhybudd cynharach i bobl mewn gwirionedd. Felly, mae rhywbeth ynglŷn â sut y gall technoleg a newid helpu pobl i gael prawf sgrinio, a manteisio ar adnoddau sgrinio sydd ar gael. Felly, mae angen i ni ystyried y cynnydd a wnaed a deall os yw'r dystiolaeth yn dweud y bydd yn gwneud gwaith gwell, bydd angen i ni wneud yn siŵr wedyn ei fod yn cael ei gyflwyno mewn ffordd gyson ledled y wlad.
244
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, gydag un o bob wyth o bobl yng Nghymru ar hyn o bryd yn chwilio am help ar gyfer salwch meddwl, beth fydd y Llywodraeth newydd yn ei wneud i wella amseroedd aros ar gyfer mynediad at ofal iechyd meddwl?
245
Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae rhan o'r broblem gydag amseroedd aros am ofal iechyd meddwl yn ymwneud â chyllid. Iechyd meddwl yw'r perthynas tlawd yn ein GIG. A ydych yn cytuno y dylid clustnodi cyllid iechyd meddwl ar lefel lawer uwch na'r gwariant presennol?
246
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, mae toriadau i wariant awdurdodau lleol yn bygwth gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol. Beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i gymell cynghorau yng Nghymru i ddiogelu'r gwasanaethau iechyd meddwl a ddarparant, ac i wneud mwy o ddefnydd o wasanaethau iechyd meddwl y trydydd sector?
247
Diolch, Lywydd. Ddwy flynedd yn ôl, mi wnaeth Plaid Cymru dynnu sylw at amseroedd aros brawychus ar gyfer sganiau MRI yng Nghymru o'u cymharu efo Lloegr a'r Alban. Roedd dros 40 y cant o gleifion bryd hynny yn aros dros chwech wythnos yma, o'u cymharu efo 1 y cant yn Lloegr a 2 y cant yn yr Alban. Rŵan, yn dilyn hynny a chryn sylw yn y wasg ar y pryd, mi wnaethoch chi ymdrech i daclo'r mater ac mae'r amseroedd aros rŵan wedi gostwng - rhyw 17.6 y cant o gleifion sy'n aros dros chwech wythnos am sgan bellach. A ydy'r ffigur yna yn dderbyniol, a pha sicrwydd a allwch chi ei roi y bydd y patrwm o fyrhau amseroedd am sgan MRI yn parhau?
248
Beth mae'r gwelliant, wrth gwrs, yn ei ddangos yw bod ymdrechu yn talu, ac na ddylen ni fyth dderbyn rywsut fod cyfyngiadau cyllidol, neu gynnydd mewn galw, yn arwain yn anochel at amseroedd aros hirach. Fel y dywedais i, fe gafodd sganiau MRI dipyn o sylw yn y wasg gwpwl o flynyddoedd yn ôl. Mae profion diagnostig eraill sydd ddim mor ddeniadol mewn penawdau, efallai, lle mae problemau mawr yn parhau, er enghraifft, colonosgopi neu 'cystoscopy'. Mae perfformiad yn y rheini cynddrwg rŵan ag yr oedd ddwy flynedd yn ôl, efo tua hanner y cleifion yn aros dros chwech wythnos, o'i gymharu â 6 y cant yn Lloegr a 12 y cant yn yr Alban. Mae'r offer yn rhatach ar gyfer gwneud y profion, mae yna lai o alw am y profion ac mi all rhai syrjeris GP wneud y profion eu hunain. Rŵan, ar wahân i aros am benawdau papur newydd, beth wnaiff i chi roi yr un sylw i brofion colonosgopi a 'cystoscopy' ag a wnaethoch chi i brofion MRI?
249
Ond mae yna gamau arloesol y gellid eu cymryd wrth gwrs. Wythnos diwethaf, mi wnaeth sefydliad Cancer Research gyhoeddi adroddiad ar y camau nesaf y maen nhw'n dymuno eu gweld yn cael eu cymryd ar gyfer strategaeth canser i Gymru. Maen nhw'n gofyn am gyflwyno targed pendant 28 diwrnod fel ein bod ni'n gallu gwella cyfraddau goroesi a, drwy hynny, maen nhw'n ychwanegu at y corws o adroddiadau awdurdodol eraill sy'n cefnogi ein polisi ni, fel Plaid Cymru, am gyflwyno targed diagnosis 28 diwrnod. Cyn yr etholiad, mi wnaeth eich Llywodraeth chi wrthod y targed yna, er bod prif oncolegwyr Prydain i gyd, mwy neu lai, yn galw amdano. Rŵan, er mwyn cyrraedd y fath darged, mi fyddai angen gwell amseroedd aros ar gyfer llawer o brofion, gan gynnwys rhoi gwell mynediad uniongyrchol i feddygon teulu, i'r system brofi ac i arbenigedd mewn profi. A wnewch chi, felly, edrych eto ar bolisi Plaid Cymru o sefydlu tair canolfan ddiagnostig, amlddisgyblaeth o'r math sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn mewn gwledydd eraill, gan gynnwys Denmarc, fel rhan o strategaeth i leihau amseroedd am y profion diagnostig, cwbl allweddol yma?
250
Diolch am y cwestiwn. Ein nod yw sicrhau bod gwasanaethau iechyd tosturiol o safon uchel yn cael eu darparu i bobl Sir Benfro. Byddwn yn canolbwyntio ar wella canlyniadau i gleifion ac wrth wneud hynny, cawn ein harwain gan y cyngor a'r dystiolaeth glinigol ddiweddaraf.
251
Diolch am y cwestiwn. Cawsom y ddadl hon cyn yr etholiad ac rwy'n siŵr y byddwn yn ei chael fwy nag unwaith ar ei ôl. Nid wyf yn gweld y ffaith fod yr Aelod wedi'i ailethol yn ei etholaeth yn refferendwm ar y mater penodol hwn. Mae yna heriau go iawn yn yr ardal hefyd rhwng galw clir iawn am gadw gwasanaethau'n lleol ac ansawdd y gwasanaeth a ddarperir, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant wedi adolygu'r newidiadau a wnaed i'r gwasanaethau, mewn gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, ac maent wedi cadarnhau na pheryglwyd gofal neb, ni ddioddefodd neb unrhyw niwed clinigol o ganlyniad i'r newidiadau ac mewn gwirionedd, roedd wedi gwella'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu i'ch etholwyr. Nawr, dyna'r cyngor a'r dystiolaeth glinigol ddiweddaraf. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw Weinidog o unrhyw blaid yn y sefyllfa hon, ar sail y dystiolaeth honno, yn penderfynu newid y gwasanaeth, gan y buasai gwneud hynny'n mynd yn groes i'r dystiolaeth honno ac yn fy marn i, yn gyfystyr â chytuno i ddarparu gwasanaeth salach i bobl Sir Benfro oherwydd y twrw cyhoeddus a gafwyd oherwydd eu bod eisiau i wasanaethau gael eu darparu'n lleol. Mae angen i ni gael cydbwysedd o ran deall y gwasanaethau sydd angen eu darparu mewn canolfannau arbenigol. Rydym angen llai o'r rheini ar draws y wlad er mwyn cyflawni canlyniadau gwell i'n pobl ac ar yr un pryd, er mwyn deall pa wasanaethau y mae gwir angen i ni eu darparu'n lleol a chael mwy o'r gwasanaethau hynny mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol lle bo hynny'n bosibl. Rwy'n sylweddoli fy mod yn annhebygol o ddwyn perswâd ar yr Aelod i newid ei safbwynt yn y drafodaeth heddiw, ond fel y dywedais yn fy ymateb cyntaf, byddaf yn cael fy arwain gan y cyngor a'r dystiolaeth glinigol orau a diweddaraf, a phan fo hynny'n dweud wrthyf nad newid y gwasanaeth yn ôl i'r ffordd yr arferai fod yw'r peth iawn i'w wneud ar gyfer pobl Sir Benfro, ni fyddaf yn gwneud hynny gan nad wyf yn credu bod hynny'n beth cyfrifol i mi ei wneud.
252
Diolch i chi am y ddau gwestiwn. Ydw, rwy'n hapus i drefnu amser cyfleus i ymweld â'r ddau ysbyty ac i gwrdd â staff yn yr unedau bydwreigiaeth. O ran eich pwynt penodol am y cerbyd ambiwlans penodedig, roedd hyn yn rhan bwysig o sicrhau hyder yn y gwasanaeth er mwyn gwneud yn siŵr fod modd trosglwyddo ar frys, lle bo angen, ar gyfer cludo menywod a'u babanod i Ysbyty Glangwili. Mewn sawl ffordd, rwy'n falch ei fod wedi cael ei ddefnyddio lai na'r disgwyl oherwydd mae hynny'n tanlinellu ac yn cadarnhau'r ffaith fod gofal diogel yn cael ei ddarparu yn yr uned dan arweiniad bydwragedd. Cafodd dros 200 o fabanod eu geni yn yr uned dan arweiniad bydwragedd yn Llwynhelyg yn y flwyddyn galendr ddiwethaf: menywod a'u babanod yn cael eu geni'n ddiogel gyda gofal o ansawdd uchel. Dyna ganmoliaeth go iawn i'r bydwragedd eu hunain. Roeddwn hefyd yn awyddus i ganmol y parafeddygon nad ydynt yn eistedd gyda'u traed i fyny yn cael paned o de pan nad ydynt yn cael eu defnyddio i drosglwyddo pobl i Glangwili. Mewn gwirionedd maent yn gwneud gwaith yn yr ysbyty mewn gwahanol dimau, gan ddefnyddio'u sgiliau mewn ffordd sydd o fudd i'r gwasanaeth cyfan. Felly, mae'n enghraifft wirioneddol dda o'r modd y gall integreiddio weithio yn y broses o gynllunio'r gwasanaeth. Byddaf yn bendant yn codi'r mater ac yn trafod gyda bwrdd iechyd Hywel Dda ac ymddiriedolaeth ambiwlans Cymru er mwyn ceisio rhoi dyfodol y gwasanaeth hwnnw ar sail fwy cyson.
253
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. I ddeall yr hyn rydym yn ei wneud, rwy'n mynd yn ôl i ddweud bod yn rhaid i ni gael ei arwain gan y dystiolaeth a'r cyngor. I wneud i hyn weithio, mae'n werth edrych ar yr hyn a ddigwyddodd yn Ysbyty'r Tywysog Philip - nid ar y model penodol yno, ond ar y ffaith fod Ysbyty'r Tywysog Philip wedi peidio â bod yn broblem gan fod clinigwyr yno wedi trafod yr hyn oedd yn bosibl. Rhoesant y gorau i fychanu'r hyn roeddent yn ei wneud. Rhoesant y gorau i ddadlau yn y dafarn a dweud, 'Beth allwn ni ei wneud? Beth allwn ni ei wneud yn ddiogel? Beth rydym ni am ei wneud, a sut mae cyrraedd yno?' Cawsant drafodaeth ymysg ei gilydd ynglŷn ag arwain gofal ac ynglŷn ag arwain newid o fewn yr ysbyty hwnnw fel model, nawr, nad oes fawr iawn o sŵn amdano. At ei gilydd, mae pobl yn cefnogi'r hyn sydd wedi digwydd yno. Rwy'n falch iawn fod yr ymgysylltiad hwnnw â'r gymuned glinigol yn Llwynhelyg yn dal i ddigwydd. Er enghraifft, ar ddechrau mis Mai, cafwyd diwrnod gweithdy yn cynnwys amryw o glinigwyr - gofal sylfaenol yn ogystal â gofal eilaidd a'r cyngor iechyd cymuned - i edrych ar ble y maent a ble y maent am fod hefyd gydag amrywiaeth o'r gwasanaethau hyn. Mae'n rhaid iddynt gael y drafodaeth adeiladol honno oherwydd os na allant gytuno ymysg ei gilydd beth sy'n briodol a beth sy'n angenrheidiol ar gyfer y rhan benodol honno o'r byd a sut y gallant fynd ati i'w ddarparu, rydym yn annhebygol o allu eu cynorthwyo neu wneud dewisiadau y byddai pobl Sir Benfro am eu gweld. Felly, mae deall yr hyn y maent ei eisiau, cael trafodaeth adeiladol a bod yn barod i arwain y newid hwnnw - neu gefnogi dewisiadau anodd os oes rhaid eu gwneud - yn rhan o'r hyn rwy'n meddwl y dylem ei ddisgwyl, ac rwy'n wirioneddol falch o weld bod hyn bellach yn digwydd ar sail fwy cyson yn Llwynhelyg. Mae'n beth da i'r clinigwyr a'r cyhoedd a wasanaethant.
254
Weinidog, byddai ein hargymhellion ein hunain ar gyfer cronfa triniaethau canser Cymru nid yn unig wedi gwella mynediad at feddyginiaethau newydd, modern, ond byddai hefyd wedi gwneud triniaethau canser yn fwy hygyrch i gleifion drwy sefydlu uned trin canser symudol. Mewn rhannau gwledig o Gymru, megis fy etholaeth fy hun yn Sir Drefaldwyn, byddai'n wasanaeth amhrisiadwy wrth gwrs. Fy nghwestiwn, Ysgrifennydd y Cabinet, yw hwn: pa ystyriaeth rydych wedi'i rhoi i sefydlu gwasanaeth trin canser symudol?
255
Fel yn nodoch, Ysgrifennydd Iechyd, nid yw'r gronfa cyffuriau canser yn Lloegr wedi gweithio ac mae'n cael ei diddymu yr wythnos hon. Fodd bynnag, rwyf wrth fy modd fod y Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gronfa triniaethau newydd, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi ymrwymo i adolygiad pellach o'r system ceisiadau cyllido cleifion unigol hefyd. Fel y gwyddoch, ers amser maith rwyf wedi cefnogi'r angen i newid i banel cenedlaethol a fyddai'n sicrhau cysondeb a thegwch wrth wneud penderfyniadau, a hoffwn weld diwedd ar y prawf eithriadoldeb hefyd, gan nad wyf yn credu bod llawer o glinigwyr yng Nghymru yn ei gefnogi. Pa sicrwydd y gallwch ei gynnig y bydd yr adolygiad hwn yn cael ei gynnal yn gyflym, ond hefyd y byddwch yn sicrhau bod safbwyntiau clinigwyr a chleifion yn cael eu hystyried?
256
Ysgrifennydd y Cabinet, fel rydych wedi'i ddatgan yn aml, a'i ailadrodd y prynhawn yma, mae'r angen am gronfa triniaethau yn ymestyn y tu hwnt i fater cyffuriau canser a dylai ymgorffori ystod eang o driniaethau, gan gynnwys ffurfiau newydd ar radiotherapi, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi hyrwyddo hynny yn y Cynulliad diwethaf - radiotherapi stereotactig CyberKnife ar y corff, a therapi pelydr proton, ac mae digwyddiad gwybodaeth yn cael ei noddi gan Bethan Jenkins ar y mater hwn yfory mewn gwirionedd. Ond maent yn dibynnu ar offer a gweithlu wedi'i hyfforddi. Felly, pa strategaethau buddsoddi a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod rhagor o driniaethau o'r fath ar gael ledled Cymru, a pha anghenion gweithlu a nodwyd ar gyfer darparu'r rhain?
257
Rwy'n disgwyl i'r byrddau iechyd weithio gyda'u partneriaid i sicrhau bod pobl yn cael mynediad amserol at wasanaethau gofal brys pan fyddant eu hangen. Mae'r rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal heb ei drefnu yn gyrru dull gweithredu ar sail system gyfan i hwyluso newid cynaliadwy a gwella gwasanaethau iechyd a gofal heb ei drefnu ar draws Cymru.
258
Diolch am y cwestiwn dilynol. Pan gaiff y ffigurau eu cyhoeddi ar gyfer mis Ebrill, rwy'n disgwyl y byddwn yn gweld gwelliant pellach o ran y nifer sy'n aros 12 awr, ac mewn gwirionedd, mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi gwneud gwaith cymharol dda yn lleihau nifer y bobl sy'n aros 12 awr. Maent yn gwybod, o fy safbwynt i, fy mod yn disgwyl gweld cynnydd pellach fel bod llai a llai o bobl yn aros 12 awr mewn unrhyw un o'n hysbytai yma yng Nghaerdydd a'r Fro. Felly, gwnaed cynnydd, ond mae angen gwneud llawer mwy o gynnydd eto, dyna yw'r pwynt rwy'n meddwl. Mae'n bwysig i mi fod y system yn gytbwys cyn i ni wynebu'r gaeaf. Nid wyf am weld system gofal heb ei drefnu nad yw wedi gwella ac nad yw'n sefydlog cyn i ni wynebu misoedd y gaeaf a phwysau'r gaeaf sy'n anochel. Rydym i gyd yn gwybod bod pwysau'r gaeaf ar draws gwledydd y DU yn golygu bod newidiadau yn niferoedd y bobl sy'n dod i mewn ac aciwtedd y bobl sy'n dod i mewn i'n system gofal heb ei drefnu a faint o amser y mae'n aml yn ei gymryd i drin y bobl hynny hefyd. Nid ydym yn wynebu her sy'n unigryw yn yr ystyr honno, ond nid yw'n ymwneud yn unig â'r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys: mae'n ymwneud â'r hyn sy'n digwydd yn y gymuned i osgoi gorfod derbyn pobl i uned ddamweiniau ac achosion brys yn y lle cyntaf, a hefyd yr hyn sy'n digwydd ynglŷn ag oedi wrth drosglwyddo gofal, fel bod pobl yn gallu gadael yr ysbyty pan fo'n briodol iddynt wneud hynny. Felly, rhaid ystyried gweithredu ar sail system gyfan, nid yn unig ar sail ffigurau mewn uned ddamweiniau ac achosion brys o ran y ffigurau pedair awr a 12 awr, ond er mwyn deall yr hyn y gallwn ei wneud ar sail dull system gyfan o weithredu. Fel rwy'n dweud, rwy'n meddwl y byddwch yn gweld gwelliant eto pan gyhoeddir y ffigurau ar gyfer mis Ebrill.
259
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae'n tynnu sylw at y ffaith fod pwysau ar draws y DU, ac rydym yn gweithredu mewn ffyrdd gwahanol i oresgyn y pwysau hynny. Yn Lloegr, maent wedi mabwysiadu dull o weithredu sydd wedi lleihau cyllid ar ofal cymdeithasol i oedolion. Rydym yn gwario 7 y cant y pen, neu £172, yn fwy yng Nghymru nag yn Lloegr ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Rydym hefyd wedi mabwysiadu dull gwahanol oherwydd y ffordd y caiff ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eu trefnu. Nid oes gennym y berthynas gystadleuol, a gelyniaethus ar adegau, rhwng darparwyr yn Lloegr, er enghraifft. Mae hynny'n golygu ein bod wedi gallu edrych ar oedi wrth drosglwyddo gofal drwy weithredu ar sail system gyfan, gan weithio gyda system ofal nad yw wedi'i flingo o gyllid, ac mewn gwirionedd mae morâl staff yn Lloegr yn arbennig o anodd. Dyna pam ein bod wedi gweld gostyngiad yn ystod y misoedd diwethaf yn lefelau oedi wrth drosglwyddo yma yng Nghymru, sy'n uwch nag erioed yn Lloegr ers i'r ffigurau ddechrau mewn gwirionedd. Felly, mae yna wersi go iawn i'w dysgu o'r hyn rydym yn ei wneud yma yng Nghymru, a'r pwyntiau cadarnhaol ynghylch hynny, ond nid oes hunanfoddhad yma, oherwydd yr hyn rydym wedi'i wneud yw rheoli'r hyn sydd angen i ni ei wneud a deall mwy am yr hyn a wnawn fel nad yw pobl yn cael profiad gwael o fynd i mewn i'r system gofal heb ei drefnu, ac yn yr un modd, maent yn symud i le priodol yn y system ofal sy'n diwallu eu hanghenion ac yn deall beth y gallem a beth y dylem ei wneud i'w cynorthwyo i aros mor annibynnol ag y bo modd. Mae llawer o hynny'n ymwneud â sut rydym yn atal pobl rhag mynd i ysbyty yn y lle cyntaf.
260
Diolch. Mae'n newyddion da iawn, felly, fod Llywodraeth Cymru wedi rhagori ar ei tharged ar gyfer 2016 o ostwng lefelau smygu i 20 y cant. Sut rydych chi'n bwriadu cyrraedd ein targed uchelgeisiol ar gyfer gostwng y lefelau hynny i 16 y cant erbyn 2020?
261
Yr eitem nesaf yw'r cynnig o dan Reol Sefydlog 16.1 i sefydlu Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dros dro. Rwy'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig - Paul Davies.
262
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw'r cynnig i ethol aelodau i bwyllgor. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig - Paul Davies.
263
Yr eitem nesaf yw'r ddadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21 (iv). Cyn inni ddechrau ar y ddadl yma, rydw i eisiau atgoffa Aelodau am fy nisgwyliadau o ran ymddygiad yn y Siambr. Mae hwn yn bwnc lle mae barn gryf ar y ddwy ochr, a hynny ar fater sy'n amserol iawn. Dylai hynny olygu ein bod yn cael dadl nawr sy'n ddiddorol, yn ddifyr ac yn angerddol. Ond nid yw hynny'n esgus dros heclo neu siarad dros siaradwyr neu unrhyw fath o ymddygiad a fyddai'n amharu ar urddas y lle yma. Rydw i hefyd eisiau atgoffa Aelodau, o ystyried lefel y diddordeb yn y ddadl a'r pwnc yma, fy mod i am alw cynifer o Aelodau â phosibl. Byddaf felly'n cyfyngu'r siaradwyr i dri munud yr un, ac eithrio'r rhai sy'n agor a chau'r ddadl, a'r Gweinidog sy'n ymateb. Gan mai dadl Aelodau unigol yw hon, byddaf hefyd yn ymdrechu i sicrhau adlewyrchiad teg o'r ddau safbwynt wrth alw Aelodau, yn hytrach na'r cydbwysedd pleidiol, fel y byddwn yn arfer. Felly, rydw i'n galw, i wneud y cynnig, Eluned Morgan.
264
Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Wrth gwrs, gwrandewais ar y cyfweliad a wnaeth y person hwnnw mewn gwirionedd, a phan gafodd ei herio yn ei gylch dywedodd na allai roi unrhyw sicrwydd. A ydych yn dweud y gallai roi sicrwydd neu a ydych yn cytuno ag ef na all roi sicrwydd, dim ond rhestr o ddymuniadau?
265
Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Wrth gwrs, un o'r dadleuon nad ydych wedi crybwyll yw pwysigrwydd diogelu hawliau gweithwyr drwy Ewrop. Roeddech yn aelod o Lywodraeth Thatcher yn yr 1980au a aeth ati i ddinistrio undebau llafur, i chwalu hawliau gweithwyr, a malu Undeb Cenedlaethol y Glowyr a'r diwydiant glo; cyn y gellir sicrhau unrhyw hyder neu gred y bydd eich ymgyrch yn gwneud unrhyw beth i gefnogi hawliau gweithwyr, onid ydych yn credu y dylech ymddiheuro am eich rôl yn Llywodraeth Thatcher yn yr 1980au?
266
Diolch i Neville Chamberlain ein bod wedi cael tâl gwyliau. Diolch i fenywod Dagenham, ac i Barbara Castle ein bod wedi cael cyflog cyfartal yn y gwaith. Lywydd, mae ymgyrchoedd yn datgelu cymeriad. Wrth i ni siarad, mae Prif Weinidog Cymru yn sefyll ochr yn ochr â David Cameron - yn unedig yn erbyn pobl sy'n llywodraethu eu hunain, yn unedig dros symud yn rhydd a mewnfudo digyfyngiad, yn unedig gyda Phrif Weinidog a geisiodd ddiogelu cyllideb yr UE mewn termau real, nes iddo golli pleidlais yn y Senedd. Yn ddiweddarach, collodd rai seddi yn y Senedd, er iddo ennill fy un i yn ôl. Yn wir, siaradodd am hyn heddiw, yn yr hyn a allai fod yn sesiwn gwestiynau olaf iddo fel Prif Weinidog. 'Dyddiau da', meddai, wrth iddo hel atgofion am fy methiant. Efallai y byddwn hel atgofion am ei fethiant ef yn fuan. Mae ef a'i Ganghellor eisiau aros, beth bynnag fo'r pris i'r gwirionedd, a beth bynnag fo'r pris i swyddi pobl eraill, am eu bod am ddiogelu eu swyddi, a'u statws. Efallai fod gennyf fewnwelediad i'r rheswm pam y mae'r Canghellor yn gweithredu fel y gwnaeth. Cyfarfûm â'r Canghellor gyntaf adeg wythnos y glas yn Rhydychen. Siaradais mewn dadl, gan ddadlau dros ddiffyg hyder mewn Llywodraeth Geidwadol a oedd newydd ymuno â'r mecanwaith cyfraddau cyfnewid Ewropeaidd, i groeshoelio ein heconomi wrth allor ei phrosiect Ewropeaidd. Wedyn, dywedodd George Osborne wrthyf, er fy mod yn gywir ynglŷn â'r economeg o bosibl, y byddai bob amser yn cefnogi Ewrop, am ei fod yn teimlo bod ganddo fwy yn gyffredin ag aristocratiaeth Ewropeaidd nag â'r dosbarth gweithiol ym Mhrydain. Ddydd Iau nesaf, efallai y bydd y dosbarth gweithiol ym Mhrydain yn brathu'n ôl, am y byddwn yn well ein byd, am ein bod yn ddigon da i lywodraethu ein hunain, am ein bod yn fwy na seren ar faner rhywun arall.
267
Bydd Cymru, yn fwy, rwy'n meddwl, nag unrhyw ran o'n Teyrnas Unedig, rwy'n falch o ddweud, yn well ei byd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Cawn £600 neu £700 miliwn o'r UE, mae rhai yn dadlau ar yr ochr honno, ac eto, fesul y pen, mae ein cyfraniad yn £1 biliwn y flwyddyn, o'i gymharu â thua £16 biliwn rydym yn ei dalu mewn trethiant i Drysorlys y DU, o'i gymharu â'r £32 biliwn a gawn yn ôl mewn gwariant - bwlch o £16 biliwn efallai, o gymharu ag, ar y gorau, £200 miliwn neu £300 miliwn, un ffordd neu'r llall. Eto i gyd, mae ei blaid eisiau gadael y Deyrnas Unedig, pan fyddwn yn well ein byd fel Prydain annibynnol, mewn cymuned o'r byd, gan godi ein llygaid at y gorwel, yn well ein byd allan - [Torri ar draws.] - yn masnachu gydag Ewrop -
268
Yn gyntaf oll, nid oes y fath beth ag arian Ewropeaidd - arian Prydeinig yn dod yn ôl i ni ar ôl iddynt ddwyn ei hanner ydyw. Ond yma hoffwn oedi a myfyrio efallai ar sefyllfa gyfansoddiadol Cymru o fewn Ewrop. Fel rydym i gyd yn gwybod, nid yw Brwsel ond yn cydnabod Cymru fel rhanbarth yn unig yn Ewrop; nid oes ganddi statws cenedlaethol, er bod bodolaeth y Senedd hon ynddi'i hun yn brawf o'n statws cynyddol fel cenedl o fewn y Deyrnas Unedig. Felly, rwy'n awgrymu wrthych - [Torri ar draws.] Rwy'n awgrymu wrthych mai ffwl yn unig a fyddai'n cyfnewid bod yn genedl mewn undeb o genhedloedd a alwn yn Deyrnas Unedig am fod yn rhanbarth mewn cydgasgliad helaeth o ranbarthau sy'n ymestyn o Fôr y Baltig i Fôr Aegea ac sydd i'w ymestyn yn fuan i'r ochr draw i'r Bosphorus.
269
Nac ydw, oherwydd yr hyn rwy'n dweud wrthych yw bod gennym yng Nghymru berthynas ardderchog â gwledydd eraill yn y Deyrnas Unedig sydd wedi bod o fudd i ni. Nid oes mantais i ni o fewn Ewrop. [Torri ar draws.] Nid oes mantais i ni o fod yn Ewrop. O ystyried y diffyg cyfansoddiadol hwn, pam nad yw'r rhai sy'n aelodau o'r sefydliad hwn yn teimlo na fyddwn yn cael ein cyfran deg o fonws ariannol yn sgil gadael Ewrop? [Torri ar draws.] Roeddwn yn dyfalu efallai y byddwch yn dweud hynny, ond mae yna fonws ariannol yn mynd i fod yn sgil gadael Ewrop. Ac a ydynt yn dweud y byddai'r 40 o ASau Cymru yn San Steffan yn methu â chyflawni eu dyletswyddau o ran sicrhau'r cronfeydd hynny i Gymru? Mae'r rhan fwyaf o'r ASau hynny, wrth gwrs, yn ASau Llafur. Mae Aelodau wedi sôn llawer am hawliau gweithwyr. Pa hawliau sydd gan y rheini sydd ar gontractau asiantaeth neu'n waeth na dim, ar gontractau dim oriau - y math mwyaf anghyfiawn o gyflogaeth er pan oedd gweithwyr y dociau'n dod at giatiau'r dociau i gael eu llogi ar gyfer gwaith un diwrnod neu beidio? Naw wfft i hawliau gweithwyr o dan y Senedd Ewropeaidd. Mae Llafur, mewn difrif, wedi gwerthu eu heneidiau i fusnesau mawr, bancwyr ac elît gwleidyddol Ewrop. Diolch.
270
Yr unig beth a ddywedaf wrthych, David: heb y bobl hynny, beth fyddai'n digwydd i'r diwydiant cig ffres yng Nghymru? A'r GIG?
271
Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Felly galwaf ar Dai Lloyd i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Dai Lloyd.
272
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn, felly rwy'n gohirio'r pleidleisio dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
273
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, ac rydw i'n galw ar David Melding i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
274
Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am ildio. Bu'n siarad am y cymalau cadw a'r rhesymeg sy'n sail iddynt ac roeddwn i'n meddwl tybed a yw wedi cael cyfle i ystyried y cymalau cadw yn yr adran ar berthnasoedd teuluol a phlant, sydd i'w gweld yn cynnwys mabwysiadu a rhai rhannau o'r Ddeddf Plant, ac achosion yn ymwneud â gofal, goruchwyliaeth neu amddiffyn plant. Efallai fy mod yn dehongli hyn yn anghywir ar yr wyneb, ond yn amlwg mae'n peri rhywfaint o bryder i mi ac roeddwn yn meddwl tybed a oedd wedi cael cyfle i feddwl am hynny.
275
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ildio. Mae newydd grybwyll y comisiynwyr heddlu a throseddu. Mae pedwar ohonynt newydd gael eu hethol yng Nghymru: dau o Blaid Cymru, dau Lafur, a phob un o'r pedwar o blaid datganoli'r heddlu.
276
Os mai amcan yr argymhelliad yw dinistrio'r Deyrnas Unedig, ai nod datganoli plismona i Fanceinion yw dinistrio strwythur Lloegr?
277
Diolch i chi am ildio, Brif Weinidog. Rwy'n clywed yr hyn a ddywedwch ar fater datganoli treth incwm, ond a fyddech hefyd yn cytuno ei bod yn bwysig i ni gael eglurder ar y mecanwaith a ddefnyddir i ostwng y grant bloc yn sgil datganoli treth incwm, fel na fydd Cymru ar ei cholled mewn gwirionedd yn y tymor hir?
278
Mae'n ddrwg gennyf os rhoddais yr argraff fy mod wedi dweud ei bod yn ddadl ymwahanol. Nid oeddwn yn dweud ei bod yn ddadl ymwahanol. Dywedais efallai mai dyna'r cymhelliad i'r blaid ymwahanol, yn hytrach na'r hyn sy'n eich cymell chi o bosibl.
279
Symudwn ni ymlaen i'r cyfnod pleidleisio. Cytunwyd y dylid cynnal y cyfnod pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Fe fydd y bleidlais gyntaf ar y ddadl gan Aelodau unigol a'r cynnig yn enw Eluned Morgan, Dawn Bowden a Dafydd Elis-Thomas. Rwy'n agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, yn erbyn 9. Felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
280
Symud felly i'r bleidlais ar ddadl Plaid Cymru ar Fesur Cymru. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Simon Thomas. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, yn erbyn 16. Felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
281
Yn gyntaf, mae angen i mi ddatgan buddiant fel buddsoddwr yn Awel, sef menter gymdeithasol sy'n darparu ynni gwynt ar y tir yn nyffryn Aman. Rwyf am gofnodi mai'r mis diwethaf oedd y mis cyntaf mewn gwirionedd i ni gyflenwi mwy o ynni solar ar draws y DU nag ynni glo, ac felly rydym ar groesffordd yn awr. Mae pob un o'r cwmnïau ynni yn dechrau deffro i'r ffaith fod angen iddynt newid eu modelau, ac maent yn dechrau buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy. Mae'r cwmnïau olew hefyd yn dechrau buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy. Rwy'n bryderus iawn na allai Cymru achub ar y cyfle a'i bod yn cael ei gadael ar ôl yn hytrach na sicrhau bod gennym ynni adnewyddadwy mewn dwylo lleol. Yn amlwg, mae ynni'r llanw ar gyfer y bechgyn a'r merched mawr - mae hwnnw'n fuddsoddiad cyfalaf enfawr - ond gallem gael cynlluniau ar gyfer cynhyrchu ynni'n lleol ar draws ein holl gymunedau os gallwn achub y blaen ar hyn. Mae angen i ni gynorthwyo cymunedau lleol i weld hyn fel mantais, ac mae angen i ni hefyd newid ein perthynas â'r grid fel nad yw'r dosbarthwyr ynni'n lladd prosiectau cymunedol lleol drwy fynnu miliynau o bunnoedd i'w cysylltu â'r grid. Mae'n rhaid i ni allu gwerthu'r ynni yn lleol yn hytrach na'i gludo i ffwrdd i'r grid cenedlaethol yn rhywle. Cytunaf hefyd â Llyr Gruffydd fod yn rhaid i ni edrych eto ar Ran L o'r Rheoliadau tai. Nid oes pwynt adeiladu tai newydd y bydd yn rhaid i ni eu hôl-osod er mwyn sicrhau'r arbedion effeithlonrwydd sydd angen i ni eu gwneud yn ein holl eiddo ar hyn o bryd beth bynnag. Mae angen i ni fachu ar gyfleoedd yn sgil y ffaith fod gan gyrff newydd ddiddordeb gwirioneddol yn hyn ac mae yna farchnad i bopeth y gallai Cymru ei gynhyrchu gyda'r holl adnoddau gwych a niferus sydd gennym.
282
Diolch i chi am ildio. Clywais yr hyn a ddywedoch o ran cymunedau lleol yn cael manteision o gynlluniau ynni adnewyddadwy lleol. Wrth gwrs, dyna beth y dylent ei gael, a dyna beth rydym am iddynt ei gael, ond cafwyd rhai achlysuron yn fy etholaeth pan na chafodd y manteision cymunedol hynny eu gwireddu, ac mae cwmnïau wedi ceisio peidio â rhoi'r lefel lawn o fanteision y dylent eu cael. Felly, a wnewch chi edrych ar ffyrdd o fynd i'r afael â hynny?
283
Diolch. Ar y model economaidd o berswadio adeiladwyr tai i adeiladu tai o safon uwch, mae gennym her sylweddol yn ein hwynebu o ran archwilio model economaidd gwahanol i ganiatáu i hyn ddigwydd, oherwydd ar hyn o bryd nid yw adeiladwyr tai mawr yn y sector preifat yn mynd i gydymffurfio ag unrhyw beth arloesol sy'n ychwanegu at gost y tai niferus y maent yn eu hadeiladu. Felly, pa ystyriaethau sydd gennych chi a'ch cyd-Weinidogion ar gyfer archwilio ffyrdd gwahanol o gyllido tai?
284
Diolch. Rwyf yn awr yn gwahodd arweinwyr y pleidiau, ac eraill, i ddweud ychydig o eiriau, gan ddechrau gyda'r Prif Weinidog, Carwyn Jones.
285
Diolch, Lywydd. Wnes i erioed gwrdd â Jo Cox, ond rwy'n siŵr nad fi yw'r unig sy'n uniaethu ag agweddau ar yr hyn yr ydym wedi ei glywed amdani, ac â pheth o'r wleidyddiaeth yr oedd hi'n ei chynrychioli. Yn hytrach na defnyddio fy ngeiriau i heddiw, byddai'n well gennyf ddefnyddio ei rhai hi. Yn ei haraith gyntaf yn San Steffan, dywedodd Jo Cox AS, Mae ein cymunedau wedi eu gwella yn helaeth gan fewnfudo, boed hynny gan Gatholigion Gwyddelig ar draws yr etholaeth neu Fwslimiaid o Gujarat yn India neu o Bacistan, yn bennaf o Kashmir. Wrth i ni werthfawrogi ein hamrywiaeth, yr hyn sy'n peri syndod i mi dro ar ôl tro wrth i mi deithio o amgylch yr etholaeth yw ein bod yn llawer mwy unedig a bod gennym lawer mwy yn gyffredin â'n gilydd na'r pethau sy'n ein gwahanu.' Nawr, nid yw wedi ei brofi y tu hwnt i bob amheuaeth resymol pa un a gafodd ei lladd oherwydd y credoau hyn, ond mae'n ymddangos i mi mai'r deyrnged fwyaf addas y gallwn ei thalu i'r wraig hon yw cofio ei geiriau ac, er cof amdani, i bob un ohonom ni weithio dros gymdeithas a gwleidyddiaeth lle nad oes casineb.
286
Hoffwn gysylltu fy hun a'm plaid â phopeth a ddywedwyd yma heddiw. Fel Andrew Davies, nid oeddwn yn adnabod Jo Cox; roedd hi'n amlwg yn berson rhyfeddol iawn ar drothwy yr hyn rwy'n siŵr y byddai wedi bod yn yrfa wleidyddol lwyddiannus iawn. Ni fyddai effaith ei marwolaeth drasig wedi arwain at y cyhoeddusrwydd enfawr yr ydym wedi ei weld, oni bai am natur ei phersonoliaeth, ac er nad oeddwn yn ei hadnabod, roeddwn i yn adnabod yr Aelod Seneddol diwethaf i gael ei lofruddio, Ian Gow, yn dda iawn, iawn, felly rwyf yn deall, o brofiad personol, yr effaith ar y rhai a oedd yn ei hadnabod. Dywedodd Rachel Reeves ddoe yn Nhŷ'r Cyffredin yr hyn y mae Andrew Davies newydd ein hatgoffa ohono, fod hon yn drasiedi bersonol hefyd. Er y bydd Batley a Spen yn cael Aelod Seneddol newydd, ni fydd y plant druan hynny yn cael mam newydd, a dylai hynny yn sicr effeithio ar bob un ohonom. A dylem fynd allan, mi gredaf, yn ein gwahanol bleidiau ac yn ein ffyrdd gwahanol, yn yr ysbryd y gwnaeth Jo Cox fyw ei bywyd ac yn ymladd ei gwleidyddiaeth - gyda thrugaredd a pharch, ac, yn anad dim, parch at y ddynoliaeth gyfan. Rwyf yn credu y bydd hi, drwy ei marwolaeth, yn cyflawni llawer mwy nag y bydd unrhyw un ohonom ni yn ei gyflawni yn ein bywydau.
287
Byddwn yn parhau â'n rhaglenni sgrinio'r boblogaeth ar gyfer canser y fron, ceg y groth a'r coluddyn, yn ogystal â gwella ein cymorth i feddygon teulu i adnabod symptomau yn well a gwella'r mynediad at brofion.
288
Wel, mae tîm ymgysylltu sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda thimau iechyd cyhoeddus lleol, byrddau iechyd a chlystyrau gofal sylfaenol i ystyried y nifer sy'n cael profion sgrinio serfigol ym mhob rhanbarth ac mae wedi cynllunio gweithgareddau penodol i wella niferoedd, gan gynnwys gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol. Bu pwyslais penodol ar y grwpiau ym mhob rhanbarth lle mae'r niferoedd sy'n cael eu sgrinio ar eu hisaf.
289
Wel, y claf, wrth gwrs, sy'n bwysig ynglŷn â beth sy'n digwydd fan hyn. Ond, a gaf i ddweud, ynglŷn â phrofion diagnostig, er enghraifft, rydym wedi gweld gwellhad sylweddol yn y flwyddyn ddiwethaf? Mae'r ffigurau o Ebrill 2016, er enghraifft, 23 y cant yn is nag Ebrill y llynedd, a 40 y cant yn is na'r pwynt uchaf ym mis Gorffennaf y llynedd. Beth sy'n bwysig, wrth gwrs, yw bod y profion yn cael eu delio â nhw a bod canlyniadau yn dod yn ôl cyn gynted â phosibl.
290
Oes, mae llawer o fathau o ganser, wrth gwrs, yn dod i'r amlwg mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae pobl yn byw gyda'r symptomau, heb wybod beth yw'r symptomau. Gyda phlant, rwy'n amau - er nad oes gen i gymwysterau meddygol - y dybiaeth bob amser fydd mai rhywbeth arall yw'r broblem. Mae'n anodd i feddygon teulu wneud diagnosis o ganser yn gynnar. Er hynny, yn rhan o ailwampio'r cynllun cyflawni ar ganser, byddwn yn edrych ar yr hyn y gellir ei wneud er mwyn cynorthwyo meddygon teulu a gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol eraill i wella eu gallu i ganfod canser, pan fo hynny'n bosibl, cyn gynted â phosibl.
291
Rwy'n credu fy mod i wedi ateb y cwestiwn hwn wrth ymateb i'r cwestiwn a ofynnwyd gan yr Aelod dros Ynys Môn - sef bod lleihau amseroedd aros diagnostig yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Gwelwn o'r ffigurau a grybwyllais yn gynharach bod amseroedd aros diagnostig yn lleihau yn gyflym iawn yng Nghymru.
292
Diolch am yr ateb, Brif Weinidog. Mae canlyniadau'r arolwg yn dangos yn eglur bod problem gyda'r uwch reolwyr, ac mae'n llawer gwaeth na'r llynedd. Rwyf wedi cael etholwyr sydd wedi cysylltu â mi nad ydynt yn dymuno cael eu henwi, ac maen nhw'n ofnus am y sylwadau y maen nhw wedi eu hanfon ataf, gan ddweud eu bod wedi cael cyfarfod Skype gyda'r cyfarwyddwyr a'u harweinwyr yr wythnos diwethaf - ac roedd hyn yn cynnwys dadansoddiad mwy trylwyr o ganlyniadau'r arolwg - a oedd yn darllen yn llawer gwaeth na'r rhai a gyhoeddwyd. Rwy'n meddwl mai'r teimlad o'r cyfarfod hwnnw oedd bod y problemau gyda'r rheolwyr is, ac y dylent fynd i ffwrdd a cheisio ei ddatrys eu hunain, er eu bod yn ei weld yn fwy fel rhywbeth y mae angen ei ddatrys o'r brig. Brif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthyf sut y bydd hyn yn cael ei wneud, o gofio ei fod yn sefydliad, fel y dywedwch, sydd ar hyd braich oddi wrthych chi eich hun? Sut gwnewch chi gyflawni'r arbedion o £158 miliwn dros 10 mlynedd pan, fel yr wyf yn ei glywed gan staff yno, bod prosesau a chontractau sydd ar waith erbyn hyn yn costio mwy na phan oedden nhw'n cael eu cyflawni gan y sefydliad etifeddiaeth?
293
Brif Weinidog, yn ôl yr arolwg, mae'n destun pryder mawr bod staff yn Cyfoeth Naturiol Cymru yn teimlo eu bod nhw ddim yn cael mynediad i gyfleoedd dysgu a datblygiad personol pan fydd angen arnynt. Wrth gwrs, mae'n bwysig bod pobl yn cael y cyfleoedd hyn. O ystyried bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn atebol i'ch Llywodraeth chi, sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod staff yn y sefydliad hwn yn cael mynediad at gyfleoedd hyfforddi a dysgu i gefnogi eu datblygiad proffesiynol?
294
Mae'r Aelod Plaid Cymru gyferbyn yn iawn i dynnu sylw'r Prif Weinidog at yr arolwg staff diweddar yng Nghyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r canlyniadau yn siomedig ac yn peri pryder. A yw anfodlonrwydd y staff yn adlewyrchiad mewn unrhyw ffordd ar ba mor dda y mae'r corff hwn yn gwasanaethu'r cyhoedd?
295
Galwaf nawr ar arweinwyr y pleidiau i holi'r Prif Weinidog, ac yn gyntaf yr wythnos yma mae arweinydd yr wrthblaid, Leanne Wood.
296
Wel, a gaf i yn gyntaf oll fynegi fy siom braidd at y ffaith fod arweinydd yr wrthblaid wedi achub y blaen arnaf i pan ddaw i longyfarch tîm pêl-droed Cymru? Canlyniad ardderchog neithiwr. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates, yno - mae'n edrych yn dda ar ôl noson o'r fath a welsom. Mae hyn yn hynod o bwysig i Gymru o ran ein proffil ledled y byd a'r ffaith fod llai a llai o bobl a fydd yn dweud, 'Cymru? Ble mae fanno?' Rwy'n credu bod hynny'n hynod o bwysig. Ond mae arweinydd yr wrthblaid yn codi pwynt hynod bwysig, sef, 'Pa neges ydym ni'n ei chyfleu i feddygon a gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol eraill os byddwn yn gadael yr UE?' Rydym ni'n gwybod, er enghraifft, y dywedir bod pobl sy'n dod yma sy'n fewnfudwyr yn rhoi pwysau ar y GIG. Nid wyf yn derbyn hynny; maen nhw'n ifanc yn bennaf, maen nhw'n gweithio ac anaml y byddant yn gweld meddyg. Y gwir yw eu bod yn cyfrannu, yn enwedig y gweithwyr proffesiynol hynny sy'n gweithio yn y GIG, at helpu i ofalu am bobl sâl yng Nghymru. Effaith pleidlais i adael fyddai anfon y neges i weithwyr meddygol proffesiynol, 'Peidiwch â dod yma. Gallwch fynd i unrhyw le arall yn Ewrop, ond peidiwch â meddwl eich bod yn dod yma', a bydd hynny'n ei gwneud yn llawer mwy anodd i ddenu'r arbenigedd meddygol sydd ei angen arnom i mewn i Gymru.
297
Wel, os ydych chi'n feddyg cymwysedig yn yr Undeb Ewropeaidd ac y dywedir wrthych, 'Gallwch deithio i 27 o wledydd eraill heb fod angen fisa, neu ddod i'r DU ond mae angen fisa arnoch chi', nid oes angen athrylith i weithio allan ei bod yn llawer haws mynd i'r gwledydd eraill. Felly, bydd y DU yn troi'n lle mwy anodd i recriwtio staff meddygol i mewn iddo. Ond, bydd, wrth gwrs, bydd effaith ar yr economi. Rwyf wedi treulio llawer o fy amser yn siarad â busnesau, yn denu buddsoddiad i Gymru, ac mae'r ffigurau diweithdra yn dystiolaeth o sut y mae hynny wedi gweithio. Byddai hwn yn glwyf a achosid gennym ni ein hunain. Ni fyddem yn gallu cynnig yr un math o sicrwydd i fusnesau fel y byddai Iwerddon, neu fel y byddai Ffrainc, neu fel y byddai'r Almaen, gan na fyddem yn gallu dweud am flynyddoedd pa fath o fynediad at y farchnad Ewropeaidd y gallai busnesau ei fwynhau pe byddent wedi'u lleoli yng Nghymru, ac mae hynny'n wael i fusnes yng Nghymru.
298
Wel, y gwir amdani yw bod yr UE a'r Unol Daleithiau yn flociau masnachu mawr. Mae'r DU yn llawer, llawer llai. Mae'n dod i lawr i faint o ddylanwad sydd gennych chi yn y farchnad yn y pen draw. Mae hi a minnau yn yr un sefyllfa - ni fyddem ni eisiau gweld unrhyw fath o breifateiddio yn y GIG. A dweud y gwir, rwy'n gweld yr unigolion yn yr ymgyrch i adael - Boris Johnson, Michael Gove, Nigel Farage - ac nid wyf yn ymddiried ynddyn nhw gyda dyfodol ein GIG. Nid wyf yn ymddiried ynddyn nhw gyda dyfodol GIG a ariennir yn gyhoeddus, sydd ar gael yn gyhoeddus, ac, o'm safbwynt i, rwy'n falch bod y gwasanaeth iechyd wedi ei ddatganoli fel na allant gael eu dwylo ar y GIG yng Nghymru. Mae hynny'n hynod bwysig. Ond, na, bydd hi a minnau, rwy'n siŵr, yn rhannu cryn amheuaeth bod y bobl sy'n arwain yr ymgyrch honno wedi cael eu darbwyllo'n sydyn o rinweddau grym y wladwriaeth i sicrhau lles ei phobl.
299